Maes Awyr Tyddewi

Taith Fer

PELLTER/HYD: 2.25 milltir (3.6 km) 1 awr 30 munud
CLUDIANT CYHOEDDUS: Bws gwasanaeth Solfach 411, *Pâl Gwibio 400 (*tymhorol, galw a theithio)
CYMERIAD: Hen faes awyr o’r Ail Ryfel Byd, nawr wedi’i adfer yn laswelltir/gweundir
CHWILIWCH AM: Ehedyddion • adfer gweundir.

I raddau helaeth, mae penrhyn Tyddewi yn wastad – llwyfandir gwyntog sy’n frith o frigiadau o graig folcanig wydn a lwyddodd i wrthsefyll y môr pan erydwyd creigiau meddalach gan y môr 70 miliwn o flynyddoedd yn ôl ac yn ddiweddarach gan rewlifoedd o Oes yr Iâ.

I raddau helaeth, mae’n dirwedd agored, ddigoes, ble mae adar cân fel ehedyddion, corhedyddion y waun a chlochdarod y cerrig yn gyffredin ac, yn aml, fe glywch chi ‘cronc’ dwfn y gigfran, sy’n sefyll allan.

Heddiw, mae Maes Awyr Tyddewi yn lle heddychlon. Yn y gwanwyn, mae ehedyddion yn llenwi’r awyr gyda’u cân barhaus ac mae blodau melyn yr eithin yn ychwanegu gwawr o liw at y dirwedd.

Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, roedd Maes Awyr Tyddewi yn fan o weithgarwch parhaus wrth i Rheolaeth Arfordirol y Llu Awyr Prydeinig gymryd rhan ym Mrwydr yr Atlantig.

Fe ddefnyddiai’r LlAP Sir Benfro fel lleoliad ar gyfer ymgyrchoedd awyr dros yr Atlantig, ble yr oedd minteioedd a gariai gyflenwadau o dan fygythiad parhaus ymosodiad gan longau tanfor Almaenig.

Roedd Maes Awyr Tyddewi yn un o wyth maes awyr yn y sir, ac fe’i agorwyd yn haf 1943. Roedd ganddo dair rhedfa ac fe fyddai bomwyr yn hedfan oddi yno ar batrôl morol.

Roedd sgwadronau o fomwyr Fortress, Halifax a Liberator yn hedfan o’r maes awyr. Yn ystod y rhyfel, roedd Tyddewi yn brif ganolfan tra bod Brawdy, ger Niwgwl, yn is-orsaf.

Parhaodd awyrennau milwrol i ddefnyddio Tyddewi hyd nes 1960 ac, yn ddiweddarach daeth yn ardal lanio eilaidd.

Yng nghanol y 1990au, fe brynodd Awdurdod y Parc Cenedlaethol y rhan fwyaf o’r maes awyr nad oedd yn cael ei ddefnyddio ac fe ddechreuodd brosiect tirweddu sylweddol i adfer ac ail-greu cynefinoedd bywyd gwyllt ac i ddiogelu mwynhad a mynediad y cyhoedd.

Dychwelwyd gweddill y maes awyr at ddefnydd ffermio. Roedd y gwaith yn cynnwys adfer ardal o weundir gwlyb isel, rhywbeth na geisiwyd ei wneud o’r blaen.

Fe gafodd yr Awdurdod gymorth yn y prosiect gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

Erbyn hyn, mae rhan o’r hen faes awyr yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) ac mae’n cynnwys gweundir a gwlyptir o bwysigrwydd cenedlaethol.

Mae yna lwybrau troed a ffyrdd seiclo yn croesi’r hen faes awyr. Yn 2002 cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol Cymru ar y safle.

Bellach, Cerrig yr Orsedd – sy’n cynnwys cerrig a gasglwyd o ffermydd lleol gan wirfoddolwyr – yw’r unig atgof o’r digwyddiad diwylliannol pwysig hwn.

Dewch o hyd i'r daith hon

Cyfeirnod Grid: SM786257

COD CEFN GWLAD!

  • Mwynhewch y cefn gwlad a pharchu ei fywyd a’i waith
  • Gochelwch rhag unrhyw risg o dân • Gadewch glwydi ac eiddo fel rydych chi'n eu cael nhw
  • Cadwch eich ci dan reolaeth dynn • Cadwch at y llwybrau cyhoeddus wrth groesi tir amaethyddol
  • Ewch â'ch sbwriel adref gyda chi