Mae croeso ichi ddod â’ch ci i fwy na 50 o draethau Sir Benfro, ond mae yna ardaloedd ar rai ohonyn nhw lle na chaniateir cŵn neu mae rhai yn gwahardd cŵn rhwng 1 Mai a diwedd mis Medi.
Nodwch – nid yw’r cyfyngiadau hyn yn berthnasol i gŵn tywys ar gyfer pobl â nam ar eu golwg.
Gallwch ddarganfod mwy am gerdded eich ci ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro, gan gynnwys ein Cod Ymddygiad Cerdded Cŵn, trwy ymweld â’n tudalen Cerdded eich Ci.
Ble mae’r cyfyngiadau cŵn?
Eu gwahardd yn llwyr:
- Traeth y Gogledd, Dinbych-y-pysgod
- Traethmawr, Tyddewi
Eu gwahardd yn rhannol:
- Lydstep
- Traeth a phromenâd Niwgwl
- Traeth a phromenâd Saundersfoot
- Traeth y Castell a Thraeth y De, Dinbych-y-pysgod
- Traeth a phromenâd Llanrhath
- Traeth Poppit
- Aberllydan (gogledd)
- Dale
Ewch i wefan Visit Pembrokeshire i weld mapiau manwl.