PELLTER/HYD: 4.4 milltir (7.0 km) 2 awr
CLUDIANT CYHOEDDUS: Bws gwasanaeth Amroth 350/351
CYMERIAD: Cymoedd coediog, graddfa gymedrol, caeau a da byw, gall fod yn wlyb ac yn fwdlyd mewn mannau, 1.5 milltir (2.5 km) o gerdded ar isffyrdd
CHWILIWCH AM: Golygfeydd o’r arfordir • Colby Lodge a’r gerddi prydferth • hen gamlas a tramffordd • hen waith glo a gwaith haearn sydd ddim yn cael eu defnyddio bellach.
Diolch i’r llethrau coediog, y bryniau a’r cildraethau olynol, mae yna ymdeimlad Fediteranaidd bron i’r darn hwn o arfordir ar ddiwrnod heulog.
I rai o’r cerddwyr sy’n cerdded 299km (186 milltir) cyfan Llwybr Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro, dyma ben y daith, ond i eraill mae’n ddechrau ar rhyw bythefnos o gerdded.
Yn Amroth mae yna eglwys Normanaidd, Sant Elidir, ac roedd ganddi ei hamddiffynfa Normanaidd ei hun ar un adeg hefyd, sef Castell Earwere – credir bod y castell ar safle’r plasty o’r 19eg ganrif, Castell Amroth.
Pan fydd y llanw’n isel, chwiliwch am bridd a boncyffion coed ar y traeth neu ychydig oddi ar y lan. Olion coetir hynafol yw’r rhain, a foddwyd pan gododd lefelau’r môr ar ddiwedd Oes yr Iâ, rhwng 10,000 a 5,000 o flynyddoedd yn ôl.
I ffwrdd oddi wrth y môr, mae’r dirwedd yn goediog ac uchafbwynt y cwm tawel anghysbell yw Gerddi Coetir Colby, a oedd yn rhan o ystâd Tŷ Colby, sef Tŷ o’r 19eg ganrif, yn wreiddiol.
Mae ei gasgliad o rododendrons ac asaleas yn un o’r gorau yng Nghymru. Yn Pleasant Valley sy’n wir yn Gwm Dymunol iawn, mae olion hen Weithfeydd Haearn Cilgeti, a oedd yn cael cyflenwadau o fwyn haearn ar un adeg, wedi ei balu’n syth o glogwyni cyfagos.
Saif yr ardal wledig rhwng Amroth a Wiseman’s Bridge ar greigiau sy’n llawn glo ac er ei bod yn ardal fach dawel erbyn hyn, roedd yr ardal yn un eithaf diwydiannol ar un adeg.
Yn y 19eg ganrif, adeiladwyd darnau byr o reilffordd i gludo mwynau ac roedd y gangen yn rhedeg i Wiseman’s Bridge. Mae rhan o’r llwybr yn defnyddio hen dwnneli’r llinell hwn.
Efallai mai’r unig achlysur gwirioneddol hanesyddol a ddaeth i ran Wiseman’s Bridge oedd y digwyddiad yn haf 1943, pan yr oedd y traeth yn lleoliad i ymarfer ar raddfa lawn ar gyfer glaniadau D-Day.
Teithiodd y Prif Weinidog Churchill a’r Arlywydd Eisenhower i Sir Benfro i weld eu byddinoedd yn mynd trwy eu pethau.
Mae Tîm Jones, Cyn-Barcmon Sector y De gydag Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, yn dweud: “Os oes diddordeb gyda chi mewn hanes diwydiannol, yna fe fydd yr ardal hon yn eich diddori chi’n fawr iawn. Mae’n werth crwydro oddi ar y llwybr i Stepaside i weld yr hen waith haearn a’r mwynglawdd.”
Dewch o hyd i'r daith hon
Cyfeirnod Grid: SN152074
CYMERWCH OFAL!
- Byddwch yn ofalus ar Lwybr yr Arfordir
- Cadwch at y llwybr ac i ffwrdd o ymylon y clogwyni
- Gwisgwch esgidiau cryfion a dillad cynnes, sy’n dal d ŵr
- Cymrwch ofal arbennig mewn tywydd gwyntog a/neu wlyb
- Cadwch lygad barcut ar blant a chwn bob amser
- Cofiwch gau gatiau