Sant Ffraid/Marloes

Taith Hanner Dydd +

PELLTER/HYD: 4.6 milltir (7.5 km) 2 awr
CLUDIANT CYHOEDDUS: Bws gwasanaeth Marloes 315/316, *Pâl Gwibio 400 (*tymhorol, galw a theithio)
CYMERIAD: Gweddol wastad, caeau a da byw, sticlau (5), gall fod yn fwdlyd mewn mannau
CHWILIWCH AM: Caer Penrhyn o’r Oes Haearn • Castell ac Eglwys Sant Ffraid.

O’r dyddiau neolithig i’r Oes Haearn – taith gerdded sy’n gyfoeth o hanes

Mae yna lawer o gylchoedd cwt ble daethpwyd o hyd i fflintiau a chrochenwaith yn yr ardal hon. Ar Nab Head roedd yna ffatri fflintiau Neolithig, ac ym Mhwynt Tŵr, caer benrhyn fawr o’r Oes Haearn.

Mae dau o ochrau’r gaer wedi eu hamddiffyn gan glogwyni serth a pheryglus ac mae’r dynesiad wedi’i amddiffyn gan fanc a ffos. Mae yna olygfeydd da allan at Sgomer, sy’n Warchodfa Natur Genedlaethol a ddethlir am ei chytrefi o adar, ac yn ôl ar hyd yr arfordir i Benmaendewi.

Mae Castell Sant Ffraid yn blasdy wledig farwnol o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg gydag amlinelliad castellog a 93 erw o dir parc aeddfed.

Saif eglwys fechan Sant Ffraid ar ymyl Porthladd Sant Ffraid yn edrych allan dros y môr.

Gwybodaeth gan y BBC

Dewch o hyd i'r daith hon

Cyfeirnod Grid: SM803109

CYMERWCH OFAL!

  • Byddwch yn ofalus ar Lwybr yr Arfordir
  • Cadwch at y llwybr ac i ffwrdd o ymylon y clogwyni
  • Gwisgwch esgidiau cryfion a dillad cynnes, sy’n dal d ŵr
  • Cymrwch ofal arbennig mewn tywydd gwyntog a/neu wlyb
  • Cadwch lygad barcut ar blant a chwn bob amser
  • Cofiwch gau gatiau