Y Parc Ceirw/Marloes

Taith Hanner Dydd +

PELLTER/HYD: 5.2 milltir (8.4 km) 2 awr 30 munud
CLUDIANT CYHOEDDUS: Bws gwasanaeth Marloes 315/316, *Pâl Gwibio 400 i Martin’s Haven (*tymhorol, galw a theithio)
CYMERIAD: Gweddol wastad, caeau a da byw, arfordir garw, 790 m o gerdded ar isffyrdd
CHWILIWCH AM: Golygfeydd tuag at Ynys Sgomer • morloi • adar môr • Caer Oes Haearn yn Watery Bay.

Cerddwch at ymyl y môr ac edrychwch tua’r gorllewin at yr ynysoedd…

Mae penrhyn Marloes, fel pob penrhyn o amgylch arfordir Penfro, yn cynnwys creigiau caletach na’r baeau sydd yn eu breichiau. Mae’r ynysoedd oddi ar yr arfordir yn cynnwys y
creigiau caletach hyn hefyd, ac felly maen nhw wedi gwrthsefyll traul y gwynt a’r tonnau.

Mae Sgomer, oddi ar Bwynt Marloes, yn cynnwys lafa folcanig Silwraidd sy’n dyddio yn ôl 435 miliwn o flynyddoedd. A dweud y gwir, nid yw’r Parc Ceirw ar y pentir ar ddiwedd penrhyn
Marloes wedi bod yn gartref i geirw o gwbl – adeiladwyd ardal o fewn waliau ar eu cyfer yn y ddeunawfed ganrif, ond ni ddaeth y ceirw.

Heddiw, mae cenfaint o ferlod Mynydd Cymreig yn pori’r Parc Ceirw ac maen nhw wedi helpu rheoli ymlediad planhigion ymledol fel mieri, eithin a rhedyn a fyddai’n gorchuddio copa’r clogwyni
fel arall, yn mygu’r amrywiaeth o blanhigion a phryfed.

Mae’r fran goesgoch angen y gweundir arfordirol a’r borfa fer sy’n gyfoeth o bryfed o ganlyniad i’r mesurau rheoli hyn, er mwyn bwydo.

Mae yna olygfeydd gwych tuag at Sgomer (mae’r môr o amgylch yr ynys yn Warchodfa Natur Forol) ac o Bwynt Wooltack fe allwch chi weld Bae Sain Ffraid yn ei gyfanrwydd, Penrhyn Tyddewi ac Ynys Dewi.

Mae Sgomer, i’r gorllewin, a Sgogwm, i’r de yn Warchodfeydd Natur Cenedlaethol sy’n enwog yn rhyngwladol am eu cytrefi o adar môr: gwylanod y graig, gwylanod, pâl Manaw (fwy na thebyg y boblogaeth fwyaf dwys yn y byd), y pâl, gweilch y penwaig a gwylogod.

Mae’r hebog, y gylfinir, y cornicyll, y dylluan glustiog a’r fran goesgoch hefyd yn bridio yma ac mae’r morloi’n geni eu rhai bach ar y traethau a’r creigiau ar yr ynys ac ar y prif dir.

Sunset at Marloes Sands

Gellir gweld adeilad Gwales sydd wedi’i orchuddio gan dom gwyn y gwylanwyddau ymhellach i’r gorllewin. Mae Swnt Jack, sy’n gwahanu Sgomer o’r prif dir, yn dir bwydo enwog ar gyfer y fulfran wen a’r llamhidydd pan fydd y llanw sy’n llifo yn gorfodi’r pysgod i’r wyneb.

Mae yna gaer Oes Haearn da ar benrhyn Gateholm yn Watery Bay, gyda thair glan a ffos i’r ochr hygyrch. Mae yna lawer o gylchoedd cytiau ble daethpwyd o hyd i fflintiau a chrochenwaith yn yr ardal hon Mae Haydn Garlick, cyn Barcmon Sector y Gorllewin gydag Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, wedi cerdded y daith hon.

Mae’n dweud: “Taith wych ar gyfer adar môr – fe allwch chi weld brain coesgoch yn nythu, rafftiau o bâl Manaw, bwncathod, cigfrain, hebogau ac adar arfordirol eraill.

Yn hwyr ym mis Awst ac yn gynnar ym mis Medi, gellir gweld morloi llwyd gyda’u rhai bach. I’r rheiny sydd ddim yn gallu ymweld ag unrhyw rai o’r ynysoedd, yn aml fe all taith allan i’r Parc Ceirw rhoi’r teimlad eich bod chi ar yr ynysoedd, am ei fod wedi’i leoli ymhell i’r gorllewin; mae hefyd yn safle gwych i ffotograffwyr ddal machlud yr haul.

Mae’r daith yn boblogaidd iawn ar bob adeg o’r flwyddyn, yn enwedig gyda’r Parcmyn sy’n gweithio yn y gorllewin, ac, ar adegau, fe all gynnig taith sy’n agored i’r tywydd ond sy’n daith rhagorol.”

Dewch o hyd i'r daith hon

Cyfeirnod Grid: SM757089

CYMERWCH OFAL!

  • Byddwch yn ofalus ar Lwybr yr Arfordir
  • Cadwch at y llwybr ac i ffwrdd o ymylon y clogwyni
  • Gwisgwch esgidiau cryfion a dillad cynnes, sy’n dal d ŵr
  • Cymrwch ofal arbennig mewn tywydd gwyntog a/neu wlyb
  • Cadwch lygad barcut ar blant a chwn bob amser
  • Cofiwch gau gatiau