PELLTER/HYD: 3.1 milltir (5.0 km) 1 awr 15 munud
CLUDIANT CYHOEDDUS: Bws gwasanaeth Solfach 411, *Pâl Gwibio 400 (*tymhorol, galw a theithio)
CYMERIAD: Arfordir garw, caeau a da byw, gweddol wastad
CHWILIWCH AM: Adar y môr
Mae hanes a natur yn cyfarfod yn nhwnneli a chwarelau Naw Ffynnon…
Mae gan Naw Ffynnon nifer o chwarelau sydd ddim yn cael eu defnyddio sydd, am eu bod nhw’n dal yr haul, yn lloches ar gyfer amrywiaeth o blanhigion a philipalaod.
Mae’r arfordir yn frith o ogofau ac ym Mhorth-y-Rhaw, cildraeth bach, mae yna gaer benrhyn gwych gyda chlogwyni serth i’r dwyrain.
Yn Aberllong gellir gweld olion tri cwch tynnu a ddifrodwyd gan y moroedd garw ar eu taith o Lerpwl yn 1986.
Dywedir mai Ogof Tybaco yw’r fynedfa i dwnnel a arferai arwain o’r ogof i ffermdy Llanunwas er mwyn smyglo contraband i’r lan.
Cerfiwyd cwm Solfach gan ddŵr tawdd rhewlifol ar ddiwedd yr Oes Iâ diwethaf, pan gododd lefelau’r môr a boddi gwaelod y cwm i ffurfio’r porthladd enwog.
Mae Ian Meopham, Parcmon Sector y Gorllewin gydag Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, wedi cerdded y daith hon. Mae’n dweud: “Gellir gweld olion hen gwch tynnu a
olchwyd i’r lan o’r rhan o’r llwybr sy’n pasio’r Crud (neu’r Cradle). Mae yna hanes i ardal Ogof y Smyglwyr, a ddefnyddiwyd ar un adeg i fasnachu tybaco. Ardal wych i weld pili-palaod a gwas y neidr.”
Gwybodaeth gan y BBC
Dewch o hyd i'r daith hon
Cyfeirnod Grid: SM785245
CYMERWCH OFAL!
- Byddwch yn ofalus ar Lwybr yr Arfordir
- Cadwch at y llwybr ac i ffwrdd o ymylon y clogwyni
- Gwisgwch esgidiau cryfion a dillad cynnes, sy’n dal d ŵr
- Cymrwch ofal arbennig mewn tywydd gwyntog a/neu wlyb
- Cadwch lygad barcut ar blant a chwn bob amser
- Cofiwch gau gatiau