PELLTER/HYD: 2.2 milltir (3.5 km) 1 awr
CLUDIANT CYHOEDDUS: Bws gwasanaeth Trefdraeth T5, *Poppit Rocket 405 (*tymhorol, galw a theithio)
CYMERIAD: Tref. Cymysgedd o lwybrau a heolydd tawel.
Mae’r daith gerdded yma wedi’i seilio ar y daflen a gynhyrchwyd gan Sefydliad y Merched Carningli yn y flwyddyn 2000 fel rhan o Brosiect Llwybr i’r 21ain Ganrif.
Cafodd y pump tap ar y daith eu hadnewyddu yn y flwyddyn 2000 gan aelodau Sefydliad y Merched gyda chymorth Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro.
Gosododd Cyngor Dosbarth Gwledig Llandudoch bibellau dŵr o gronfa ddŵr dan do ar lethrau gogleddol Carningli uwchben Bryn y Castell.
Cysylltwyd y pibellau yma â nifer o dapiau o amgylch y dref ym 1929. Cyn hynny, tynnodd trigolion Trefdraeth eu dŵr o ffynhonnau neu’n uniongyrchol o’r ddwy afon sydd yn llifo i lawr o’r mynydd, Afon Ysgolheigion ac Afon Felin.
Daeth y tapiau hyfryd hyn o waith haearn o ffowndri ‘Glenfield a Kennedy’, Kilmarnock, yr Alban. Roedd y tapiau’n hunan-gau. Roedd y bwlyn yn troi swifl y tu mewn, a fyddai’n agor y falf. Cyn gynted ag y câi’r bwlyn ei ryddhau byddai pwysau trwm ar ben cadwyn yn cwympo ac yn cau’r falf. Cafodd tua 12 o dapiau eu gosod o amgylch y dre ac roeddent yn llefydd poblogaidd
i bobl ymgynnull a chael clonc.
Ar ôl rhyw 50 mlynedd cafwyd cyflenwad dŵr i bob cartref ei osod ond roedd rhai yn dal i ddefnyddio tapiau’r gymuned er mwyn dyfrio’u gerddi. Roedd yn well gan un wraig fynd i nôl ei dŵr mewn bwced na thalu pum swllt ychwanegol o rent am y prif cyflenwad dŵr. Hefyd, byddai gweithwyr fferm yn defnyddio’r tapiau yn rheolaidd er mwyn golchi eu hesgidiau wrth fynd adref o’r gwaith.
Erbyn diwedd y 90au dim ond pump o’r tapiau gwreiddiol oedd yn bodoli ac roedd rhain mewn cyflwr gwael.
Adferwyd y pum tap a chynhyrchwyd darnau newydd i rai ohonynt. Gosodwyd y tapiau nôl ar sylfeini newydd ac meant nawr yn sefyll fel atgof o hanes y dre.
Tapiau Trefdraeth
- Tap 1 – Tap Maes Carafannau cyn ei hadnewyddu
- Tap 2 – Nant y Blodau
- Tap 3 – Sgwar y Coleg
- Tap 4 – Top Feidr Bentinck, lle mae Heol y Brenin yn ymuno â Feidr Eglwys
- Tap 5 – Heol yr Afr, wrth ymyl y chyffordd â Feidr Bentinck
Dewch o hyd i'r daith hon
Cyfeirnod Grid: SN054396
CYMERWCH OFAL!
- Byddwch yn ofalus ar Lwybr yr Arfordir
- Cadwch at y llwybr ac i ffwrdd o ymylon y clogwyni
- Gwisgwch esgidiau cryfion a dillad cynnes, sy’n dal d ŵr
- Cymrwch ofal arbennig mewn tywydd gwyntog a/neu wlyb
- Cadwch lygad barcut ar blant a chwn bob amser
- Cofiwch gau gatiau