Foel Dyrch

Taith Hanner Dydd +

PELLTER/HYD: 7.6 milltir (12.2 km) 3 awr 30 munud
CLUDIANT CYHOEDDUS: Dim
CYMERIAD: Cymedrol i serth, rhostir, da byw, gall fod yn wlyb mewn mannau, 2.8 milltir (4.5 km) o isffyrdd/traciau
CHWILIWCH AM: Golygfeydd panoramig • bwncathod • ehedyddion • hen chwarelau.

Saif Mynachlog-ddu ar ochr Ddeheuol y Preselau ac mae’r llwybr hwn yn eich tywys chi i’r rhostir uwchlaw’r pentref.

Fe ddywedodd yr awdur a’r darlledwr Wynford Vaughan-Thomas am y Preselau: “Ym mhob man rydych chi’n teimlo presenoldeb yr adeiladwyr bedd megalithig, y rhyfelwyr Oes Haearn a bentyrrau’r cerrig ar gyfer y bryngaerau mawreddog a’r hen saint Celtaidd caredig ac anghofus.”

Ac mae yna ddigon o dystiolaeth o gymunedau cynharach i chwilio amdani wrth i chi gerdded, gan gynnwys carneddau claddu a cherrig sefyll o Oes Newydd y Cerrig a’r Oes Efydd.

I’r gogledd o Fynachlog-ddu mae’r llwybr yn ymylu â llethrau Carn Meini, a fu unwaith yn ffynhonnell bwysig ar gyfer dolerit brith, craig gadarn igneaidd yn frith o grisialau.

Roedd yna alw mawr am y dolerit, neu’r garreg las, yn ystod Oes Newydd y Cerrig fel deunydd crai i wneud offerynnau. Dyma’r garreg a ddefnyddiwyd tua 4,500 o flynyddoedd yn ôl i adeiladu’r cylch mewnol yng Nghôr y Cewri (Stonehenge).

Mae yna ddadlau mawr o hyd ynghylch sut yr aethpwyd â’r cerrig hynny o Garn Meini i Wiltshire. Mae’r rhostir agored yn gyfoeth o fywyd gwyllt ac mae yna siawns dda y gwelwch chi fwncathod a chigfrain ac efallai barcut coch hefyd.

Os ydych chi’n ffodus iawn efallai y gwelwch chi gudyll bach, hebog gwydn, chwim ei adenydd ac aderyn ysglyfaethus lleiaf Prydain.

I’r gorllewin o Fynachlog-ddu mae yna garreg goffa i Waldo Williams, bardd uchel ei barch o Sir Benfro y mae ei waith wedi’i ysbrydoli gan yr ardal leol.

Nodwyd canmlwyddiant genedigaeth Waldo yn 2004 gyda digwyddiadau arbennig yn y gymuned.

Dewch o hyd i'r daith hon

Cyfeirnod Grid: SN154312

COD CEFN GWLAD!

  • Mwynhewch y cefn gwlad a pharchu ei fywyd a’i waith
  • Gochelwch rhag unrhyw risg o dân • Gadewch glwydi ac eiddo fel rydych chi'n eu cael nhw
  • Cadwch eich ci dan reolaeth dynn • Cadwch at y llwybrau cyhoeddus wrth groesi tir amaethyddol
  • Ewch â'ch sbwriel adref gyda chi