***Gofalwch fod y gadair yn addas cyn ei defnyddio***
Symud i mewn ac allan o’r Cadeiriau Olwyn
Gwnewch yn siŵr bod defnyddiwr y gadair olwyn yn gallu symud i mewn ac allan o’r gadair yn ddiogel heb gymorth sefyll neu declyn codi.
Wrth symud i mewn ac allan o’r gadair:
- Dylech BOB AMSER sicrhau bod yr olwynion wedi cloi (ar gyfer cadeiriau olwyn y traeth) neu fod y brêc ar waith (ar gyfer cadeiriau olwyn eraill), neu bydd y gadair yn symud
- Gwnewch yn siŵr bod yr olwynion blaen bach (lle bo’n berthnasol) yn pwyntio ymlaen, neu efallai y bydd y gadair yn symud wrth i chi fynd i mewn/allan ohoni
- PEIDIWCH â chamu ar y cynhaliwr traed oherwydd gallai hyn achosi i’r gadair droi drosodd
- Codwch freichiau cadair olwyn y traeth a mynd i mewn ac allan ohoni o’r ochr yn unig
- Nid yw’r breichiau’n gallu cynnal pwysau ac ni ddylid eu defnyddio i helpu rhywun i symud i mewn neu allan o’r gadair.
Cloi yr olwynion
- Cofiwch gloi y ddau deiar mawr cyn wrth eistedd neu godi o’r gadair
- Dylech gloi’r olwynion pryd bynnag fydd y gadair olwyn wedi stopio a phan nad yw’r helpwr wrth law.
· Nid brêcs yw’r cloeon ar yr olwynion. - Ni ddylid defnyddio’r cloeon ar yr olwynion i arafu na stopio’r gadair tra bydd yn symud.
Rampiau, Llethrau a’r Môr
***Peidiwch â mynd â’r gadair olwyn i mewn i’r môr. Mae’r teiars yn hynawf iawn ac os bydd y gadair olwyn yn dechrau arnofio bydd yn simsan iawn a gall rolio drosodd***
Sicrhewch nad yw’r dolenni’n boeth, yn wlyb nac yn llithrig cyn teithio ar hyd llethr neu ramp.
Rhaid i chi wybod lle mae pendraw i’ch gallu o ran cryfder a pha mor hir allwch chi oddef cyn i chi fentro mynd i lawr neu i fyny ramp, llethr neu lithrfa.
- A yw’r ramp yn rhy serth?
- A yw’r ramp yn rhy hir i chi oddef?
- A yw’r ramp yn llithrig? (mae tywod mân sych neu dywod gwlyb yn gallu bod yn llithrig)
- A oes unrhyw rwystrau? (biniau sbwriel, stepiau, pobl ac ati)
Mae’r gadair olwyn wedi’i bwriadu i’w defnyddio ar y traeth. Ni ddylid ei defnyddio yn aml ar y palmant i deithio i’r traeth ac oddi yno er mwyn atal y teiars rhag gwisgo.
Safle a Chyflwr
- Gofalwch eich bod yn gyfforddus efo cynllun a chyflwr y traeth.
- Edrychwch ar ragolygon y tywydd ac amseroedd y llanw cyn i chi ymweld.
- Pan fyddwch chi yn y gadair olwyn, defnyddiwch eli haul neu ambarél i osgoi llosg haul.