PELLTER/HYD: 5.1 milltir (8.2 km) 2 awr 30 munud
CLUDIANT CYHOEDDUS: Dim
CYMERIAD: Llethrau coediog, dyffryn afon, hawdd i gymedrol ond serth ger Tregynon, traciau fferm a da byw, gall fod yn wlyb ac yn fwdlyd, 0.2 milltir (0.25 km) o gerdded ar isffyrdd
CHWILIWCH AM: Eglwys Pontfaen (i fyny’r tyle o’r maes parcio) • cwm coediog ac afon brydferth • rhaeadrau • caer Oes Haearn ger Tregynon.
Mae’r Afon Gwaun yn codi ym Mryniau’r Preseli ac yn llifo trwy Gwm Gwaun hyfryd gyda’i llethrau serth tuag at y môr yn Abergwaun.
Mae’r cwm yn grair o’r Oes Iâ a ffurfiwyd gan swm anferth o ddŵr tawdd a lifodd wrth i’r rhewlifoedd gilio.
Gorweddai Sir Benfro ar ymyl haenen iâ enfawr a lenwodd Môr Iwerddon ac mae proffil siâp ‘v’ Cwm Gwaun yn awgrymu iddo gael ei dorri gan ddŵr a lifai o dan yr iâ.
Heddiw, mae pethau’n llawer tawelach. Mae’r Gwaun yn nant sy’n ymdroelli heibio gorsydd, coetiroedd a dolydd dŵr. Mae yna drwch o goed ar ochrau’r cwm, gyda haenen drwchus o dderi yn tyfu ar raddiannau heriol.
Yn y gwanwyn, mae’r coedwigoedd yn llawn o glychau gwyllt y gog a’r awyr yn gyfoeth o gân yr adar sydd wedi mudo am yr haf fel telor y coed a’r dryw wen. Mae’r bwncath a’r cudyll glas yn gyffredin yma.
Ble mae’r llwybr yn glynu’n agos at y Waun chiliwch am las-y-dorlan a’r siglen lwyd. Efallai hefyd y gwelwch chi drochwr; aderyn bach brown sy’n plymio i mewn i ddŵr sy’n llifo’n gyflym er mwyn hela am fwyd.
Maen nhw mor ddiddos fod y dŵr yn chwyrlio oddi ar eu plu wrth iddyn nhw ddod yn ôl i’r wyneb. Mae Pontfaen a Thregynon ill dau ar yr hen heol tyrpeg o Hwlffordd i Drefdraeth.
Mae eglwys fach Pontfaen wedi ei chysegru i Sant Brynach, cenhadwr o’r 6ed ganrif y dywedir ei fod wedi cymuno gyda’r angylion ar Garn Ingli, sy’n edrych allan dros Gwm Gwaun.
Mae’r eglwys yn un Fictoraidd yn bennaf, ond mae’n bosib fod dwy garreg ac arnynt ysgrifen yn dyddio nôl mor bell ag oes Brynach. Weithiau, disgrifir y cwm fel y cwm ‘dirgel’ ac yn wir mae yna synnwyr o ddirgelwch yma.
Efallai bod y dirgelwch cymaint yn fwy am i gymunedau’r cwm wrthod derbyn y penderfyniad i foderneiddio’r calendr yn y 18fed ganrif ac maen nhw’n dal i ddathlu Hen Galan ar Ionawr 13eg.
Dewch o hyd i'r daith hon
Grid ref: SN024340
COD CEFN GWLAD!
- Mwynhewch y cefn gwlad a pharchu ei fywyd a’i waith
- Gochelwch rhag unrhyw risg o dân • Gadewch glwydi ac eiddo fel rydych chi'n eu cael nhw
- Cadwch eich ci dan reolaeth dynn • Cadwch at y llwybrau cyhoeddus wrth groesi tir amaethyddol
- Ewch â'ch sbwriel adref gyda chi