Nanhyfer

Taith Fer

PELLTER/HYD: 2.3 milltir (3.8 km) 1 awr 30 munud
CLUDIANT CYHOEDDUS: Bws gwasanaeth ar yr A487 412
CYMERIAD: Cwm coediog, lonydd gwledig, caeau a da byw, mae’r llwybr yn gul gyda graddiannau serth rhwng Coed Glandŵr ac Allt y Cudyll
CHWILIWCH AM: Croes y Pererinion • Eglwys Nyfer • Croes Geltaidd yn iard yr eglwys Castell
SYLWCH: Mae llefydd parcio ar gael drwy ganiatâd caredig y Trewern Arms, peidiwch ag yfed eich diod eich hun na bwyta eich bwyd eich hun yn y maes parcio os gwelwch yn dda.

Cyfle i grwydro trwy goetir ar hyd yr afon.

Mewn coetir lled-naturiol fel Cwm Nyfer mae yna gynefin delfrydol ar gyfer y mochyn daear, y llwynog, y gwningen a’r wenci.

Ble mae’r llwybr yn dod yn agos at yr afon Nyfer chwiliwch am ddyfrgwn ac eog, brithyll môr (sewin) a brithyll brown yn yr afon. Mae’r crëyr, trochwyr a’r siglen hefyd yn bwydo yn yr afon.

Yr Ywen Waedlyd (am Eglwys Nanhyfer)
Wrth i chi ymlwybro drwy’r rhes o goed, chwiliwch am yr “ywen waedlyd” sy’n diferu sudd coch fel gwaed. Yn ôl chwedloniaeth, fe fydd y goeden yn gwaedu hyd nes i Gymro fod yn arglwydd ar y castell ar y bryn unwaith eto.

Croes Nanhyfer
Daw’r groes Geltaidd goeth hon o’r 11eg ganrif gynnar a dim ond tair o’r math yma sydd i’w gweld yn Sir Benfro (mae’r ddwy arall yng Nghaeriw ac ym Mhenalun). Mae yna ddau beth wedi’u hysgrifennu ar ei choes, sef HAUEN, a oedd fwy na thebyg yn enw personol, a DNS, sy’n golygu Dominus, neu Arglwydd.

Eglwys Nanhyfer
Mae’r eglwys hon wedi’i chysegru i’r sant Gwyddelig o’r chweched ganrif gynnar, Brynach. Dywedir iddo siarad ag angylion ar Garn Ingli (neu “Carn yr Angylion”) gerllaw.

Daw rhan o’r eglwys bresennol o’r 12fed neu’r 13eg ganrif, er, credir ei bod yn gorwedd ar safle cynharach. Mae mwy o wybodaeth am ei hanes yn y llyfryn bach sydd ar gael tu mewn i’r eglwys.

Croes y Pererin
Ychydig i lawr y llwybr, ar y dde, fe welwch chi argraffiad croes wedi ei cherfio yn y graig. Credir ei bod yn dod o’r cyfnod canoloesol. Fe fyddai pererinion ar eu ffordd i Dyddewi wedi aros yma am ychydig, i weddïo.

Roedd y llwybr hwn yn boblogaidd, oherwydd roedd dwy bererindod i Dyddewi gyfwerth ag un i Rufain. Fe allwch weld cilfach o hyd ble byddai’r ymwelwyr hyn wedi penlinio, neu efallai wedi camu i fyny i gyffwrdd â’r groes.

Mae Geraint Harries, Rheolwr Wardeiniaid  y Gogledd gydag Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, yn dweud: “Dyma fy hoff daith i. Rydych chi’n cael gwir ymdeimlad o hanes o
gwmpas Nyfer – eich bod chi’n cerdded yn ôl traed y pererinion.”

Nevern Castle site

Castell Nanhyfer

Mae hefyd yn werth mynd i weld olion Castell Nanhyfer, sydd gerllaw

Fry uwchben Nant Gamman, gyda cheunant naturiol â llethrau serth i un ochr, a golygfeydd dros yr ardal wledig gerllaw, mae’r safle hwn wedi bod yn lleoliad amddiffynnol pwysig ers canrifoedd.

Fwy na thebyg bod olion y castell mwnt a beili a welwch chi yma heddiw yn dod o’r oes Normanaidd, ond mae’n bosib fod y safle wedi cael ei anheddu ers yr Oes Haearn, dros 2000 o flynyddoedd yn ôl.

Gallwch gyrraedd y castell trwy gerdded naill ai ar hyd y ffordd neu ar hyd y llwybr troed sy’n arwain trwy’r coetir ger yr eglwys.

Dewch o hyd i'r daith hon

Cyfeirnod Grid: SN082399

COD CEFN GWLAD!

  • Mwynhewch y cefn gwlad a pharchu ei fywyd a’i waith
  • Gochelwch rhag unrhyw risg o dân • Gadewch glwydi ac eiddo fel rydych chi'n eu cael nhw
  • Cadwch eich ci dan reolaeth dynn • Cadwch at y llwybrau cyhoeddus wrth groesi tir amaethyddol
  • Ewch â'ch sbwriel adref gyda chi