PELLTER/HYD: 4.0 milltir (6.5 km) 2 awr
CLUDIANT CYHOEDDUS: *Strumble Shuttle 404 (*tymhorol, galw a theithio)
CYMERIAD: Arfordir garw, ymyl clogwyni, caeau a da byw
CHWILIWCH AM: Olygfeydd o Benberi • fferm estynedig pentrefan Cymreig Treleddyd Fawr
NODWCH: Dim parcio ceir. Mynediad i’r daith gerdded ar fws yn unig.
Ydych chi am weld ehangder cyfan arfordir gorllewin Sir Benfro? Wel, rhowch dro ar y daith hon i weld golygfeydd godidog…
O frig Carn Penberi gallwch weld gorllewin Sir Benfro yn ei chyfanrwydd o’ch blaen, o Benrhyn Tyddewi i Ynys Dewi ac ar draws ehangder Bae St Brides i Sgomer.
Penberi yw’r cyntaf mewn cyfres o fryniau cribog wedi’u gwneud o graig igneaidd galed ar hyd arfordir gogledd penrhyn Tyddewi. (Y lleill yw Carn Treliwyd, Carn Perfedd, Carnedd Lleithr a Charn Llidi.)
Pan oedd lefel y môr lawer yn uwch bron 70 miliwn o flynyddoedd yn ôl, ynysoedd oedden nhw.
Mae’r môr wedi erydu’r creigiau mwy meddal o’u cwmpas i greu’r llwyfandir a dorrwyd gan y tonnau sydd bellach yn llunio’r rhan fwyaf o Sir Benfro.
Gwybodaeth gan y BBC
Dewch o hyd i'r daith hon
Cyfeirnod Grid: SM765295
CYMERWCH OFAL!
- Byddwch yn ofalus ar Lwybr yr Arfordir
- Cadwch at y llwybr ac i ffwrdd o ymylon y clogwyni
- Gwisgwch esgidiau cryfion a dillad cynnes, sy’n dal d ŵr
- Cymrwch ofal arbennig mewn tywydd gwyntog a/neu wlyb
- Cadwch lygad barcut ar blant a chwn bob amser
- Cofiwch gau gatiau