Cildraeth bach sy'n wynebu'r gogledd-orllewin, a elwir hefd yn Aber Draw, ger pentref Trefin.
Lle gwych i archwilio pyllau glan môr gyda’r llanw isel yn gadael llawer oi byllau a rhai ogofau hefyd.
Mae yma draeth o dywod a graean bras a nifer o byllau glan môr gyda chlogwyni garw, ansefydlog ar y naill ochr a’r llall. Oherwydd y creigiau a’r clogwyni, mae braidd yn anaddas ar gyfer nofio a dylech ofalu nad ydych yn eistedd yn rhyw agos at y clogwyni. Mae’r hen felin yn destun cerdd Gymraeg enwog ac wedi benthyg ei henw i’r cildraeth. Ni fu’r felin yn malu ers 1918.
Mae pynfeirch y felin i’w gweld o hyd ar ochr arall yr heol. Awdurdod y Parc Cenedlaethol sy’n cynnal a chadw’r felin a ysbrydolodd gerdd yr Archdderwydd Crwys, Melin Trefin.
Fel mwyafrif yr ardal hon, mae yna gyfleoedd da i gerdded ar hyd Llwybr Arfordir Sir Benfro i’r naill gyfeiriad a’r llall. Ewch i adran Llwybr Arfordir y wefan hon i gael gwybod mwy. Dyma ddechrau taith wefreiddiol i Borthgain, felly beth am gael ychydig o ginio ac yna cerdded yn ôl?
Cyfleusterau
Nid oes unrhyw gyfleusterau yn y safle hwn ond mae yna thafarn a chaffi yn Nhrefin tua hanner milltir i ffwrdd. Toiledau cyhoeddus agosaf 2.5 milltir i fwrdd ym Mhorthgain. Ewch i wefan Cyngor Sir Penfro i weld dyddiadau/amserau agor.
A wnewch chi helpu cadw Aberfelin yn hardd a mynd â’ch sbwriel adref gyda chi.
Cyfeillgar i gŵn?
Caniateir cwn trwy gydol y flwyddyn. Mae’n gyfrifoldeb ar berchnogion cwn i lanhau ar ôl eu cwn ar y safle cyfan hwn.
Mynediad hwylus?
Mae angen cerdded ,am ychydig i lawr llwybr a grisiau at y traeth. Mae’r 5 metr diwethaf o’r llwybr mynediad at y traeth dros greigiau, ac felly ni ddylai unrhyw un sy’n cael trafferth gerdded geisio troedio’r llwybr hwn. Ond, mae yna lwybr tarmac caled at sedd sydd â golygfa hyfryd o’r traeth. Ewch i dudalen Taith Cadair Olwyn Aberfelin, Trefin i gael gwybod mwy.
Cyrraedd
Fe allwch gyrraedd Aberfelin ar eich beic, ,ac mae’r Llwybr Celtaidd a llwybr beicio lleol yn pasio heibio’r cildraeth. Ewch i wefan Sustrans i gael gwybod mwy am y Llwybr Celtaidd. Ewch i wefan Cyngor Sir Penfro i gael gwybod mwy am y Llwybr Dewisland, sy’n pasio heibio’r cildraeth.
Mae Aberfelin hefyd yn rhan o Lwybr Cenedlaethol Llwybr Arfordir Sir Benfro. Ewch i adran Llwybr yr Arfordir i gynllunio eich taith gerdded.
Mae Bws Arfordirol y Gwibiwr Strwmbl yn stopio yn Nhrefin, tua hanner milttir i ffwrdd. Gweler gwefan Cyngor Sir Penfro am amserlenni bysiau.
Yn y car, fe allwch droi i ffwrdd i Aber Felin ychydig heibio i Lanrhian ar heol Llanrhian-Trefin, neu fe allwch chi fynd trwy Drefin. Mae yna lefydd cyfyngedig i barcio wrth ochr yr heol uwchlaw’r cildraeth.
Cyngor ar ddiogelwch
- Nid yw’n addas ar gyfer nofio mewn gwirionedd, oherwydd y cerhyntau
- Oherwydd y creigiau a’r clogwyni, dylech ofalu nad ydych yn eistedd yn rhyw agos at y clogwyni.
Is-ddeddfau
- Mae Is-ddeddfau Dŵr Ymdrochi Cyngor Sir Penfro yn berthnasol i’r ardal gyfan oddi ar y traeth hwn. Mae’r rhain yn cynnwys cyfyngiad ar gyflymder.
- Mae Is-ddeddfau Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn berthnasol i’r blaendraeth cyfan ar y traeth hwn. Ewch i’n tudalen Is-ddeddfau i gael gwybod mwy.