PELLTER/HYD: 5.0 milltir (8.0 km) 3 awr
CLUDIANT CYHOEDDUS: Dim
CYMERIAD: Rhostir garw, esgyniad o 200m, da byw
CHWILIWCH AM: Caer Oes Haearn Foeldrygarn a thri charn o’r Oes Efydd • ffynhonnell y cerrig glas/Carn Menyn
MWY O WYBODAETH: Llwybr heb ei ddiffinio rhwng Carnalw a Charn Menyn.
Fe ddywedodd yr awdur a’r darlledwr Wynford Vaughan-Thomas fod brigiadau caregog gwasgarog rhostiroedd y Preselau ‘yn gallu cystadlu gyda rhai Dartmoor o ran eu siapiau trawiadol’.
Ysgrifennodd: “Ym mhob man rydych chi’n teimlo presenoldeb yr adeiladwyr bed megalithig, y rhyfelwyr Oes Haearn a bentyrrai’r cerrig ar gyfer y bryngaerau mawreddog a’r hen saint Celtaidd caredig ac anghofus.”
Yn Foeldrygarn mae’n hawdd teimlo’r ‘presenoldeb’ y mae’n ei ddisgrifio. Ar gopa Carnalw, mae yna gaer fechan o’r Oes Haearn, sy’n dyddio yn ôl i ryw adeg yn ystod y mileniwm diwethaf cyn i’r Rhufeiniaid gyrraedd yn y Ganrif Gyntaf OC.
Mae Foeldrygarn ei hun hefyd ynghanol gwrthgloddiau bryngaer. Ond ei nodweddion mwyaf trawiadol yw’r tri phentwr anferth o gerrig – carneddau – sy’n rhoi eu henw i’r copa, sy’n golygu ‘foel (bryn) y tri charn’.
Ar uchder o 360m (1,190tr) uwchben lefel y môr, mae yna olygfeydd anhygoel o’r tri charn.
Casglwyd a phentyrrwyd y cerrig niferus sy’n ffurfio’r nodwedd ar gopa’r bryn gan drigolion yr Oes Efydd yng ngogledd Sir Benfro, rhwng 4,000 a 3,000 o flynyddoedd yn ôl.
Fwy na thebyg yr adeiladwyd y claddfeydd fel cofgolofn, yn atgof hollbresennol o gyndeidiau pwysig i’r bobl a oedd yn byw ar y llethrau is.
Mae ffurfiau garw’r brigiadau yn ganlyniad i effaith cyfnodau hir o rewi a dadlaith ar y graig. Mae Carn Menyn, ychydig oddi ar y llwybr, yn enghraifft berffaith o’r broses hir ac araf, ac mae Carnalw yn enghraifft berffaith arall.
Ond mae Carn Menyn yn ymfalchïo yn y ffaith mai ei chraig dolerit yw’r garreg las enwog a ddefnyddiwyd I adeiladu cylch mewnol Côr y Cewri (Stonehenge), 280 km (175 milltir) i’r dwyrain o’r Preselau.
Defnyddiwyd dros 60 o’r cerrig glas mawr ar gyfer y gwaith adeiladu – mae yna ddadlau mawr o hyd ynghylch sut y cyrhaeddodd y cerrig Gôr y Cewri.
Mae’r rhostir agored yn gyfoeth o fywyd gwyllt ac mae yna siawns dda y gwelwch chi fwncathod a chigfrain.
Os ydych chi’n ffodus iawn, efallai y gwelwch chi gudyll bach, sef hebog bach gwydn, chwim ei adenydd ac aderyn ysglyfaethus lleiaf Prydain.
Find this Walk
Cyfeirnod Grid: SN165331
COD CEFN GWLAD!
- Mwynhewch y cefn gwlad a pharchu ei fywyd a’i waith
- Gochelwch rhag unrhyw risg o dân • Gadewch glwydi ac eiddo fel rydych chi'n eu cael nhw
- Cadwch eich ci dan reolaeth dynn • Cadwch at y llwybrau cyhoeddus wrth groesi tir amaethyddol
- Ewch â'ch sbwriel adref gyda chi