Parrog Trefdraeth i’r Cwm

Taith Cadair Olwyn

PELLTER: 0.8 milltir (1.3 km).
CLUDIANT CYHOEDDUS: Cyfeiriwch at wefan Cyngor Sir Benfro.
CYMERIAD: taith hamddenol, ar lwybrau ag arwyneb yn bennaf, ar hyd Bae Trefdraeth. Golygfeydd gwych o’r aber a’r arfordir.
SYLWER: gellir ond cerdded y daith hon pan fydd y llanw’n isel, felly holwch am amserlen y llanw cyn mentro allan.

Mae’r daith hon yn dilyn ymyl deheuol Bae Trefdraeth, o Drefdraeth Parrog allan tua’r môr. Mae yna olygfeydd gwych ar draws Traeth Trefdraeth at y clogwyni ar ochr arall y bae.

Roedd Parrog Trefdraeth yn arfer bod yn borthladd prysur. Adeiladwyd dros 50 o gychod hwylio ar hyd aber y Nyfer, ac roedd gan fasnachwyr lleol gyfranddaliadau mewn dysenni o gychod a fasnachai ar hyd Môr Iwerddon a thu hwnt.

Cadwyd un o’r hen stordai ar y Parrog fel cartref clwb cychod y dref.

Trowch i’r dde allan o’r maes parcio ac ewch i fyny’r ramp ar y dde (graddiant o 1:8 am 7 metr) i’r cawsai (lled 97cm) ac yna i lawr (graddiant o hyd at 1:8 am 6 metr) ar lwybr palmantog. Dilynwch y llwybr o flaen y tai. Mae yna raddiant croes byr o 1:10 ble mae’r llwybr yn mynd i’r dde.

Pan fydd y llwybr yn cyrraedd Rock House (graddiant o hyd at 1:7 am 7 metr) trowch i’r dde ac yna i’r chwith i’r blaendraeth ac ymunwch â’r llwybr concrid am ychydig bach.  Mae’r daith yn mynd yn ôl at y blaendraeth eto, ac er bod y tywod yn gadarn mae yna raddiant croes o hyd at 1:15 (gan ddibynnu ar y tymor) am 23 metr cyn iddo lefelu allan.

Parhewch i ddilyn llwybr amlwg Llwybr yr Arfordir. Ar ôl yr ail sedd mae’r llwybr yn mynd i lawr y tyle gyda dwy adran sy’n 1:6: y cyntaf am 14 metr a’r ail am 5 metr. Ar ôl hyn, mae’r llwybr yn mynd I fyny’r tyle (47 metr ar radiant o 1:10 i 1:7, ac yna 10 metr sy’n 1:15 ).

Mae’r llwybr bellach yn wastad ac yn parhau i ardal eistedd.  Ewch yn ôl yr un ffordd.

Dewch o hyd i'r daith hon

Cyfeirnod Grid: SN051396

CYMERWCH OFAL!

  • Byddwch yn ofalus ar Lwybr yr Arfordir
  • Cadwch at y llwybr ac i ffwrdd o ymylon y clogwyni
  • Gwisgwch esgidiau cryfion a dillad cynnes, sy’n dal d ŵr
  • Cymrwch ofal arbennig mewn tywydd gwyntog a/neu wlyb
  • Cadwch lygad barcut ar blant a chwn bob amser
  • Cofiwch gau gatiau