PELLTER/HYD: 1.8 milltir (3.0 km) 1 awr bob ffordd
CLUDIANT CYHOEDDUS: Bws gwasanaeth Broad Haven 311 (Dydd Llun – Dydd Sadwrn), *Pâl Gwibio 400 (*tymhorol, galw a theithio)
CYMERIAD: Dim sticlau, ymyl y clogwyn, y 600m cyntaf yn weddol wastad (yn cynnwys llwybr cadair olwyn 400m), Yna, tonnog ysgafn am 500m, mae’r llwybr yn mynd yn fwy serth o Black Point i Aberllydan. Parcio cyfyngedig ym maes parcio Haroldston Chins, wedi’i adeiladu yn ddiweddar gan Awdurdod y Parc Cenedlaethol.
Mae yna arwyneb ar 400m cyntaf y daith hon ar gyfer cadeiriau olwyn. Mae’r llwybr yn parhau i’r de am 2.6 km cyn mynd i lawr tuag at Aberllydan.
Mae’r 600m nesaf yn eithaf gwastad. Yna, mae’r llwybr yn dilyn cyfres o esgyniadau a disgyniadau cymedrol nes iddo gyrraedd Black Point lle mae’r graddiannau yn fwy serth.
Mae Black Point yn gaer bentir sy’n syrthio’n raddol i mewn i’r môr. Ar y daith hon, mae yna olygfeydd gwych o Fae Sain Ffraid lle gellir gweld gwylanwyddau (gannets) yn aml yn plymio i ddal pysgod.
Ar ddiwrnod clir, gallwch weld Ynys Gwales. Mae’r daith yn ymestyn ar hyd clogwyni uchel, er, gan fwyaf, mae’r llwybr ymhell i ffwrdd oddi wrth yr ymyl.
Dewch o hyd i'r daith hon
Cyfeirnod Grid: SM860149
CYMERWCH OFAL!
- Byddwch yn ofalus ar Lwybr yr Arfordir
- Cadwch at y llwybr ac i ffwrdd o ymylon y clogwyni
- Gwisgwch esgidiau cryfion a dillad cynnes, sy’n dal d ŵr
- Cymrwch ofal arbennig mewn tywydd gwyntog a/neu wlyb
- Cadwch lygad barcut ar blant a chwn bob amser
- Cofiwch gau gatiau