PELLTER/HYD: 4.3 milltir (6.9 km) 2 awr 30 munud
CLUDIANT CYHOEDDUS: *Poppit Rocket 405 (*tymhorol, galw a theithio)
CYMERIAD: Arfordir garw, ymyl clogwyni, lonydd
CHWILIWCH AM: Golygfeydd • adar y môr • daeareg arfordirol
Rhybudd: Mae’r traeth hwn yn anaddas ar gyfer ymdrochi.
Mae’r arfordir o amgylch Ceibwr yn unig ac yn wyllt, mwy felly nag unrhyw adran arall o arfordir Penfro.
Mae’r clogwyni ym Mae Ceibwr wedi eu gwyrdroi a’u plygu’n drawiadol gan symudiadau’r ddaear yn yr oes Galedonaidd, tua 450 miliwn o flynyddoedd yn ôl (nid yw’r traeth yn addas i nofio).
Ar hyd yr arfordir mae yna greigiau llyfn, ogofau, chwythdyllau, traethau bach o gerrig mân nad oes modd eu cyrraedd a bwâu.
Mae unigrwydd y darn hwn o arfordir yn ei gwneud yn lle ardderchog i weld morloi ac amrywiaeth o adar y môr gan gynnwys gwylanod, gwylanod y graig, mulfrain gwyrdd, mulfrain, brain coesgoch, bwncathod, cudyllod coch a chigfrain.
Mae yna fryngaer Oes Haearn hefyd, Castell Treriffith, i’r de o Bwll-y-wrach.
Dewch o hyd i'r daith hon
Cyfeirnod Grid: SN105455
CYMERWCH OFAL!
- Byddwch yn ofalus ar Lwybr yr Arfordir
- Cadwch at y llwybr ac i ffwrdd o ymylon y clogwyni
- Gwisgwch esgidiau cryfion a dillad cynnes, sy’n dal d ŵr
- Cymrwch ofal arbennig mewn tywydd gwyntog a/neu wlyb
- Cadwch lygad barcut ar blant a chwn bob amser
- Cofiwch gau gatiau