PELLTER/HYD: 3.4 milltir (5.5 km) 2 awr
CLUDIANT CYHOEDDUS: Bws gwasanaeth Maenorbŷr 349/359, Gorsaf rheilffordd 1 milltir i’r gogledd (SS069994)
CYMERIAD: Arfordir garw, ymyl clogwyn, graddiannau, tueddol o fod yn fwdlyd tua’r tir pan fydd y tywydd yn wlyb
CHWILIWCH AM: Castell canoloesol • colomendy • traeth
MWY O WYBODAETH: Agen ddofn wedi’i chuddio ar bentir Priest’s Nose – Cadwch ar y Llwybrau Cyhoeddus
Taith sydd â golygfeydd gwych o’r cwm, morlin trawiadol a siambr gladdu fegalithig…
Saif Maenorbŷr mewn cwm cul wedi’i gerfio gan ddwy nant ac fe’i disgrifiwyd gan Gerallt Gymro fel y “man mwyaf dymunol yng Nghymru,” er, heb os, mae’n rhaid ei fod yn unllygeidiog am iddo gael ei eni yn y castell yma.
Mae’r castell o’r 12fed ganrif, sy’n eiddo preifat y mae pobl yn byw ynddo, ond sy’n agored i ymwelwyr o Ebrill i hydref, wedi ei gadw’n dda gyda phorth a thyrrau crwn da, Neuadd Fawr a chapel cromennog.
I’r gorllewin, mae’r colomendy. Caiff y traeth islaw’r castell ddefnydd da yn yr haf, gan dwristiaid a syrffwyr. Pan fydd y llanw’n isel, efallai y gwelwch chi goedwig wedi’i boddi, olion coetir a foddwyd pan gododd lefelau’r môr i’r lefelau presennol, rhywbryd rhwng 3,000 a 10,000 o flynyddoedd yn ôl, ac a ddiogelwyd gan y dŵr heli a’r tywod o’u hamgylch.
Ar y clogwyni uwchlaw’r traeth, saif Coetan y Brenin, sef siambr gladdu fegalithig gyda phenllech enfawr, sy’n sefyll ar ddwy garreg gynnal yn unig. Colomendy Maenorbŷr, wedi’i adeiladu yn y drydedd ganrif ar ddeg i ddarparu cig ac wyau ffres i drigolion y castell, roedd yr adeilad hwn yn gartref i tua 250 o adar.
Roedd colomennod yn dodwy dau ŵy tua chwe gwaith y flwyddyn a chymerwyd y ‘cywion’ ifanc pan roedden nhw’n dew a suddog yn 4-6 wythnos oed.
Cafodd y colomendy ei adnewyddu’n rhannol yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg a chyflawnwyd yr adnewyddiad presennol gan Grŵp Tirlun Canoloesol Maenorbŷr gyda chymorth hael oddi wrth Gyngor Cymuned Maenorbŷr, sawl rhoddwr preifat, CADW, PAVS ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro.
Mae Libby Taylor, Rheolwr Parcmyn Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro wedi cerdded y daith hon. Mae’n dweud: “Dyma daith sy’n wahanol i’r teithiau eraill ar hyd
arfordir y de, gyda chlogwyni dramatig o dywodfaen coch (yn cyferbynnu gyda charreg galch Stackpole a Bosherston) a phentref hanesyddol, prydferth Maenorbŷr.”
Dewch o hyd i'r daith hon
Cyfeirnod Grid: SS063976
CYMERWCH OFAL!
- Byddwch yn ofalus ar Lwybr yr Arfordir
- Cadwch at y llwybr ac i ffwrdd o ymylon y clogwyni
- Gwisgwch esgidiau cryfion a dillad cynnes, sy’n dal d ŵr
- Cymrwch ofal arbennig mewn tywydd gwyntog a/neu wlyb
- Cadwch lygad barcut ar blant a chwn bob amser
- Cofiwch gau gatiau