Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Penfro yn cynnig amrywiaeth eang o offer i'w llogi yn rhad ac am ddim.
Llogi Offer Arbenigol
Rydym yn cynnig amrywiaeth o offer arbenigol sy’n gallu gwella mynediad a phrofiad.
Teclyn Codi Symudol – I’w logi a’i ddefnyddio, bydd angen i chi ddangos tystiolaeth eich bod wedi cael hyfforddiant cyfredol a chywir ar godi a chario.
Rampiau cludadwy
Dolenni clyw a dolenni cludadwy
Cliciwch yma i gael y catalog.

Llun o gadair olwyn y traeth
1. Pa offer sydd ar gael?
– Cadeiriau olwyn ar gyfer y traeth i’w defnyddio ar dywod ac ar arwynebau meddal
– Cadeiriau olwyn ar gyfer pob tir i’w defnyddio ar wahanol fathau o dir
– Rampiau
– Teclyn codi
– Systemau dolen sain
I gael rhagor o fanylion, edrychwch ar y siart
2. Ble alla i rentu neu gael benthyg cadair olwyn ar gyfer y traeth?
Mae rhestr o’n darparwyr presennol ar gael ar ein safle archebu. Cofiwch y gall y ddarpariaeth newid y tu allan i’r tymor. Dilynwch eich darparwr ar gyfryngau cymdeithasol. Mae rhai o’n darparwyr yn ddibynnol ar y tywydd ac yn newid eu horiau ar y diwrnod, yn enwedig yn y gwanwyn a’r hydref.
Mae ein holl ddarparwyr yn wirfoddolwyr, ac maen nhw’n cynnig cymorth am ddim. Ni fyddem yn gallu cynnig y gwasanaeth hwn heb haelioni a chymorth y darparwyr.
3. Sut mae archebu cadair olwyn ar gyfer y traeth ymlaen llaw?
Fel arfer, gallwch archebu cadair olwyn ar gyfer y traeth ymlaen llaw drwy ein gwefan archebu, dros e-bost a dros y ffôn.
Mae’n syniad da archebu ymlaen llaw, yn enwedig yn ystod y tymhorau prysur, gan fod llawer o alw am offer.
4. Alla i gadw cadair olwyn ar gyfer y traeth am gyfnod?
Gallwch. Y tu allan i’r tymor prysur, gallwn drefnu i chi gael benthyg offer am gyfnodau hirach. Anfonwch e-bost i drafod hyn ymhellach.
Gallwch hefyd ddefnyddio’r safle archebu i wneud mwy nag un archeb.
5. Faint mae’n ei gostio i archebu offer?
Fel rhan o’n hymgyrch i fod yn hygyrch i bawb, does dim cost am rentu offer drwy Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro.
Rydym yn croesawu rhoddion, a dderbynnir drwy’r wefan, ac maen nhw’n mynd tuag at gostau rhedeg y prosiect a buddsoddi mewn offer newydd.
Mae’r prosiect hefyd yn croesawu nawdd misol.
6. Cynlluniwch eich taith
Rydym yn ceisio dod â’r offer mor agos â phosibl at y traeth. Ar adegau, mae angen ystyried y logisteg er mwyn cael y gadair i’r lle mwyaf diogel i allu trosglwyddo a chyrraedd y traeth.
Mae angen i chi fod yn ymwybodol o’ch cyfyngiadau eich hun o ran cryfder a dygnwch cyn ceisio mynd i lawr neu i fyny ramp, llethr neu lithrfa, neu groesi tir anodd.
• Ydy’r ramp yn rhy serth?
• Ydy’r ramp yn rhy hir i chi?
• Ydy’r ramp yn llithrig? (gall tywod sych mân neu dywod gwlyb greu perygl o lithro)
• A oes unrhyw rwystrau? (biniau sbwriel, grisiau, pobl, ac ati)
• Oes unrhyw un o gwmpas i gynnig help i chi?
