Mae Sir Benfro'n enwog am ei thraethau gwych sy'n gyrchfannau poblogaidd i dwristiaid dros yr haf ond yn cynnig amodau rhagorol ar gyfer syrffio gweddill y flwyddyn.
Ar y morlin o Lanrath yn y Gogledd i Saundersfoot yn y De mae yna amrywiaeth o draethau a riffiau sy’n wynebu pob cyfeiriad, ac mae hynny’n golygu eich bod chi’n siŵr o ddod o hyd i don gwerth ei brigdonni yn rhywle.
Dewiswch o leoliadau sydd â thonnau enfawr dros y gaeaf, fel De Aber Llydan, cysondeb Freshwater West neu rywle sy’n fwy addas i ddechreuwyr fel Niwgwl.
Mae Sir Benfro’n gallu cynnig seibiannau tawel, golygfeydd trawiadol, dyfroedd glân a chlir a thoreth o fywyd gwyllt ac mae’r bobl leol yn gyfeillgar hefyd.
Buddion Iechyd Syrffio
- Sesiwn hyfforddi anhygoel ar gyfer bron pob cyhyr yn eich corff, gan eich bod chi’n gweithio’ch breichiau i badlo allan, eich corff cyfan i godi i fyny ar eich traed, a chyhyrau’ch coesau a’ch cyhyrau craidd wrth i chi reidio’r tonnau.
- Gwych ar gyfer ffitrwydd aerobig, hyblygrwydd a chryfder
Wrth ymarfer neidio i fyny gartref, fe fyddwch yn parhau i wella’ch ffitrwydd a’ch cryfder ac yn gwella’ch gallu i fwynhau pan fyddwch chi’n taro’r traeth i syrffio’r tro nesaf
Iechyd Meddwl
- Gallwch oresgyn gorbryder ac iselder gyda her y tonnau a llonyddwch y môr
- Mae canolbwyntio ar heriau amrywiol syrffio yn gallu ffocysu, adfywio a chlirio’r meddwl rhag y gwrthdyniadau bob dydd
- Mae’n roi hwb i’r hyder a’r hunan-barch wrth i chi wynebu heriau concro’r tonnau
- Mae syrffio yn dysgu amynedd, oherwydd allwch chi ddim rhagweld pryd fydd y ton fawr nesaf yn dod.
Adsefydlu a Gwella
- Cofiwch drafod unrhyw gynllun adsefydlu neu wella gyda’ch darparwr gofal iechyd
- Hyd yn oed os nad ydych yn hynod o heini, gallwch fagu eich ffitrwydd syrffio trwy gampau eraill gan gynnwys nofio, cerdded a mathau eraill o ymarferion ar gyfer y cyhyrau
- Gall syrffio fod yn ymdrechgar iawn i’r corff felly byddwch yn garedig i chi’ch hun trwy wisgo siwt syrffio a dod â rhywbeth cynnes mewn fflasg i’ch cynhesu ar ôl syrffio.
Cymdeithasol
- Y ffordd orau o ddysgu syrffio yw trwy ‘ysgol syrffio’, ac maen nhw hefyd yn gallu eich helpu gydag offer fel siwt syrffio a bwrdd syrffio
- Gallwch fwynhau syrffio ar eich pen eich hun neu mewn grŵp
- Mae gan syrffio sîn gymdeithasol wych ac un elfen o fod yn syrffiwr yw aros o gwmpas ac aros am y tonnau
Rheoli Pwysau
- Ffarweliwch â’r pwysi diangen yna a’u cadw i ffwrdd wrth i chi syrffio
- Gall syrffio am tua un awr losgi tua 300 calori
- Gall prynhawn o syrffio losgi hyd at 800 calori yn hawdd
Syrffiwch ar draeth le mae achubwyr bywyd yn bresennol - darperir gwasanaeth tymhorol yn:
- Lanrath
- Coppet Hall
- Saundersfoot
- Dinbych-y-pysgod (Gogledd, Castell, De)
- Freshwater West
- Aberllydan (Broad Haven North)
- Nolton Haven
- Niwgwl
- Porth Mawr
- Traeth Mawr (Trefdraeth)
- Traeth Poppit