Dale/Bae Castlebeach

Taith Fer

PELLTER/HYD: 1.7 milltir (2.7 km) 1 awr 30 munud
CLUDIANT CYHOEDDUS: Ewch i wefan Cyngor Sir Penfro i wirio’r wybodaeth ddiweddaraf am lwybrau bysiau ac amserlenni (yn agor mewn ffenestr newydd).
CYMERIAD: Arfordir, llethr ar y clogwyni, caeau a da byw, 0.7 milltir (1.2 km) o gerdded ar isffyrdd. Gall y daith hon fod yn heriol mewn mannau, gan gynnwys llethrau serth, llawer o risiau ac 2 sticil
CHWILIWCH AM: Caer Oes Haearn, olion odyn galch, bae coediog, caer Fictoraidd, golygfeydd i fyny Dyfrffordd Aberdaugleddau.

Does dim llawer o goed i’w gweld ym Mhenrhyn Dale, ond mae’r llwybr hwn yn mynd â ni ar hyd llethrau hir i lawr tuag at y môr, lle gwelwn nifer anarferol o goed.

Y dyddiau hyn, mae Dale yn lle poblogaidd ar gyfer hwylio a bordhwylio, ond mae gan y pentref hanes morwrol cryf.

Yn y 16eg ganrif, roedd yn un o borthladdoedd pwysicaf Sir Benfro gydag enw am fod yn lle i smyglwyr guddio. Yn yr 1850au, roedd cychod yn dal i gael eu hadeiladu yn Dale.

Mae gan Gaer Dale olygfeydd godidog ar hyd Dyfrffordd y Ddaugleddau. Adeiladwyd y gaer Fictorianaidd tu mewn i safle llawer mwy o faint o’r Oes Haearn. Mae’r adfeilion dal i’w gweld yn y cae.

Roedd y gaer yn rhan allweddol o amddiffynfeydd Aberdaugleddau yn y 19eg ganrif. Bellach, mae’n Ganolfan Astudiaethau Maes i fyfyrwyr bioleg y môr.

Mae dringo i lawr i Fae Castlebeach yn bleser. Mae’r dyffryn bach coediog yn teimlo’n gudd, ac yn aml iawn, does neb ar gyfyl y traeth bach. Edrychwch am adfeilion yr odyn galch, lle llosgwyd carreg galch i greu calch i’w ddefnyddio mewn amaethyddiaeth.

Y tu hwnt i’r bae, mae’r llwybr yn dringo i fyny drwy’r coetir. Ar y ffordd i fyny, cadwch lygad am adfail hen fwthyn. Rhwng 1830-1900 roedd teulu lleol o Farloes yn byw yno ac yn
gweithio’r odyn galch. Fel atgof pellach o’r gorffennol, gellir dod o hyd i blanhigion yr ardd o amgylch adfeilion y bwthyn.

Yn ddyfnach yn y goedwig, rydych yn croesi nant dros bont garreg sydd wedi’i hadnewyddu. Pont cart pwll oedd yma’n wreiddiol ac roedd yn rhan o’r ffordd i gludo calch o’r odyn. Mewn gwirionedd, mae’r llwybr rydych yn cerdded arno yn dilyn adfeilion yr hen ffordd honno.

Y tu hwnt i’r bont, mae’r llwybr yn dringo hyd yn oed yn uwch tuag at fan uchaf y llwybr, gyda golygfeydd gwych o’r Ddaugleddau ar draws Bae Watwick, Gerllaw, ceir adeilad amddiffynnol arall, sef y Blocws Gorllewinol trawiadol o oes Victoria.

Bellach yn llety gwyliau, mae wedi’i guddio’n dda. Ochr yn ochr â’r Blocws, saif tri thwr morlywio – mae’r rhain a’r un unigol yn Watwick Point yn cynnig canllaw i’r tanceri wrth iddyn nhw fynd mewn i’r ddyfrffordd.

Daniel Wynn, cyn Barcmon y De Orllewin: “Mae hwn yn ffefryn personol. Cafodd y llwybr ei adnewyddu gyda chymorth Ffrindiau Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro a gwirfoddolwyr eraill.

Bydd amrywiaeth y cynefinoedd ar hyd y daith o ddiddordeb mawr i’r rhai sy’n caru natur, yn enwedig yn y coetir lle gellir gweld heidiau o ditwod cynffon-hir a chnocell y coed yn aml iawn. Mae’r coetir llaith a gwlyb yn lle perffaith ar gyfer ffyngau a chennau o bob math. Yn ogystal, mae’r daith hon yn dathlu hanes lleol drwy ddangos adfeilion o’r gorffennol diwydiannol.”

Dewch o hyd i'r daith hon

Cyfeirnod Grid: SM815046

CYMERWCH OFAL!

  • Byddwch yn ofalus ar Lwybr yr Arfordir
  • Cadwch at y llwybr ac i ffwrdd o ymylon y clogwyni
  • Gwisgwch esgidiau cryfion a dillad cynnes, sy’n dal d ŵr
  • Cymrwch ofal arbennig mewn tywydd gwyntog a/neu wlyb
  • Cadwch lygad barcut ar blant a chwn bob amser
  • Cofiwch gau gatiau