Mae cadeiriau olwyn y traeth wedi’u dylunio i gael eu defnyddio ar y traeth. Dim ond wrth deithio’n ôl ac ymlaen i’r traeth y dylid eu defnyddio ar y palmant, er mwyn osgoi gwisgo’r teiars.
• Gwnewch yn siŵr eich bod yn gyfforddus â chynllun a chyflwr y lleoliad rydych chi’n ymweld ag ef
• Cadwch lygad ar ragolygon y tywydd ac amseroedd y llanw, pan fydd hynny’n briodol, cyn eich ymweliad
• Pan fyddwch chi yn y gadair olwyn, defnyddiwch eli haul neu ymbarél i osgoi llosgi yn yr haul, a gwisgwch yn briodol ar gyfer y tywydd yn y gaeaf
• Gall fframiau cadeiriau olwyn fynd yn boeth yn yr awyr agored yn ystod tywydd poeth.
7. Beth yw’r gwahaniaeth rhwng cadair olwyn y traeth a chadair olwyn ar gyfer pob tir?
Mae cadair olwyn y traeth yn gymorth symudedd sydd wedi’i ddylunio’n arbennig, ac yn galluogi unigolion sydd ag anableddau neu gyfyngiadau corfforol i deithio ar draws traethau tywodlyd yn rhwydd.
Yn wahanol i gadeiriau olwyn arferol, mae gan gadeiriau olwyn y traeth deiars mawr tebyg i falŵn sy’n rhwystro’r gadair rhag suddo i’r tywod, sy’n ei gwneud yn haws i symud ar draws arwynebau anwastad.
Mae gennym ddetholiad o gadeiriau olwyn y traeth sydd â gwahanol ddyluniadau i blant ac oedolion.
Er eu bod wedi’u dylunio ar gyfer y tywod, gallant hefyd ymdopi ag arwynebau meddal eraill fel glaswellt, ond dydyn nhw ddim yn addas ar gyfer amgylcheddau tarmac a chaletach.
Mae ein cadeiriau olwyn pob tir wedi’u dylunio ar gyfer llwybrau mwy heriol. Er enghraifft, cafodd cadeiriau Motus (Push) eu dylunio i gystadlu mewn rasys mwd, felly maen nhw’n ysgafn, yn hyblyg a, gyda phrofiad, gellir eu defnyddio i groesi pob math o rwystrau. Mae’r gyfres o dreics mynydd yn seiliedig ar allu cynnig profiad tebyg i feic mynydd, felly mae angen lefel o sgil ar y person sy’n llywio’r gadair. Ond gallwch hefyd ddefnyddio’r rhain ar daith fwy hamddenol.
8. Alla i ddefnyddio cadair olwyn arferol ar y traeth?
Dydy cadeiriau olwyn safonol ddim yn addas ar gyfer y traeth fel arfer, gan fod eu holwynion yn llai, yn fwy cul ac felly’n tueddu i suddo i’r tywod. Mae cadeiriau olwyn y traeth wedi’u dylunio’n benodol at y diben hwn, ac mae ganddyn nhw deiars mwy llydan â phwysedd isel sy’n golygu ei bod yn haws symud ar draws y tywod ac arwynebau garw eraill.
9. Ydy cadeiriau olwyn y traeth yn defnyddio modur?
Ar hyn o bryd nid oes gennym gadeiriau olwyn hunanyrru / modur ar gyfer y traeth, ac rydym wastad yn chwilio am hynny ar y farchnad. Rydym yn gobeithio buddsoddi mewn cadeiriau o’r fath yn y dyfodol, oherwydd rydym yn sylweddoli pa mor bwysig yw bod yn annibynnol.
Mae gennym ddetholiad o gadeiriau olwyn modur a hunanbweru ar gyfer pob tir y gellir eu defnyddio mewn mannau mwy heriol yn yr awyr agored, ac weithiau ar dywod caletach.
