PELLTER/HYD: 3.0 milltir (4.9 km) 1 awr 30 munud
CLUDIANT CYHOEDDUS: Bws gwasanaeth Tref Abergwaun 410, terfynfa’r rheilffordd ym mhorthladd y fferi
CYMERIAD: Arfordirol, ychydig o’r daith ar hyd ymyl clogwyni, rhostir, caeau a da byw, cerdded gweddol hwylus, gall fod yn wlyb ac yn gorsiog iawn ar Rhostir Ciliau
CHWILIWCH AM: Tair siambr gladdu Neolithig • golygfeydd gwych o Ben Dinas a’r arfordir • Fferi Stena.
Mae Harbwr Abergwaun wrth ymyl aber yr Afon Gwaun, sy’n codi ym Mynyddoedd y Preseli ac yn llifo trwy Ddyffryn prydferth, serth Gwaun at y môr yn Abergwaun.
Mae Wdig, sy’n rhannu’r bae gydag Abergwaun, yn un o nifer o gymunedau yn Sir Benfro sydd ag enw Llychlynnaidd, atgof o’r adeg pan yr oedd ysbeilwyr a masnachwyr Llychlynnaidd yn hwylio mewn dyfroedd lleol.
Uwchlaw Wdig mae’r pentir yn frith o olion gweithgarwch cenedlaethau llawer cynt, gan gynnwys cerrig sefyll a siambrau claddu. Mae’r un mwyaf diddorol, Garnwnda, ychydig oddi ar y llwybr hwn.
Gyda dyfodiad y rheilffordd i Wdig ym 1906 gwelwyd newidiadau sylweddol i’r hyn a arferai fod yn gymuned bysgota fach.
Am ychydig o flynyddoedd cyn y Rhyfel Byd Cyntaf roedd cychod teithwyr yn galw yn harbwr newydd Wdig ond daeth yr oedfa fer honno i ben gyda’r rhyfel. Wrth gwrs, mae Wdig yn dal i fod yn borthladd ar gyfer y cychod fferi i Iwerddon.
Uwchlaw Wdig mae’r rhostir arfordirol yn cael ei bori unwaith eto i wella’r cynefin ar gyfer bywyd gwyllt. Mae gwartheg a merlod yn bwyta planhigion mawr fel rhedyn er mwyn i’r blodau llai ffynnu unwaith eto.
Ar y pentir garw hwn y cymerodd yr ymosodiad olaf ar Brydain le, ym 1797. Ychydig i’r gorllewin o’r llwybr hwn mae yna biler i goffau’r glaniad gan llu bach o filwyr Ffrengig.
Yn bennaf, cyn-droseddwyr oedd y dynion a anfonwyd i ymosod ar Gymru ac Americanwr, a chafodd eu harwain nid gan Ffrancwr, ond gan Americanwr o’r enw Colonel Tate. Ar ôl glanio, fe aeth mintai Tate o 1,500 o ddynion ati i ysbeilio ffermydd ac mae’n ymddangos eu bod nhw’n poeni fwy am feddwi nag atgyfnerthu eu safle.
Mae’r hyn a ddigwyddodd nesaf wedi bod yn destun chwedlau.
Dywedir eu bod wedi colli’r chwant i ymladd ar ôl meddwl mai grym o gotiau coch oedd grŵp o fenywod lleol yn y pellter. Wrth gwrs, roedd y menywod yn gwisgo dillad coch traddodiadol a hetiau tal, du. Ildiodd y meddianwyr ar Draeth Wdig.
Dewch o hyd i'r daith hon
Cyfeirnod Grid: SM948392
CYMERWCH OFAL!
- Byddwch yn ofalus ar Lwybr yr Arfordir
- Cadwch at y llwybr ac i ffwrdd o ymylon y clogwyni
- Gwisgwch esgidiau cryfion a dillad cynnes, sy’n dal d ŵr
- Cymrwch ofal arbennig mewn tywydd gwyntog a/neu wlyb
- Cadwch lygad barcut ar blant a chwn bob amser
- Cofiwch gau gatiau