PELLTER/HYD: 5.0 milltir (8.0 km) 3 awr
CLUDIANT CYHOEDDUS: Bws gwasanaeth Traeth Poppit 407/409, *Poppit Rocket 405 (*tymhorol, galw a theithio)
CYMERIAD: Arfordir garw, caeau a da byw
CHWILIWCH AM: Ailgyflwyno pori arfordirol • y clogwyni uchaf yn y Parc Cenedlaethol (550tr) • ffawtiau trawiadol yn y graig
Taith ar hyd y clogwyni dramatig gyda golygfeydd gwych.
Mae’r clogwyni môr uchaf yn y Parc rhwng Pen Cemaes a Phen-yr-Afr, ac yma y gwelwch chi’r clogwyni’n plygu ac yn gwyrdroi’n ddramatig (effaith symudiadau pwerus y ddaear orogenesis dros filiynau o flynyddoedd), sy’n datgelu strwythur a strata cramen y ddaear.
Mae’r daith hon yn wych os ydych am weld adar môr, yn enwedig gwylanod fel yr wylan gefnddu.
Mae gwylanod y graig, mulfrain, a gwylogod yn nythu ar y clogwyni yn ystod y gwanwyn ac yn gynnar yn yr haf. Chwiliwch am y fran goesgoch (brain prin gyda phig a choesau coch sy’n gwneud triciau gwych yn yr awyr), cigfrain, cudyllod coch, bwncathod, clochdar y cerrig (stonechat) a’r jac-y-do hollbresennol.
Mae ailgyflwyno pori arfordirol gan ferlod yn ddiweddar wedi gwella ansawdd y rhostir ar gopa’r clogwyni a’r cynefin glaswelltir ar gyfer y fran goesgoch ym Mhwynt-y-Bar wedi gwella.
Mae clustog Fair a serennyn y gwanwyn yn gyffredin ar y llethrau i’r gorllewin ac mae’r grug, y grug clochog, rhedyn a’r eithin yn gorchuddio’r rhos.
Allan yn y bae, weithiau gellir gweld dolffiniaid trwynbwl ac mae morloi yn bridio ar y traeth o Awst i fis Hydref. Mae yna olygfeydd gwych dros Fae Aberteifi ac efallai y gwelwch chi Eryri ar ddiwrnod clir.
Mae Geraint Harries, Rheolwr Warden Adran y Gogledd gydag Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, yn dweud: “Cofiwch fod yn wyliadwrus. Os ydych chi am weld dolffiniaid neu lamhidyddion, yna mae Pen Cemaes yn un o’r mannau gorau ar hyd yr arfordir hwn.”
Dewch o hyd i'r daith hon
Cyfeirnod Grid: SN131501
CYMERWCH OFAL!
- Byddwch yn ofalus ar Lwybr yr Arfordir
- Cadwch at y llwybr ac i ffwrdd o ymylon y clogwyni
- Gwisgwch esgidiau cryfion a dillad cynnes, sy’n dal d ŵr
- Cymrwch ofal arbennig mewn tywydd gwyntog a/neu wlyb
- Cadwch lygad barcut ar blant a chwn bob amser
- Cofiwch gau gatiau