PELLTER/HYD: 2.8 milltir (4.5 km) 1 awr 30 munud
CLUDIANT CYHOEDDUS: Bloomfield Dial a Ride (tymhorol 0800 783 1584)
CYMERIAD: Gweddol wastad, coetir a thraethlin, 1.7 km ar heol dawel gyda golygfeydd da
CHWILIWCH AM: Eglwys Eingl Normanaidd • adar gwyllt a rhydwyr • golygfeydd o ddyfrffordd y Daugleddau
MWY O WYBODAETH: Llwybr ar hyd y blaendraeth yn Garron Pill dim ond ar gael un awr bob ochr i’r llanw 7.2 medr o uchder.
Mae Lawrenni yn bentref bach tlws wrth ymyl cydlifiad afonydd Caeriw a Cresswell a’r Daugleddau. Mae eglwys fach Eingl-Normanaidd Sant Caradog o’r ddeuddegfed ganrif yn edrych allan dros y pentref ac yn werth ei gweld.
Ar un adeg, roedd Cei Lawrenni yn borthladd prysur ond mae’n ganolfan hwylio enwog erbyn hyn.
Ond yr atyniad gwirioneddol yma yw’r coetir: Mae gan Lawrenny un o’r adrannau o goetir hynafol a arferai orchuddio system dyffryn boddedig yr Aberdaugleddau cyfan.
Derw digoes sydd yma yn bennaf, gyda dros 200 rhywogaeth o gen y coed, ac mae’r coed hefyd yn cynnwys y gelynnen, y gerdinen a’r gerddinen wyllt prin (perthynas agos i’r gerdinen) y gellir ei gweld yn hawdd yn yr hydref oherwydd ei dail coch cyfoethog yn erbyn melyn a brown y dderw sy’n troi.
Mae coed a phrysglwyni llaith goddefol yn llawn o’r fedwen gyffredin, yr onn a’r helygen lwyd, ac mae llawr y coetir yn llawn o redyn a mwsogl ac, yn y gwanwyn, clychau’r gog.
Mae mwd cyfoethog glannau’r afon yn ddelfrydol i rhydwyr ac mae’r crëyr, glas y dorlan a’r trochwr yno byth a hefyd.
Dewch o hyd i'r daith hon
Cyfeirnod Grid: SN015075
COD CEFN GWLAD!
- Mwynhewch y cefn gwlad a pharchu ei fywyd a’i waith
- Gochelwch rhag unrhyw risg o dân • Gadewch glwydi ac eiddo fel rydych chi'n eu cael nhw
- Cadwch eich ci dan reolaeth dynn • Cadwch at y llwybrau cyhoeddus wrth groesi tir amaethyddol
- Ewch â'ch sbwriel adref gyda chi