PELLTER/HYD: 1.6 miles (2.6 km) 1 awr
CLUDIANT CYHOEDDUS: *Strumble Shuttle 404 (*tymhorol, galw a theithio)
CYMERIAD: Garw mewn mannau, dringfa serth heibio rhan ddeheuol Garn Fawr a Garn Fechan, mwdlyd ac yn llawn tyllau mewn rhannau, 175 llath (160 m) o gerdded ar isffyrdd
CHWILIWCH AM: Bythynnod traddodiadol Sir Benfro a hen ffynnon • golygfeydd gwych, tua’r tir a dros yr arfordir • Bryngaerau Oes Haearn .
Garn Fawr yw’r man uchaf ar y darn hwn o arfordir, gyda’i hen biler triongli Ordnance Survey yn sefyll ar 213m (699 troedfedd) uwchben lefel y môr.
Fel arfer, dewisai adeiladwyr y caerau Oes Haearn bwyntiau mantais da. Yng Ngharn Fawr dewiswyd bryn sydd nawr â golygfeydd godidog dros yr arfordir, y goleudy ym Mhen-caer a phenrhyn gwastad Pen-caer i’r gogledd a’r dwyrain.
Roedd y bobl a adeiladodd y gaer dros 2,500 o flynyddoedd yn ôl yn gwneud defnydd da o linell naturiol y bryn, gan gysylltu ei frigiadau caregog gyda waliau i ffurfio amddiffynfeydd da.
Dros y blynyddoedd mae rhai cerrig wedi cael eu symud neu eu cymryd oddi yno, ond fe allwch chi weld lawer o batrwm ei rhagfuriau o hyd.
Mae yna olygfan o’r Rhyfel Byd Cyntaf ar y bryn hefyd. Mae’r olygfan yn edrych allan dros dirwedd a grëwyd gan ddigwyddiadau daearegol dramatig dros 440 miliwn o flynyddoedd yn ôl.
Bryd hynny roedd llosgfynyddoedd yn weithgar yn yr ardal , ac yn poeri llifoedd lafa a oerodd i ffurfio creigiau igneaidd caled iawn.
Mewn rhai mannau ni chyrhaeddodd y graig dawdd yr arwyneb ond oerodd yn araf o dan y ddaear. Mae’r mewnwthiadau igneaidd hyn wedi gwrthsefyll yr erydiad yn well na’r haenau o’u cwmpas i ddod yn glegyrau caregog.
Un mewnwthiad yw Garn Fawr, ac mae ei chymdogion i’r dwyrain, Garn Fechan a Garn Gilfach hefyd yn fewnwthiadau.
Chwiliwch hefyd am yr adfail bychan wrth ymyl y trac ger fferm Tal-y-Gaer. Credir mai cell meudwy canoloesol yw’r adeilad hwn, ond efallai ei fod yn hynach eto.
Ychydig oddi ar y llwybr mae cildraeth prydferth Pwll Deri, ym mreichiau clogwyni serth trawiadol. Mae’r garreg goffa gerllaw yn coffau’r bardd Dewi Emrys (1879-1952), y mae ei gerdd Pwll Deri yn dathlu’r ardal hon.
Yn hwyr yn yr haf efallai y clywch chi alwad y morloi. Mae yna boblogaeth fawr o forloi llwyd yn arfordir gogledd Sir Benfro ac yn hwyr ym mis Awst a mis Medi maen nhw’n geni eu rhai bach mewn cildraethau tawel fel Pwll Deri.
Dewch o hyd i'r daith hon
Cyfeirnod Grid: SM896388
CYMERWCH OFAL!
- Byddwch yn ofalus ar Lwybr yr Arfordir
- Cadwch at y llwybr ac i ffwrdd o ymylon y clogwyni
- Gwisgwch esgidiau cryfion a dillad cynnes, sy’n dal d ŵr
- Cymrwch ofal arbennig mewn tywydd gwyntog a/neu wlyb
- Cadwch lygad barcut ar blant a chwn bob amser
- Cofiwch gau gatiau