Coed Little Milford
PELLTER: 0.7 milltir (1.1 km)
CLUDIANT CYHOEDDUS: Bws gwasanaeth Freystrop 308/309, 359 (Dydd Sul), (780 m ar heol a llwybrau)
CYMERIAD: Cymeriad: Coetir, a pheth cerdded ar yr heol. Dwy sticil.
Gadewch y maes parcio ar y pen uchaf, trwy’r bwlch ar bwys y giât gyda’r arwydd ‘Little Milford’. Dilynwch y llwybr llydan a ble mae’ llwybrau’n croesi, trowch i’r chwith.
Arhoswch ar y llwybr, gan anwybyddu’r llwybrau i’r ochr. Ar ôl tro mawr wrth y fforc, cymerwch y llwybr ar yr ochr dde i fyny’r llethr.
Ewch trwy’r bwlch drws nesaf i’r giât a throwch i’r chwith i lawr y tyle. Ar ôl ychydig bach, trowch i’r chwith ar y llwybr troed (chwiliwch am sticil gyda saeth felen), a dilynwch y llwybr hwn wrth iddo ymdroelli trwy’r coed i lawr i’r lôn.
Croeswch y sticil a throwch i’r chwith, gan ddilyn y lôn yn ôl i’r maes parcio.
Little Milford Gogledd
PELLTER: 0.6 milltir (1.0 km)
CLUDIANT CYHOEDDUS: Bws gwasanaeth Freystrop 308/309, 359 (Dydd Sul), (780 m ar heol a llwybrau)
CYMERIAD: Cymeriad: Coetir, a pheth cerdded ar yr heol. Dwy sticil.
Cymerwch y llwybr i’r chwith wrth y fforc, ewch yn syth trwy’r giât, i fyny yna i lawr y llethr. Pan fydd y llwybr yn cyrraedd nant ar y gwaelod, trowch i’r dde ac eto i’r dde, gan ddilyn arwydd y llwybr troed.
Mae yna ychydig o lwybrau cul yn weledol – dilynwch y llwybr uchaf, mwy clir. Ar y gwaelod, croeswch y sticil a dilynwch y llwybr o gwmpas y gornel ac, ar ôl dod rownd y gornel, cymerwch y llwybr cul i fyny’r llethr ar y dde.
Trowch i’r chwith wrth yr arwyddbost, yna ewch yn ôl at y grisiau a’r sticil o’ch blaen ar y dde.
Croeswch y sticil a throwch i’r chwith, gan fynd yn ôl y ffordd y daethoch at y bont droed a’r bwlch yn y ffens, a throwch i’r dde i’r lôn nôl i’r maes parcio.
Dewch o hyd i'r teithiau hyn
Cyfeirnod Grid: SM965116
COD CEFN GWLAD!
- Mwynhewch y cefn gwlad a pharchu ei fywyd a’i waith
- Gochelwch rhag unrhyw risg o dân • Gadewch glwydi ac eiddo fel rydych chi'n eu cael nhw
- Cadwch eich ci dan reolaeth dynn • Cadwch at y llwybrau cyhoeddus wrth groesi tir amaethyddol
- Ewch â'ch sbwriel adref gyda chi