PELLTER/HYD: 2.6 milltir (4.2 km) 1 awr 15 munud
CLUDIANT CYHOEDDUS: Bws gwasanaeth Tyddewi 411 neu 413, *Pâl Gwibio 400, *Y Gwibiwr Celtaidd 403 o Dyddewi i Borth Clais ac yn ôl (*galw a theithio, Pasg tan ddydd Sul olaf mis Medi)
CYMERIAD: Arfordir garw, caeau a da byw, gweddol wastad
CHWILIWCH AM: Porthladd Porth Clais /odynau calch • Capel y Santes Non.
Dewch i weld y fan ble, yn ôl y chwedl, trowyd y Brenin yn faedd anferth
Ar un adeg, ym Mhorth Clais ar aber yr Afon Alun y daethpwyd â nwyddau i mewn i’r eglwys gadeiriol yn Nhyddewi (fe fyddai’r pererinion a ddaeth i ymweld â chysegrfa Dewi Sant yn yr eglwys gadeiriol yn galw Penrhyn Tyddewi yn Dewisland).
Fe fydden nhw’n glanio ym Mhorth Clais ac yn cerdded i’r gysegrfa trwy Ffynnon Sanctaidd a Chapel y Santes Non (islaw Lloches y Santes Non).
Yma, cerfiwyd y porthladd cul gan ddŵr tawdd tua 7000 o flynyddoedd yn ôl ar ddiwedd yr Oes Iâ diwethaf. Roedd yn borthladd prysur yn y unfed ganrif ar bymtheg, ac yn cludo pererinion yn ogystal â charreg galch i’w losgi yn yr odynau calch o gwmpas y porthladd.
Yn ôl y Mabinogi, yn hanes Culhwch ac Olwen, dyma ble y daeth Twrch Trwyth (y brenin Gwyddelig a drowyd yn faedd enfawr gyda chrib a siswrn rhwng ei glustiau) i’r lan.
Mae’n rhaid i chi weld Tyddewi, yr eglwys gadeiriol a Phalas yr Esgob.
Dewch o hyd i'r daith hon
Cyfeirnod Grid: SM745245
CYMERWCH OFAL!
- Byddwch yn ofalus ar Lwybr yr Arfordir
- Cadwch at y llwybr ac i ffwrdd o ymylon y clogwyni
- Gwisgwch esgidiau cryfion a dillad cynnes, sy’n dal d ŵr
- Cymrwch ofal arbennig mewn tywydd gwyntog a/neu wlyb
- Cadwch lygad barcut ar blant a chwn bob amser
- Cofiwch gau gatiau