Tresinwen

Taith Fer

PELLTER/HYD: 2.9 milltir (4.7 km) 1 awr 30 munud
CLUDIANT CYHOEDDUS: *Strumble Shuttle 404 (*tymhorol, galw a theithio)
CYMERIAD: Golygfeydd gwych o’r arfordir, da byw, gall fod yn fwdlyd mewn mannau, 275 llath (250 m) o gerdded ar isffyrdd
CHWILIWCH AM: Hen fythynnod mewn pentrefan bach • morloi • blodau arfordirol yn y gwanwyn • golygfeydd o’r arfordir/tua’r tir • goleudy Pen-caer.

Mae’r goleudy ym Mhen-caer yn un o’r nodau tir enwocaf ar arfordir gogleddol caregog Sir Benfro. Mae’n sefyll ychydig oddi ar y prif dir ar ynys fechan o’r enw Ynys Meicel.

Adeiladwyd y goleudy, sydd bellach yn hollol awtomatig, ym 1908 ac mae llongau yn gallu ei weld hyd at 30 milltir i ffwrdd. Mae gan y goleudy ei batrwm arbennig ei hun, mae’r golau’n fflachio pedair gwaith bob 15 eiliad.

I fynd law yn llaw gydag ymddangosiad dramatig y pentir mae ganddo orffennol dramatig hefyd. Fe’i ffurfiwyd yn ystod y cyfnod Ordoficaidd gan weithrediadau folcanig pan ffrwydrodd y lafa o dan y môr gan oeri’n gyflym i mewn i siapiau clustog.

Mae Pen-caer yn lle da i wylio. Edrychwch i fyny ac rydych chi’n debygol iawn o weld llwybrau anwedd awyrennau sy’n cludo teithwyr ac yn hedfan yn uchel oherwydd mae Pen-caer o dan un o’r prif lwybrau i Faes Awyr Heathrow.

Mae adar ac anifeiliaid ar daith yma hefyd. I’r rheiny sy’n hoffi gwylio adar, y man gwylio ym Mhen-caer yw’r prif fan i wylio’r môr yng Nghymru.

Yn aml, gwelir adar y môr prin wrth iddyn nhw symud o amgylch yr arfordir. Mae gwylwyr yn y man gwylio, a arferai fod yn fan gwylio yn yr Ail Ryfel Byd, hefyd wedi gweld dolffiniaid, morfilod a hyd yn oed heulforgwn.

Mae penwaig gwylanod a gwylanod y graig hefyd yn bridio ar hyd yr arfordir, a hefyd parau o frain coesgoch. Ond y prif ddiddordeb ar gyfer y rheiny sy’n gwylio adar yw’r adar môr sy’n pasio Pen-caer ar y ffordd o’u cytrefi bridio ar ynysoedd Ynys Dewi, Sgomer a Sgogwm i dir bwydo Bae Aberteifi.

Un o’r adar mwyaf trawiadol a welir weithiau’n pwyso’n agos at y pentir yw’r fulfran wen. Mae gan yr helwyr pysgod mawr gwyn hyn big siâp cyllell ac adenydd hir, sy’n rhychwantu bron i ddau fetr (chwe throedfedd).

Maen nhw’n pysgota mewn grwpiau a phan fyddan nhw’n gweld haig o bysgod, maen nhw’n ymosod trwy blygu eu hadenydd yn ôl a phlymio i mewn i’r môr o 30 metr (100tr) neu fwy uwchben y dŵr.

Yma, ac mewn lleoliadau eraill, mae Awdurdod y Parc Cenedlaethol wedi cyflwyno merlod i bori’r pentir er mwyn gwella ansawdd y glaswelltir a’r gweundir ar gopa’r clogwyni sy’n bwysig ar gyfer bywyd gwyllt.

Wrth i’r anifeiliaid fwydo maen nhw’n rheoli planhigion mawr fel rhedyn a fyddai’n gwthio blodau gwyllt allan fel arall.

Dewch o hyd i'r daith hon

Cyfeirnod Grid: SM902405

CYMERWCH OFAL!

  • Byddwch yn ofalus ar Lwybr yr Arfordir
  • Cadwch at y llwybr ac i ffwrdd o ymylon y clogwyni
  • Gwisgwch esgidiau cryfion a dillad cynnes, sy’n dal d ŵr
  • Cymrwch ofal arbennig mewn tywydd gwyntog a/neu wlyb
  • Cadwch lygad barcut ar blant a chwn bob amser
  • Cofiwch gau gatiau