Mae Broad Haven South yn gallu bod yn lle da i nofio, syrffio a physgota ac yn lle gwych ar gyfer offer criced neu ffrisbi.
Mae Broad Haven South yn draeth hyfryd arall, gyda thraeth euraidd ar gefndir o dwyni. Mae yna stac diddorol o galchfaen, a elwir yn Graig yr Eglwys, ychydig oddi ar y lan.
Dyma le delfrydol i nofio, syrffio neu ymlacio. Mae’r nant sy’n rhedeg i lawr o’ traeth yn draenio o lynnoedd Bosherston, rhan o Ystad Ystagbwll, a grëwyd yn y 18fed ganrif trwy gronni tri chwm.
Mae’r llynnoedd yn gorchuddio 32 hectar (80 erw) a bellach yn Warchodfa Natur Genedlaethol, sy’n cynnal amrywiaeth o fywyd gwyllt gan gynnwys lilïau dŵr, gweision y neidr, adar y dŵr a dyfrgwn.
Wrth grwydro tua’r tir mae yna gyfle i fwynhau’r llynnoedd os fyddwch chi wedi blino diogi ar y traeth.
Cyfleusterau
Mae yna doiledau sy’n cynnwys cyfleusterau ar gyfer yr anabl yn maes parcio Bosherston a faes Parcio Broad Haven South. Does dim cyflesterau newid cewynnau. Ewch i wefan Cyngor Sir Penfro i weld dyddiadau/amserau agor toiledau.
Rheolwyd y ddau faes parcio gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, taliadau yn berthnasol.
Mae yna fan hufen ia uwchben y traeth a thafarn a chaffi gerllaw yn Bosherston.
Darperir biniau sbwriel. A wnewch chi helpu cadw Broad Haven South yn hardd a defnyddio’r cyfleusterau a ddarperir
Cyfeillgar i gŵn?
Caniateir cŵn trwy gydol y flwyddyn. Mae’n gyfrifoldeb ar berchnogion i lanhau ar ôl eu cŵn ar y safle cyfan hwn.
Mynediad hwylus?
Mae yna doiledau sy’n cynnwys cyfleusterau ar gyfer yr anabl yn maes parcio Bosherston a faes Parcio Broad Haven South. Ceir mynediad i’r traeth trwy lwybr serth iawn ac nid yw’n addas i gadeiriau gwthio na chadeiriau olwyn, er bod mynediad hwylus ar gael trwy Byllau Lili Bosherston sydd yn dipyn o ffordd ar droed o’r maes parcio.
Gweler tudalen Pyllau Lili Bosherston yn ein hadran ‘Llwybrau i Bawb’ i weld llwybr cerdded mynediad hawdd ger Broad Haven South.
Mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn caniatáu i chi logi cerbydau symudedd i’w defnyddio yn yr ardal hon ac maent wedi cynhyrchu canllaw hygyrchedd ar gyfer yr ardal o amgylch Broad Haven South, sy’n cynnwys map. Ewch i wefan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol i ddarllen y canllaw Hygyrchedd yn Ystagbwll.
Cyrraedd
Fe allwch gyrraedd Broad Haven South ar eich beic, gan fod llwybr beicio lleol yn pasio trwy Bosherston gerllaw.
Mae bws arfordirol ‘Gwibfws yr Arfordir’ yn stopio yn Broad Haven South. Gweler gwefan Cyngor Sir Penfro am amserlenni bysiau.
Mae’r traeth hwn yn rhan o’r Llwybr Cenedlaethol Llwybr Arfordir Sir Benfro. Ewch i adran Llwybr yr Arfordir i gynllunio eich taith gerdded.
Yn y car, o’r A477 cymerwch y B4319. Mae yna arwyddion at y traeth o bentref Bosherston. Mae yna ddigon o le i barcio uwchlaw’r traeth, ond mae’n rhaid talu i barcio.
Cyngor ar ddiogelwch
- Dim Achubwyr Bywyd tymhorol ar y traeth hwn. Ewch i wefan yr RNLI i weld i ddod o hyd i draethau lle mae achubwyr bywyd yn bresennol.
- Mae’r RNLI yn argymell, ble’n bosib, eich bod yn nofio mewn traeth ble mae yna achubwyr bywyd.
- Ddarllen yr arwyddion diogelwch ac ufuddhau. Fel arfer, maen nhw wrth fynedfa’r traeth. Fe fyddan nhw’n eich helpu i osgoi unrhyw beryglon posib ar y traeth ac adnabod yr ardaloedd mwyaf diogel i nofio ynddynt
- Peidiwch â nofio ar eich pen eich hun. Os ydych chi’n mynd i drafferth, rhowch eich llaw yn yr awyr a gweiddi am help. Os welwch chi rywun mewn trafferth, peidiwch â cheisio’u hachub. Ffoniwch 999 a gofynnwch am Wylwyr y Glannau (Coastguard).
Is-ddeddfau
- Mae Is-ddeddfau Dŵr Ymdrochi Cyngor Sir Penfro yn berthnasol i’r ardal gyfan oddi ar y traeth hwn. Mae’r rhain yn cynnwys cyfyngiad ar gyflymder.
- Mae Is-ddeddfau Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn berthnasol i’r blaendraeth cyfan ar y traeth hwn. Ewch i’n tudalen Is-ddeddfau i gael gwybod mwy.
- Mae Is-ddeddfau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn berthnasol i’r ardal o amgylch Broad Haven South.