PELLTER/HYD: 4.9 milltir (7.9 km) 3 awr
CLUDIANT CYHOEDDUS: *Celtic Coaster 403, *Strumble Shuttle 404 (*tymhorol, galw a theithio)
CYMERIAD: Arfordir garw, ymylon clogwyni, caeau a da byw, bryniau
CHWILIWCH AM: Siambr Gladdu Neolithig, Coetan Arthur • Carn Llidi
MWY O WYBODAETH: RHAID CADW CWN AR DENNYN ym Mhorthmawr Uchaf, cywion ieir buarth yn crwydro.
Sawl rhywogaeth fyddwch chi’n ei weld yn un o fannau mwyaf heulog Cymru?
Yn y clogwyni a’r dyfroedd o amgylch Penmaen Dewi mae yna amrywiaeth gyfoethog o gynefinoedd ar gyfer anifeiliaid, planhigion a bywyd morol.
Mae’r ardal yn un o lefydd mwyaf heulog Cymru, ac mae hyn yn annog toreth o flodau gwyllt yn y gwanwyn a’r haf, gan gynnwys gludlys arfor, lluglys yr ychen, llysiau’r afu, llygaid llo mawr, pys ceirw a chlychau’r gog.
Mae yna lond lle o bili-palaod hefyd, fel y brith perlog bach, iâr fach y graig a’r pili-pala bach glas. Ar lethrau uwch, mae glaswelltir a gweundir arforol yn tyfu, gyda’r ddraenen ddu, gwyros a mieri ger y clogwyni.
Dros ardaloedd sy’n cael eu pori (mae llawer o’r ochr tua’r tir yn cael ei ffermio’n ddwys) dim ond serennyn y gwanwyn, llyriad corn y carw, corbys a theim sy’n gallu tyfu’n dda yn y pridd tenau.
Efallai y gwelwch chi hebog tramor ar hyd y clogwyni ac ambell i fulfran wen allan tua’r môr. Chiliwch am ddolffiniaid a llamhidyddion hefyd.
O amgylch y Porth Mawr, mae gwiber, sy’n hawdd eu hadnabod oherwydd y patrwm diemwnt rhyng-gloedig amlwg ar eu cefn, yn gyffredin – maen nhw wrth eu bodd yn y glaswellt ger y twyni tywod.
Chiliwch am friallu Mair, hesg môr a thegeirianau pyramidaidd sy’n ychwanegu lliw at y twyni. Tua’r tir yng Ngharn Llidi, gallwch weld system cae bach Celtiaid yr Oes Haearn o hyd pan na fydd y rhedyn yn rhy uchel, ac mae olion cromlech, Coetan Arthur, yn edrych allan dros Benmaen Dewi ei hun tua’r gorllewin.
Mae Ian Meopham, Parmon Sector y Gorllewin gydag Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro wedi cerdded y daith hon. Mae’n dweud: “Taith gerdded wych os ydych am weld y frân goesgoch, mulfrain gwyn a llamhidyddion. Chiliwch am siambr gladdu Neolithig hynafol Coetan Arthur a bryn Carn Llidi, sy’n edrych allan dros Benmaen Dewi. Mae yna olygfeydd gwych allan tuag at yr Esgobion a’r Clercod o’r pentir. Yn y gwanwyn, mae yna wledd o serennyn y gwanwyn, ac yn yr hydref mae’r gweundir yn blodeuo, chwiliwch am degeirian frith y waun.”
Dewch o hyd i'r daith hon
Cyfeirnod Grid: SM723279
CYMERWCH OFAL!
- Byddwch yn ofalus ar Lwybr yr Arfordir
- Cadwch at y llwybr ac i ffwrdd o ymylon y clogwyni
- Gwisgwch esgidiau cryfion a dillad cynnes, sy’n dal d ŵr
- Cymrwch ofal arbennig mewn tywydd gwyntog a/neu wlyb
- Cadwch lygad barcut ar blant a chwn bob amser
- Cofiwch gau gatiau