PELLTER: 343 llath (314m) yno ac yn ôl
CLUDIANT CYHOEDDUS: Coastal Cruiser
CYMERIAD: Wyneb caled o raean cywasgu, dim grisiau na chamfeydd, llethrau graddol mewn mannau, glaniadau a mainc yn y man gwylio.
Mae’r llwybr troed yn cychwyn o’r man parcio bach ar ymyl ddwyreiniol y pentref, ac yn arwain at yr olygfan ar gopa’r clogwyn.
Gallwch barcio am ddim, ond mae’r nifer o lefydd yn gyfyngedig i uchafswm o wyth cerbyd. Mae gan y maes parcio arwyneb caled.
O’r maes parcio at yr olygfan mae’r pellter o 157 metr. Mae gan y llwybr troed arwyneb o goncrit gyda lled o 1.2 metr, o leiaf.
Ceir sawl man pasio ac mae yna raddiannau hir ac ysgafn, gyda glaniadau. Mae pob graddiant wedi cael ei wella yn unol â chanllawiau cenedlaethol ac arfer gorau, ac nid ydynt
yn fwy serth nag 1:12.
Bydd ange cymorth ar gadeiriau olwyn a weithredir â llaw. Wrth yr olygfan mae yna banel dehongli, mainc a bwrdd picnic sy’n hygyrch i gadeiriau olwyn ac sy’n edrych allan dros y bae.
Gwnaeth Awdurdod y Parc Cenedlaethol waith gwella sylweddol ar y llwybr ym mis Ebrill 2015, ac fe ariannwyd y gwaith gan Lywodraeth Cymru.
Dewch o hyd i'r taith hon
Cyfeirnod Grid: SS023983
COD CEFN GWLAD!
- Mwynhewch y cefn gwlad a pharchu ei fywyd a’i waith
- Gochelwch rhag unrhyw risg o dân • Gadewch glwydi ac eiddo fel rydych chi'n eu cael nhw
- Cadwch eich ci dan reolaeth dynn • Cadwch at y llwybrau cyhoeddus wrth groesi tir amaethyddol
- Ewch â'ch sbwriel adref gyda chi