Mae clogwyni Sir Benfro ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Penfro o bwys rhyngwladol ar gyfer adar sy’n nythu ar y clogwyni ac maent yn cynnig rhai o’r cyfleoedd gorau yn y wlad ar gyfer dringo clogwyni ger y môr.
Yn y dudalen a’r daflen cyfyngiadau dringo cytun (agor mewn ffenestr newydd) ceir manylion am y cyfyngiadau dringo tymhorol y cytunwyd arnynt i warchod mannau nythu a bwydo. Mae hyn yn hanfodol er mwyn sicrhau parhad y cytrefi o adar y môr a’r brain coesgoch, hebogiaid tramor a chigfrain sy’n nythu yma.
Mae’r ardaloedd dringo o fewn Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig a hefyd yn cynnwys Ardaloedd Gwarchod Arbennig Ewropeaidd. Gweler y ‘Green Guide’ i ddringo (agor mewn ffenestr newydd) sydd ar wefan Cyngor Mynydda Prydain.
Gwybodaeth i ddringwyr
Maestir y Dwyrain – (Tir y WA)
- Edrychwch ar yr hysbysfyrddau bob dydd cyn dechrau dringo (lawrlwythwch y taflen i weld y map – agor yn ffenestr newydd).Bydd y rhain yn dangos y newidiadau diweddaraf yn ystod y tymor.
- Dim ond pan na fydd tanio ar y maestir y gellir cael mynediad –edrychwch yn y papurau newydd lleol neu ffoniwch y llinell wybodaeth 24awr. Ffôn 01646 662367
- Peidiwch â dringo rhwng yr arwyddion coch yn ystod adegau o gyfyngiad.
- Cofiwch osgoi mannau o dyfiant – mae’r blodau ar y clogwyni yn cynnwys rhai o rywogaethau mwyaf prin y wlad.
- Peidiwch â chysylltu belaiau i eiddo’r weinyddiaeth amddiffyn na rhoi unrhyw bolion newydd oherwydd y risg o ordnans heb ei ffrwydro ac am resymau cadwraethol.
- Ni chaniateir dringo clogwyn y capel ar unrhyw adeg (Diogelwch y cyhoedd).
Maestir y Gorllewin – (Tir y WA)
Mynediad trwy ganiatâd y Weinyddiaeth Amddiffyn yn unig. Mae angen i ddringwyr fynychu briffio a sicrhau trwydded. Am wybodaeth bellach a’r dyddiadau briffio a fyddech gystal, os gwelwch yn dda, ewch i wefan y BMC (agor yn ffenestr newydd).
Pentir Lydstep
Efallai y bydd cyfyngiadau ar ddringo yn ‘Mother Carey’s Kitchen’ (‘Inner Space’ i ‘Star Gate’) a ‘The Chimney’. Am fwy o fanylion cysylltwch â’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol neu ewch i wefan Cyngor Mynydda Prydain.
Gogledd Sir Benfro
- Needle Rock, Fishguard – 1 Mawrth hyd nes 1 Awst.
- Cyfyngiad Llech Dafad – 1 Mawrth hyd nes 1 Awst.
- Cyfyngiad Penbwchdy – 1 Mawrth hyd nes 1 Awst.
- Abercastell – Ynys Deullyn cliffs -clogwyni Ynys Deullyn – Fe gyfyngir ar y safle os bydd adar yn nythu yma. Edrychwch am arwyddion ar ben y clogwyni.
- Mur Cenhinen – fe gyfyngir ar y safle os bydd adar yn nythu yma. Edrychwch ar Gronfa Ddata Mynediad Rhanbarthol CMP.
- Ogof Mrs Morgan – 1 Mawrth hyd nes 1 Awst.
- Dinas Fach (rhwng Solfach a Niwgwl) – 1 Mawrth hyd nes 1 Awst.
Y cyfyngiadau dringo tymhorol y cyntunwyd arnynt
Cytunwyd ar y cyfyngiadau hyn rhwng CMP, y Clwb Dringo Sir Benfro, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, y Weinyddiaeth Amddiffyn, Grŵp Siarter Awyr Agored Sir Benfro, Cyfoeth Naturiol Cymru ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro.
Byddant yn cael eu hadolygu’n flynyddol fel rhan o’r broses o gyd-gysylltu rhwng yr holl gyrff perthnasol. Gofynnir i’r holl ddringwyr gadw at y cyfyngiadau hyn.
Dangosir ar y map ar ba adeg o’r flwyddyn y mae’r cyfyngiadau mewn grym. Mae ogofâu ar arfordir sir Benfro yn cynnwys bywyd gwyllt, daeareg ac archaeoleg prin a sensitif. Dylid osgoi mynd i mewn iddynt.
Gwybodaeth bellach
Gellir cael gwybodaeth bellach ynghylch y cyfyngiadau dringo cytûn oddi wrth:
- Gwefan Cyngor Mynydda Prydain (BMC) (agor mewn ffenestr newydd), ebostiwch y BMC– Ffôn 0161 445 61111
- Gwefan BMC Regional Access Database (RAD) (agor mewn ffenestr newydd)
- Ebostiwch Uwch Reolwr Gwarchodfa, Cyfoeth Naturiol Cymru – Ffôn 01646 661368
- Ebostiwch Swyddfa Parcmon yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ar gyfer Ystagbwll – Ffôn 01646 623111
- Ebostiwch Swyddfa Parcmon yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ar gyfer Gogledd Sir Benfro – Ffôn 01348 837860
- Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, Adran Cyflawni y Parc – Ffôn 01646 624850
- Gwersyll y WA, Castellmartin, Swyddfa’r Maestir (oriau gwaith) – Ffôn 01646 662496
- Ebostiwch Parcmon Castellmartin – Ffôn 07866 771188
- Gwefan Grŵp Siarter Awyr Agored Sir Benfro (age mewn ffenestr newydd)