PELLTER/HYD: 3.1 milltir (4.9 km) 1 awr 30 munud• un ffordd
CLUDIANT CYHOEDDUS: Bws gwasanaeth Bosherston 387, Coastal Cruiser
CYMERIAD: Trac wedi’i ddiffinio’n dda, gweddol wastad
CHWILIWCH AM: Capel San Gofan • y frân goesgoch • clogwyni carreg galch trawiadol/golygfeydd godidog o’r arfordir
MWY O WYBODAETH: Llwybr ar gau pan fydd y maes tanio’n cael ei ddefnyddio. Rhif Ffôn 01646 662280 i gadarnhau pan fydd y llwybr ar agor.
Clogwyni dramatig o garreg galch a chyfoeth o fywyd gwyllt mewn ardal werdd heb ei difetha.
Defnyddiwyd yr ardal hon ar arfordir De Penfro sydd yng nghysgod y clogwyni dramatig o garreg galch, gan y Weinyddiaeth Amddiffyn fel maes tanio ers y 1940au, ac ychydig iawn o ddylanwad dynol a fu arni.
Diolch i’r llonydd a gafodd yr ardal mae yma amrywiaeth gyfoethog o gynefinoedd sydd heb eu difetha ar gyfer bywyd gwyllt (mae’n debyg nad oes fawr o ots gan y bywyd gwyllt am y sŵn!).
Mae Staciau’r Heligog (Stack Rocks neu Elegug Stacks – mae elegug yn air Cymraeg arall am yr heligog) yn ddau biler o garreg galch ar wahân.
Chwiliwch hefyd am y Bont Werdd, bwa naturiol a gerfiwyd gan y tonnau, a’r Crochan ar y penrhyn i’r dwyrain. Yn y gwanwyn, mae copa’r Staciau a’r sarnau islaw yn fwrlwm o heligogod a gweilch y penwaig, ac mae gwylan y graig a’r wylan goesddu yn nythu ar y clogwyni ynghyd â’r penwaig a’r gwylanod cefnddu.
Yn y gaeaf, mae’r fronfraith, y frân a’r cornicyll ar y llwyfandir tua’r tir. Mae glaswelltir cyfoethog y llwyfandir yn gartref i amrywiaeth o ymlusgiaid, mamaliaid llai ac anifeiliaid di-asgwrn-cefn.
Mae pili-palaod prin fel y brith gwyrdd yn byw yma hefyd. Gellir cyrraedd Capel San Gofan, cell garreg un ystafell o’r 13eg ganrif ar anterth y daith trwy 52 gris garreg garw (fe allant fod yn llithrig).
Roedd y dŵr o Ffynnon San Gofan, islaw’r capel, yn enwog am ei bwerau iachaol, er, mae’r ffynnon yn sych erbyn hyn.
Mae Libby Taylor, Rheolwr Parcmyn y Parc Cenedlaethol wedi cerdded y daith hon. Mae’n dweud: “Mae’r daith hon yn croesi ardal anghysbell sy’n agored i’r gwynt – mae yna olygfeydd gwych o’r arfordir ar hyd y darn hwn o arfordir, gyda staciau, bwâu, ogofau a chwythdyllau. Lle gwych i weld bywyd gwyllt yn agos yn ystod y Gwanwyn, gan gynnwys gweilch y penwaig, heligogod ac ambell frân goesgoch.”
Gwybodaeth gan y BBC
Dewch o hyd i'r daith hon
Cyfeirnod Grid: SR925946
CYMERWCH OFAL!
- Byddwch yn ofalus ar Lwybr yr Arfordir
- Cadwch at y llwybr ac i ffwrdd o ymylon y clogwyni
- Gwisgwch esgidiau cryfion a dillad cynnes, sy’n dal d ŵr
- Cymrwch ofal arbennig mewn tywydd gwyntog a/neu wlyb
- Cadwch lygad barcut ar blant a chwn bob amser
- Cofiwch gau gatiau