PELLTER/HYD: 3.4 milltir (5.5 km) 2 awr
CLUDIANT CYHOEDDUS: *Celtic Coaster 403 (*tymhorol, galw a theithio), Parcio a Theithio Tyddewi (tymhorol)
CYMERIAD: Taith arfordirol, ymyl clogwyni mewn mannau, caeau a da byw
CHWILIWCH AM: Harbwr hanesyddol/odynau calch • Capel y Santes Non • clogwyni.
Harbwr naturiol gwych Porth Clais oedd porthladd Tyddewi am ganrifoedd.
Cerfiwyd y dyffryn (ria) gan ddŵr tawdd rhewlifol ac fe’i boddwyd gan y codiad yn lefel y môr ar ddiwedd yr Oes Iâ 12,000 mlynedd yn ôl. Roedd Llychlynwyr yn gwybod am ei hangorfa gysgodol debyg i ffiord dros 1,000 o flynyddoedd yn ôl ac roedd pererinion heddychlon a ddaeth i Dyddewi i chwilio am adnewyddiad ysbrydol hefyd yn gwybod amdani.
Yma, dywedir i Ddewi Sant gael ei fedyddio gan y Sant Elfis, Esgob Munster. Yn ystod y bedydd, llifodd dŵr o greigiau gerllaw gan dasgu i lygaid mynach dall a oedd yn dal y baban Dewi, ac fe gafodd y mynach ei olwg yn ôl.
Mae’r ffynnon hon – Ffynnon Dewi – wrth ymyl y maes parcio ar dir preifat. Hyd nes yn gynnar yn yr 20fed ganrif, roedd llongau masnach yn y porthladd prysur yn cludo glo, pren a chalchfaen ac yn allforio cynnyrch fferm a brethyn.
Mae olion Capel y Santes Non yn agos at y man lle dywedwyd i Dewi gael ei eni. Mam Dewi oedd Non, ac roedd yn ferch i bennaeth lleol. Yn ôl y chwedl, ganwyd Dewi o dan olion hen gromlech, ar ôl i Non gael ei throi allan am fod yn feichiog a hithau heb briodi.
Ar adeg genedigaeth Dewi gwelwyd storom ofnadwy ac fe darddodd llygad ffynnon o’r ddaear. Mae ffynnon y Santes Non yn dal i lifo heddiw a dywedir bod ganddi bŵer i iachau.
Erbyn hyn mae’r tŷ Fictoraidd gerllaw yn lloches i ddioddefwyr, ac adeiladwyd Capel y Forwyn gerllaw yn 1934 yn arddull capel pererindod canoloesol.
Caiff fferm Porth Lisgi ei enw gan y bae gerllaw. Roedd Lisgi yn ysbeiliwr o Iwerddon y dywedir ei fod wedi dal arglwydd rhyfel arall o Wyddel, Boia, ac wedi torri ei ben.
Dywedwyd bod gwersyllfan Boia ar fryn gerllaw a elwir heddiw yn Clegyr Boia. Hawliodd Boia ddyffryn Alun ble sefydlodd Dewi ei fynachdy.
Anfonodd Boia ei ryfelwyr i droi’r sant a’i ddilynwyr allan ond nid oeddent yn llwyddiannus; yn y diwedd, trodd Boia at Gristnogaeth ei hun.
Mae Phil Lees, Rheolwr Wardeiniaid Adran y Gogledd gydag Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, yn dweud: “Dyma daith wych heb unrhyw sticlau ac mae wedi’i thrwytho yn hanes cyfoethog y penrhyn hudolus hwn. Mae ar ei gorau yn y gwanwyn pan fydd blodau’r arfordir rhwng Porth Clais a St Non’s yn gyfoeth o liw, ac yn troi’r clogwyni yn erddi craig gwych. Chwiliwch am y gigfran, gwylan y graig a’r frân goesgoch wrth iddyn nhw rodio uwchben y clogwyni. Ar ddiwrnodau clir mae yna olygfeydd gwych ar draws Bae Sant Ffraid at Benrhyn Marloes a Sgomer, ac i nythle’r gwylanwyddau yn Gwales, sy’n ymwthio allan fel bynen eisin ar y gorwel.”
Dewch o hyd i'r daith hon
Cyfeirnod Grid: SM739237
CYMERWCH OFAL!
- Byddwch yn ofalus ar Lwybr yr Arfordir
- Cadwch at y llwybr ac i ffwrdd o ymylon y clogwyni
- Gwisgwch esgidiau cryfion a dillad cynnes, sy’n dal d ŵr
- Cymrwch ofal arbennig mewn tywydd gwyntog a/neu wlyb
- Cadwch lygad barcut ar blant a chwn bob amser
- Cofiwch gau gatiau