Dwyrain Freshwater

Taith Fer

PELLTER/HYD: 2.6 milltir (4.2 km) 1 awr 30 munud
CLUDIANT CYHOEDDUS: *Coastal Cruiser (*galw a theithio)
CYMERIAD: Da byw ar Bwynt Trewent, llwybrau’n gallu bod yn dywodlyd
CHWILIWCH AM: Adfer y twyni yn Nwyrain Freshwater.

Ehangder o dwyni tywod – beth welwch chi yma?

Fe ddaeth Dwyrain Freshwater yn ardal hamdden boblogaidd yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg gyda thwf Iard y Llynges yn Noc Penfro.

Rhoddwyd y system dwyni yma o dan bwysau amgylcheddol difrifol trwy blotiau’n cael eu datblygu rhwng Rhyfeloedd y Byd Cyntaf a’r Ail a gan dwristiaeth dorfol.

Daeth y datblygiad i ben ar ôl dynodi Sir Benfro yn Barc Cenedlaethol yn 1952 ac ers hynny mae Awdurdod y Parc wedi gweithio mewn partneriaeth gyda grwpiau lleol i warchod y dirwedd leol a’r bywyd gwyllt.

Gwnaethpwyd llawer o waith yma i adfer y twyni tywod a gellir gweld canlyniad y gwaith heddiw.

Mewn systemau twyni tywod, mae planhigion fel hegydd y forlan, helys ysbigog a betys arfor yn cytrefu blaen y twyni tywod tu ôl i linell y llanw gan ddefnyddio gwymon sy’n pydru fel hwmws, tra bod marchwellt arfor a glaswellt y tywod yn gallu goroesi ymhellach yn ôl yn y twyni gan rhwymo’r tywod at ei gilydd gyda’u systemau gwreiddiau hir (yn aml, caiff glaswellt y tywod ei blannu i drwsio twyni sydd wedi’u difrodi).

Mae planhigion fel celyn y môr a charn ebol y môr yn cytrefu mewn mannau cysgodol ac yna mae hesgen y tywod a llaethlys y môr yn helpu rhwymo arwyneb y twyni.

Gellir gweld coedwig wedi’i boddi yn y bae ar lanw isel iawn.

Dewch o hyd i'r daith hon

Cyfeirnod Grid: SS018983

CYMERWCH OFAL!

  • Byddwch yn ofalus ar Lwybr yr Arfordir
  • Cadwch at y llwybr ac i ffwrdd o ymylon y clogwyni
  • Gwisgwch esgidiau cryfion a dillad cynnes, sy’n dal d ŵr
  • Cymrwch ofal arbennig mewn tywydd gwyntog a/neu wlyb
  • Cadwch lygad barcut ar blant a chwn bob amser
  • Cofiwch gau gatiau