Mae’r Prosiect “Walkability” wedi ei greu i gynorthwyo pobl o bob gallu sy’n byw yn Sir Benfro i fwynhau’r arfordir a’r cefn gwlad godidog o’u hamgylch.
Mae gan y Prosiect gydlynydd penodedig all:
- gynghori grwpiau am lwybrau cerdded lleol addas
- arwain grwpiau ar deithiau cerdded sy’n ateb eu anghenion
- gweithio ag arweinyddion gwirfoddol a darparu hyfforddiant
- cysylltu unigolion â grwpiau cerdded lleol
- cynorthwyo pobl ag anghenion arbennig i fod yn heini gan ddefnyddio llwybrau cerdded.
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â ni drwy defnyddio’r manylion isod:
Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro
Parc Llanion
Doc Penfro
SA72 6DY
Ffôn: 01646 624800
Ebost: darganfyddiad@arfordirpenfro.org.uk