10. Oes modd addasu’r cadeiriau olwyn i’w gwneud yn fwy cyfforddus?
Mae’r rhan fwyaf o gadeiriau olwyn hygyrch yn cael eu dylunio gyda chyfforddusrwydd mewn golwg, gan gynnig nodweddion fel seddi â chlustog a chynhalwyr traed y gellir eu haddasu. Gall lefel y cyfforddusrwydd a’r gallu i addasu amrywio rhwng modelau a chwaeth bersonol.
Rydym yn ceisio darparu detholiad o offer er mwyn ceisio sicrhau bod gan bawb leoliad awyr agored y gallant ei ddefnyddio yn Sir Benfro. Os nad ydym yn diwallu eich anghenion chi ar hyn o bryd, cysylltwch â ni er mwyn i ni allu ystyried hynny wrth brynu yn y dyfodol.
11. A oes cyfyngiadau oedran ar gyfer defnyddio offer?
Fel arfer, mae cadeiriau olwyn y traeth ar gael mewn gwahanol feintiau er mwyn bod yn addas i blant, oedolion a phobl hŷn.
Does dim terfyn oedran penodol ar gyfer defnyddio offer, ond bydd angen profiad a rhywfaint o hyfforddiant ar gyfer rhai offer â modur hunanyrru.
Mae’n hollbwysig dewis cadair sy’n addas i faint a phwysau’r defnyddiwr, er mwyn iddi fod mor gyfforddus a diogel â phosibl.
Rydym yn gofyn i’r sawl sy’n archebu’r offer fod dros 18 oed, at ddibenion yswiriant.
12. Ydy cadeiriau olwyn ar gyfer pob tir yn ddiogel?
Ydyn, mae cadeiriau olwyn ar gyfer pob tir/y traeth yn ddiogel i’w defnyddio’n gyffredinol pan fyddan nhw’n cael eu defnyddio’n gywir. Maen nhw wedi cael eu dylunio i ddelio ag arwyneb anwastad a meddal y tywod.
Mae’r offer modur yn gallu bod yn anoddach eu defnyddio, ac mae’n bosibl y bydd angen ymarfer a chymorth ychwanegol cyn teimlo’n hyderus wrth eu defnyddio.
Mae’n bwysig dilyn unrhyw ganllawiau a ddarperir gan y gwneuthurwr.
Dylech bob amser fod yn ymwybodol o’r hyn sydd o’ch cwmpas ac o risgiau eraill fel dŵr agored, llethrau a thywydd garw. Mae angen cryfder corfforol i ddefnyddio’r offer – maen nhw’n gallu bod yn drymach nag offer symudedd safonol, ac yn wahanol i’w defnyddio.
13. Glanhau
Rydym yn argymell eich bod yn dod â rhywbeth i lanhau’r offer cyn ac ar ôl eu defnyddio, gan fod llawer o offer yn cael eu gadael y tu allan.
Rhowch wybod am unrhyw broblemau ar unwaith, oherwydd rydym yn ceisio ymateb a mynd i’r afael â diffygion wrth iddynt godi, yn ogystal â thrin yr offer yn flynyddol.
14. Alla i ddefnyddio cadair olwyn y traeth yn y dŵr?
Gallwch. Mae llawer o gadeiriau olwyn ar gyfer y traeth wedi’u dylunio i wrthsefyll dŵr, ac yn gallu cael eu defnyddio mewn dŵr bas. Mae’n hollbwysig darllen manylebau’r gwneuthurwr.
Dyma ein cyngor ni –
• Peidiwch byth â mynd yn ddyfnach nag un rhan o dair o’r ffordd i fyny’r teiars
• Gwnewch yn siŵr bod rhywun yn dal gafael ar y gadair
• Dydy hi ddim yn ddiogel mynd at y llanw – mae olwynion y gadair yn arnofio, a byddan nhw’n mynd yn ansefydlog
• Peidiwch byth â mynd i mewn i’r dŵr pan fydd y tonnau/tywydd yn arw.
