PELLTER/HYD: 5.8 milltir (9.3 km) 3 awr
CLUDIANT CYHOEDDUS: Dim
CYMERIAD: Rhostir garw, cerdded serth ar fryniau, llethrau coediog, da byw 0.3 milltir (0.5 km) o gerdded ar isffyrdd
CYMERIAD: Golygfeydd gwych • dyffrynnoedd a llethrau coediog tlws • rhaeadr carreg sefyll Bedd Morris o’r oes efydd.
Mae llawer o ucheldir y Preseli yn gorsiog ac mae’r pridd yn asidig. Mae’n gynefin ble mae planhigion fel grug, llus a rhedyn yn ffynnu.
Dyma dirwedd arbennig o hardd yn hwyr yn yr haf pan fydd pinc cynnes y grug yn ychwanegu gwawr o liw at y golygfeydd godidog.
Y bryniau uchaf yn Sir Benfro yw’r Preselau ac maen nhw’n grib o siâl a charreg laid Ordoficaidd a gywasgwyd i ffurfio llechi sy’n gallu gwrthsefyll y tywydd.
Mewn mannau mae yna ddolerit igneaidd hefyd, sef y ‘garreg las’ enwog sy’n ffurfio cylch mewnol Côr y Cewri (Stonehenge).
O begwn llydan Mynydd Caregog mae yna olygfeydd gwych o Ynys Dinas a Bae Aberteifi. Ar ddiwrnod clir iawn mae’n bosibl gweld Bryniau Wicklow yn Iwerddon ar y gorwel gorllewinol pell.
Marciwr ar y daith hon yw’r garreg sefyll a elwir yn ‘Bedd Morris’, sy’n un o 70 carreg sefyll i’w gweld yn Sir Benfro. Saif y garreg drawiadol tua dau fetr (chwe throedfedd) o uchder a chredir ei bod yn dyddio nôl i gymaint â 4,000 o flynyddoedd yn ôl.
Nid ydym yn gwybod pam mae’r garreg yn sefyll ble mae hi, ond efallai ei bod yn dangos cyffordd hen lwybr hynafol. Yn llawer mwy diweddar daeth y garreg i fod yn ffocws i lawer o straeon
lleol.
Yn ôl un stori o’r fath mae’r piler anferth o graig yn nodi bedd lleidr pen ffordd o’r enw Morris. Dywedir ei fod yn arfer ysglyfaethu ar deithwyr a groesai’r bryniau.
Mae safle picnic Sychpant yn eiddo i Awdurdod y Parc Cenedlaethol ac yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig – mae’n enwog am y pili pala brith brown, sy’n mwynhau’r brithwaith hwn o gynefinoedd a chennau.
Gwelir brith y gors ymhellach i fyny’r safle. Mae’r daith gylch hefyd yn cofleidio llethrau serth a choediog Cwm Gwaun ac yn ymylu ar blanhigfa fawr coedwig Penlan.
Plannwyd y goedwig sbriws hon ar rostir yn y 1970au cynnar, ac mae Awdurdod y Parc Cenedlaethol wedi ei phrynu ac yn y broses o’i throi yn ôl at fod yn rhos ac yn weundir trwy dorri’r
conifferau. Mae grug, llus ac eithin yn dod yn ôl i fyw ar y dirwedd.
Dewch o hyd i'r daith hon
Cyfeirnod Grid: SN046355
COD CEFN GWLAD!
- Mwynhewch y cefn gwlad a pharchu ei fywyd a’i waith
- Gochelwch rhag unrhyw risg o dân • Gadewch glwydi ac eiddo fel rydych chi'n eu cael nhw
- Cadwch eich ci dan reolaeth dynn • Cadwch at y llwybrau cyhoeddus wrth groesi tir amaethyddol
- Ewch â'ch sbwriel adref gyda chi