Minwear/Tŷ’r Chwiorydd

Taith Hanner Dydd +

PELLTER/HYD: 3.7 milltir (6.0 km) 2 awr
CLUDIANT CYHOEDDUS: Bws gwasanaeth ym Mhont Canaston a cherdded 1 km trwy’r coetir 322/381/385
CYMERIAD: Coedwigoedd, afon a chaeau, gall fod yn wlyb ac yn fwdlyd mewn mannau, 0.4 milltir (0.7 km) o gerdded ar isffyrdd
CHWILIWCH AM: Olion Tŷ’r Chwiorydd (ddim ar agor i’r cyhoedd) • Eglwys Minwear • adar a blodau coetir • pocedi o goed brodorol ee. derw, onn, cyll a choed conifferaidd

Ychydig islaw Pont Canaston, saif Melin Blackpool ar ran brydferth iawn o Ddwyrain y Cleddau. Cyn adeiladu’r felin ym 1813 roedd yna ffwrn efail haearn ar y safle ar lan yr afon a fu yno am fwy na dwy ganrif.

Adeiladwyd Melin Blackpool gyda phedair carreg melin enfawr i falu grawn ac fe fu’r felin ddŵr bron yn malu am ganrif cyn y cafodd y felin olwyn newydd ym 1901.

Ar ôl yr Ail Ryfel Byd, ni ddefnyddiwyd y felin, ond cafodd ei hadfer ym 1968 ac mae bellach yn amgueddfa. Mae llawer o’r llwybr yn pasio trwy Goed Minwear, coedwig fawr gymysg o gonifferau a choed llydanddail.

Mae’n lle gwych i weld adar coetir, gan gynnwys y titw bach â chynffon hir, cnocell smotiog y coed a’r dringwr bach. Yn gynnar yn y gwanwyn, mae ymylon llwybrau’r coetir yn gyfoeth o flodau melyn llachar llygad Ebrill a phren gwyn ysgafn yr anemone.

Islaw’r coed, mae Dwyrain y Cleddau yn troelli rhwng glannau mwdlyd. Yn y felin, mae’r afon yn cyrraedd ei derfyn llanwol, gan adael dylanwad yr heli o’r diwedd. Chwiliwch am adar glan
dŵr, gan gynnwys y crëyr a glas-ydorlan.

Mae gan yr ardal lawer o gysylltiadau gyda’r Oesoedd Canol. Yn agos at y llwybr mae yna olion a elwir yn Tŷ’r Chwiorydd, sy’n dyddio o’r cyfnod canoloesol. Mae’n bosib y bu’n hostel i bererinion benywaidd.

Gerllaw, drws nesaf i Fferm Minwear, mae Eglwys Minwear o’r 12fed ganrif, a arferai fod o dan reolaeth Marchogion Sant Ioan, yr urdd grefyddol a milwrol a sylfaenwyd yn Jerwsalem.

Roedd pencadlys lleol y Marchogion yn Slebets, dros Ddwyrain y Cleddau, ac mae olion eu heglwys o’r 14eg ganrif ychydig dros yr afon o’r llwybr hwn.

Wrth i chi gerdded, edrychwch yn ôl dros y Cleddau ac fe welwch chi Barc Slebets a Pharc Picton gerllaw.

Mae disgynyddion Syr John Wogan yn dal i fyw yng Nghastell Picton – ef a adeiladodd y castell gwreiddiol fel caer ffiniol yn y 13eg ganrif.

Dewch o hyd i'r daith hon

Cyfeirnod Grid: SN046135

COD CEFN GWLAD!

  • Mwynhewch y cefn gwlad a pharchu ei fywyd a’i waith
  • Gochelwch rhag unrhyw risg o dân • Gadewch glwydi ac eiddo fel rydych chi'n eu cael nhw
  • Cadwch eich ci dan reolaeth dynn • Cadwch at y llwybrau cyhoeddus wrth groesi tir amaethyddol
  • Ewch â'ch sbwriel adref gyda chi