PELLTER/HYD:
LLWYBR Y COETIR (gwyrdd) 0.9 milltir (1.4km) 30 munud
LLWYBR Y GOLEUDY (glas) 1.4 milltir (2.3km) 45 munud
LLWYBR CLOGWYNI’R GORLLEWIN (coch) 1.9 milltir (3.1km) 1 awr
CLUDIANT CYHOEDDUS: Ffoniwch Ganolfan Groeso Dinbych-y-pysgod 01437 775603 am fanylion ynghylch bysys, trenau, meysydd parcio, parcio a theithio
CYMERIAD: Taith ynys, graddfa hawdd
CHWILIWCH AM: Golygfeydd naturiol trawiadol • goleudy • man gwneud persawr • eglwys Sant Illtud • adeiladau’r Mynachdy (caeadle preifat – dim mynediad) • blodau’r gwanwyn • morloi
MWY O WYBODAETH: Caniateir cŵn ar yr ynys ond rhaid eu cadw ar dennyn ar bob adeg. Ffoniwch harbwr Dinbych-y-pysgod (01834 842296) i gael amserau/diwrnodau croesi’r llongau ayb.
Ar brynhawn cynnes o haf, pan mae’r aer yn fwrlwm o wenyn yn brysur wrth eu gwaith wrth y blodau comffri, does unman yn debyg i Ynys Bŷr. Mae yma awyrgylch hamddenol, ymlaciedig.
Dim ond taith 20 munud o Ddinbych-y-pysgod, mae’r ynys yn lle gwych i gerdded yn hamddenol ac mae yma ddigon i’w weld.
Mae gan yr ynys hanes hir; mae pobl wedi bod yn byw yn ei ogofau ers Oes y Cerrig, ond cyrhaeddiad meudwy o’r enw Sant Pyro yn y 6ed ganrif a ddechreuodd gysylltiad hir Ynys Bŷr gyda’r eglwys.
Daw’r enw Cymraeg am yr ynys o’r geiriau Ynys Pyr, neu Ynys Pyro. Rhoddwyd yr enw Saesneg ‘Caldey’ ar yr ynys gan y Llychlynwyr ac mae’n golygu Ynys Oer. Ar ôl y goncwest Normanaidd, sefydlodd mynachod Benedictaidd briordy ar Ynys Bŷr.
Ar ôl yr ailffurfio, newidiodd yr ynys ddwylo dro ar ôl tro, ond ym 1906 daeth yn gartref i’r urdd Fenedictaidd unwaith eto.
Nhw a adeiladodd y fynachlog sydd mewn arddull Mediteranaidd, ond ym 1928 gwerthwyd yr ynys unwaith eto i urdd Sistersaidd.
Mae’n dal i fod yn gymuned fynachaidd weithiol. Mae llawer o’r llwybr yn pasio trwy goetir, gyda digon o adar i’w gweld.
Yr Hen Briordy, sy’n sefyll yn agos at y llwybr yng nghanol y coed, yw un o’r eglwysi hynaf yng Nghymru.
Am ynys mor fach, mae gan Ynys Bŷr amrywiaeth eang o gynefinoedd. Mae ei daeareg yn gymysglyd iawn gyda rhan o’r ynys yn Hen Dywodfaen a rhan ohoni yn garreg galch Carbonifferaidd.
O ganlyniad, mae yna bridd asid ac alcalinaidd, sy’n cynhyrchu sioe odidog o flodau. Efallai bod rhai’n dal i ffynnu heddiw diolch i ofal y mynachod canoloesol.
Er enghraifft, weithiau gelwir comffri yn cwlwm yr asgwrn oherwydd fe fyddai llysieuwyr yn ei ddefnyddio i drin esgyrn wedi eu torri.
Dewch o hyd i'r teithiau hyn
Cyfeirnod Grid: SS140965
CYMERWCH OFAL!
- Byddwch yn ofalus ar Lwybr yr Arfordir
- Cadwch at y llwybr ac i ffwrdd o ymylon y clogwyni
- Gwisgwch esgidiau cryfion a dillad cynnes, sy’n dal d ŵr
- Cymrwch ofal arbennig mewn tywydd gwyntog a/neu wlyb
- Cadwch lygad barcut ar blant a chwn bob amser
- Cofiwch gau gatiau