PELLTER/HYD: 3.2 milltir (5.2 km) 1 awr 30 munud
CLUDIANT CYHOEDDUS: Bws gwasanaeth Saundersfoot 350/351/352/353/333/381/361. Gorsaf rheilffordd 1 milltir i’r gogledd o’r pentref
CYMERIAD: Caeau a da byw, strydoedd y pentref, rhwng Neuadd Coppet a’r porthladd, llwybr arall ar hyd y traeth pan fydd y llanw’n isel
CHWILIWCH AM: Cliwiau i’r gorffennol diwydiannol • Inclein – arferai fod yn rheilffordd ar gyfer y pwll glo • adeiladwyd y porthladd i allforio glo.
Mae yna lawer o straeon am Saundersfoot – mae’n bentref sydd â gorffennol anhygoel…
Er mai cyrchfan wyliau prysur a llewyrchus yw Saundersfoot heddiw, fe ddatblygodd y dref yn wreiddiol o amgylch yr harbwr, a adeiladwyd i allforio glo caled o’r maes glo lleol yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg.
Mae yna dystiolaeth o gloddio am lo o gwmpas Saundersfoot mor gynnar â’r bedwaredd ganrif ar ddeg, er bod y glo yn cael ei forio allan o fannau amrywiol ar hyd yr arfordir.
Yn 1829 ffurfiolwyd y trefniant ad-hoc hwn gan y Senedd ac adeiladwyd rheilffordd yn cysylltu pum pwll glo yn ardal Saundersfoot ar hyd yr harbwr, a oedd hefyd yn gweithredu fel ffowndri yn Stepaside a Wisemans Bridge.
Caeodd y pwll glo diwethaf yn 1939 a’r rheilffordd hefyd; ar un adeg, roedd y Strand yn Saundersfoot yn arfer bod yn Heol y Rheilffordd ble yr oedd y trac wedi ei osod hyd nes Wisemans Bridge (chwiliwch hefyd am dramffordd Incline).
Dynodwyd ardal y Strand, Teras Milford a’r Harbwr yn Ardal Gadwraeth yn 1975 gan Awdurdod y Parc Cenedlaethol ac mae’r dref yn rhan o’r Cynllun Trefi Hanesyddol, sy’n helpu ariannu’r broses o warchod adeiladau sydd o bwysigrwydd hanesyddol yn y dref.
Dewch o hyd i'r daith hon
Cyfeirnod Grid: SN134045
CYMERWCH OFAL!
- Byddwch yn ofalus ar Lwybr yr Arfordir
- Cadwch at y llwybr ac i ffwrdd o ymylon y clogwyni
- Gwisgwch esgidiau cryfion a dillad cynnes, sy’n dal d ŵr
- Cymrwch ofal arbennig mewn tywydd gwyntog a/neu wlyb
- Cadwch lygad barcut ar blant a chwn bob amser
- Cofiwch gau gatiau