Bydd yr offer pob tir yn gallu teithio drwy byllau a nentydd isel, ond dydyn nhw ddim wedi’u dylunio i fynd yn wlyb.
15. A oes unrhyw gyfyngiadau pwysau ar gyfer y cadeiriau olwyn?
Mae cyfyngiadau pwysau y rhan fwyaf o gadeiriau olwyn ar gyfer y traeth yn amrywio yn ôl model. Cofiwch ddarllen manylebau’r gadair rydych chi’n bwriadu ei rhentu neu ei phrynu, oherwydd mae croesi’r terfyn pwysau yn gallu effeithio ar ddiogelwch a gwydnwch y gadair. Mae rhai cadeiriau’n cael eu hadeiladu i ddelio â phwysau uwch.
16. Olwynion gwynt
Bydd yr olwynion yn edrych ychydig yn fflat, gan eu bod yn gweithio fel hongiad wrth groesi tir anwastad.
Os oes angen llenwi’r olwynion ag aer a thynnu’r aer ohonynt, dylai’r darparwr fod wedi cael pwmp teiars y gellir ei fenthyg, neu anfonwch e-bost atom i ddatrys unrhyw broblemau.
• Gwnewch yn siŵr bod pob pin yn ei le
• Mae’r olwynion yn cael eu pwmpio i edrych ychydig yn fflat. Dylid defnyddio 2psi ar gyfer teiars bach, a 4psi ar gyfer y teiars mwy, a fydd yn gweithio fel hongiad – mae’r darparwyr wedi cael pympiau teiars.
17. Cloeon olwynion cadeiriau olwyn ar gyfer y traeth
- Rhaid cloi’r cloeon ar deiars y ddwy olwyn fawr cyn mynd i mewn neu allan o’r gadair
- Dylid cloi cloeon yr olwynion pryd bynnag y bydd y gadair olwyn yn dod i stop, a phan nad yw’r cynorthwyydd yn bresennol
- Nid brêcs yw cloeon yr olwynion
- Ni ddylid defnyddio’r cloeon ar yr olwynion i arafu na stopio’r gadair pan fydd yn symud.
- Ateg
18. Ategolion Strapiau, Gwregysau
Os bydd gwregys yn cael ei ddarparu, gwnewch yn siŵr nad oes clymau ynddo a’i fod yn clipio yn ei le’n sownd. Dim ond ychydig iawn o offer sydd â harneisiau 5 pwynt.
Mae’n hawdd defnyddio eich ategolion eich hun gyda’r offer.
19. Mynd i mewn ac allan o’r cadeiriau olwyn
Gwnewch yn siŵr bod y sawl sy’n defnyddio’r gadair olwyn yn gallu trosglwyddo i’r gadair ac allan ohoni yn ddiogel heb gymorth sefyll neu declyn codi.
Wrth symud i mewn ac allan o’r gadair:
• Dylech BOB AMSER gloi’r olwynion (yn achos cadeiriau olwyn ar gyfer y traeth) neu’r brêc (yn achos cadeiriau olwyn eraill), neu bydd y gadair yn symud
• Gwnewch yn siŵr bod yr olwynion blaen bach (lle bo’n berthnasol) yn pwyntio ymlaen, neu gallai’r gadair symud wrth i chi fynd i mewn/allan ohoni
• Codwch freichiau’r gadair olwyn ar gyfer y traeth, a dim ond o’r ochr y dylech fynd i mewn ac allan ohoni
• Nid yw’r breichiau’n gallu cynnal pwysau, ac ni ddylid eu defnyddio i helpu rhywun i symud i mewn neu allan o’r gadair
• PEIDIWCH â chamu ar y cynhaliwr traed i fynd i mewn i’r gadair, oherwydd gallai hyn wneud i’r gadair droi drosodd. Pwrpas y cynhaliwr traed yw eich helpu i adael y gadair, ac i orffwys eich traed tra byddwch yn y gadair.
20.Sut Rydym yn Defnyddio Eich Gwybodaeth Bersonol
Cliciwch yma