Rosebush

Taith Hanner Dydd +

PELLTER/HYD: 4.8 milltir (7.7 km) 2 awr
CLUDIANT CYHOEDDUS: Bws gwasanaeth Rosebush 344/345
CYMERIAD: Trac coedwig, rhostir, da byw
CHWILIWCH AM: Foel Cwmcerwyn, y pwynt uchaf yn Sir Benfro • Chwarelau llechi Rosebush

Roedden nhw’n chwarelu llechi ar raddfa fach yn Chwarel Bellstone Rosebush o’r 1820au, ond diolch i’r ffrwydrad yn yr arfer o adeiladu tai yn Oes Fictoria, gwelwyd galw sylweddol am slabiau a llechi ar gyfer toi a denwyd buddsoddiad newydd i mewn i’r ardal hon o Sir Benfro.

Agorwyd Chwarel Rosebush, sydd bellach wedi’i boddi, yn 1842 ac aeth y ddau gwarel cyfagos i mewn i gynhyrchu’n llawn yn ystod 30 mlynedd diwethaf y 19eg ganrif.

Ar anterth y ffrwydrad adeiladu fe gyflogai’r chwarelau 100 o ddynion. Roedd llawer yn byw yn y 26 bwthyn yn Nheras Rosebush, a adeiladwyd yn gartrefi i’r chwarelwyr a’u teuluoedd.

Er mwyn cludo’r llechi, agorwyd rheilffordd yn y 1870au gan gysylltu’r chwarel gyda phrif linell Llundain i’r de. Ond byrhoedlog oedd y ffrwydrad yn y galw am lechi ac roedd y ddwy chwarel wedi mynd i’r wal erbyn 1908.

Wedi i’r farchnad lechi ddirywio, fe geisiodd perchnogion y chwarelau werthu Rosebush fel cyrchfan gwyliau, gan roi cyhoeddusrwydd i fanteision aer y Preseli a’r cyfleusterau yng Ngwesty haearn rhychiog y Prescelly.

Mae’r ddwy chwarel a’r rheilffordd yn farw erbyn hyn ond erys y gwesty, a ailenwyd erbyn hyn yn Tafarn Sinc. Tu hwnt i’r pentref a’r hen chwarelau, mae’r llwybr yn ymuno â’r Heol Aur, yr hen lwybr hynafol sy’n dilyn llinell ucheldir y Preseli. Copa Foel Cwmcerwyn yw’r pwynt uchaf yn y Parc Cenedlaethol, ar 536m (1,757tr).

Credir bod yr Heol Aur yn dyddio nôl 5,000 o flynyddoedd at y cyfnod Neolithig. Mae Geraint Harries, Uwch Barcmon Sector y Gogledd gydag Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, yn
dweud: “Fe all y golygfeydd o Foel Cwmcerwyn fod yn dipyn o sioe ar ddiwrnod clir. Rydych chi’n edrych allan dros Ddyfed yn ei chyfanrwydd, ac mor bell â Dyfnaint ac Iwerddon.”

Find this Walk

Grid ref: SN075294

COD CEFN GWLAD!

  • Mwynhewch y cefn gwlad a pharchu ei fywyd a’i waith
  • Gochelwch rhag unrhyw risg o dân • Gadewch glwydi ac eiddo fel rydych chi'n eu cael nhw
  • Cadwch eich ci dan reolaeth dynn • Cadwch at y llwybrau cyhoeddus wrth groesi tir amaethyddol
  • Ewch â'ch sbwriel adref gyda chi