Mae Sir Benfro’n gartref i unig Barc Cenedlaethol gwirioneddol arfordirol Prydain, ac mae’n cynnwys amrywiaeth eang o draethau.
Mae gennym fwy o draethau Baner Las ac Arfordir Glas nag unrhyw sir arall yn y wlad. I gael gwybod mwy am y Gwobrau Glan Môr, ewch i wefan Cadwch Gymru’n Daclus (yn agor mewn ffenestr newydd).
Mae rhai’n hawdd eu cyrraedd ac yn ddelfrydol i deuluoedd, tra bod eraill yn llai hygyrch ac yn cynnig heddwch a llonyddwch.
Ceir cyfleoedd nofio da yn y mwyafrif o draethau ac mae sawl un yn benthyg ei hun i ddigonedd o weithgareddau eraill hefyd, fel chwaraeon dŵr, gêmau traeth, archwilio pyllau glan môr neu hamddena yn yr haul. Gallwch weld gwybodaeth am ansawdd dŵr ymdrochi ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru (yn agor mewn ffenestr newydd).
I weld yr wybodaeth ddiweddaraf am draethau lle mae achubwyr bywydau, a’r dyddiadau y byddant yno, ewch i wefan yr RNLI (yn agor mewn ffenestr newydd).
Gyda chymorth busnesau lleol, gallwn ni logi amrywiaeth o offer symudedd am ddim, gan gynnwys cadeiriau olwyn sydd wedi’u creu a’u dylunio’n arbennig i gael eu defnyddio ar draethau tywodlyd. Ewch i’n tudalen ar Gadeiriau Olwyn y Traeth ac Offer Pob Tir i gael rhagor o wybodaeth.
Manteision Iechyd
Does dim diwedd ar y manteision iechyd sydd i’w cael o’r traeth. Efallai y bydd rhai’n mwynhau rhedeg ar y tywod oer, gwastad pan fydd y llanw’n isel, tra bod eraill wrth eu bodd yn ymlacio ac yn mwynhau’r golygfeydd gwefreiddiol.
Mae’r traeth yn lle gwych i dreulio amser gyda’r teulu, ac mae gêmau traeth, adeiladu cestyll tywod a chwilota yn y pyllau glan môr yn ffyrdd gwych o gadw’n heini a chael ysbrydoliaeth o’r byd o’ch cwmpas.
Waeth beth benderfynwch chi ei wneud ar draethau godidog Sir Benfro, cofiwch fod y traethau hyn hefyd yn gartref i lond lle o fywyd gwyllt arbennig.
Roedd achubwyr bywyd yr RNLI yn bresennol ar y traethau yma yn 2024. Ewch i wefan y RNLI I weld y wybodaeth ddiweddaraf.
- Aberllydan (Broad Haven North)
- Coppet Hall
- Llanrath
- Niwgwl
- Nolton Haven
- Porth Mawr
- Traeth Poppit
- Saundersfoot
- Traeth y Gogledd, Dinbych-y-pysgod
- Traeth y Castell, Dinbych-y-pysgod
- Traeth y De, Dinbych-y-pysgod