Taith antur: 3.0 milltir (4.8 km).
Cymeriad: Pyllau lili, traeth, golygfeydd gwych, graddiannau ac arwynebau anwastad.
Toiledau: yng Nghanolfan Ystagbwll (yn ystod oriau agor), mynediad i’r anabl.
Sut i gyrraedd yno:
Trafnidiaeth gyhoeddus: Gwibfws yr Arfordir (hygyrch i gadeiriau olwyn).
Eich trafnidiaeth eich hun: De Sir Benfro, 5 milltir i’r De o dref Penfro. Dewch ar heol y B4319. Tâl am barcio i’r rheiny nad ydynt yn aelodau o’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.
Mae’r daith hon ar Ystâd Ystagbwll yn dechrau wrth Ganolfan Ystagbwll ac yn ymlwybro ochr yn ochr â changen ddwyreiniol pyllau lili enwog Bosherston gan ddiweddu wrth yr olygfan dros draeth De Broad Haven.
Mae rhai o’r llwybrau’n anwastad, ac mae yna rai graddiannau serth. Mae mwyafrif y daith gerdded ar lwybrau troed caniataol.
Mae Ystâd Ystagbwll yn eiddo i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol ac yn cael ei rheoli ganddo, ac mae’n cynnwys elfennau cyferbyniol: clogwyni, pentiroedd, traethau a thwyni tywod, pyllau dŵr croyw gyda choed o’u cwmpas, baeau cysgodol, coetiroedd aeddfed a thir fferm.
Cyfarwyddiadau
Ewch ymlaen tuag at y lôn gyferbyn â’r maes parcio (arwydd cadair olwyn ar y wal ar yr ochr dde) a dilynwch y lôn i lawr i’r pwll lili.
Dilynwch y palmant ar ochr dde’r lôn (o leiaf 1 metr o led) i fynd i lawr y llethr ar hyd cyfres o droeon. Adrannau serth (1:9 i 1:12) at y tro cyntaf.
Ar ôl yr ail dro, crymu tua’r chwith 1:9 i 1:18 am 18 metr ac adran serth hyd at 1:8 am 50 metr. Ar y trydydd tro, mae yna raddiant o 1:8 ac mae’n crymu tua’r chwith 1:12 i 1:18 am 14 metr.
Ar waelod y llethr, gyferbyn â’r bont wyth bwa, mae yna ddewis o dri llwybr: trowch i’r dde i fynd ymlaen i draeth De Broad Haven; trowch i’r chwith i fynd at y guddfan adar yn yr hen dŷ cychod neu ewch ymlaen at y bont wyth bwa i gael gweld y golygfeydd.
I draeth De Broad Haven: trowch i’r dde ac mae’n crymu ar unwaith 1:6 i’r dde, mae’r llwybr tarmac yn parhau am 2 fetr ac yna mae yna arwyneb o gerrig cywasgedig am weddill y llwybr ar hyd ymyl y llyn. Ar ôl 58 metr, mae’n disgyn 1:6 am 10 metr at fainc a golygfan.
Wrth i chi ddilyn y llwybr, mae yna rai adrannau serth: hyd at 1:6 am 9 metr; hyd at 1:9 am 9 metr; hyd at 1:8 am 22 metr a hyd at 1:9 am 10 metr.
Yna, mae’r llwybr yn mynd yn fwy cul i 0.9 metr o led am 116 metr gydag un lle pasio, ac mae’n crymu 1:10 am 2 fetr at y llyn.
Mae’r llwybr yn lledaenu unwaith eto i o leiaf 1.2 metr o led ac mae yna ddwy adran sy’n crymu at y llyn: maen nhw’n 1:7 am 3 metr ac yn 1:10 am 3 metr.
Mae yna fwy o adrannau serth: hyd at 1:15 am 15 metr; hyd at 1:8 am 16 metr, dau fan ble mae’n crymu at y llyn – 1:12 am 25 metr ac 1:12 am 3 metr a graddiant o hyd at 1:8 am 2 fetr.
Ewch heibio i’r fainc yn yr olygfan cyn troi i’r chwith arno i’r bont (arwyneb anwastad o dywarch am 14 metr).
Wrth i chi ddilyn y llwybr tuag at y traeth mae yna rai adrannau serth hyd at 1:12 am 21 metr; hyd at 1:18 am 49 metr; 1:9 i 1:18 am 36 metr ac mae’n crymu 1:6 at y pwll am 3 metr.
Mae’r llwybr yma’n anwastad ac efallai y bydd tywod ar y llwybr mewn mannau. Dwy adran serth arall, hyd at 1:14 am 5 metr a hyd at 1:10 am 8 metr hyd nes i chi gyrraedd y fainc wrth yr olygfan dros y traeth. Ewch yn ôl yr un ffordd.
At guddfan yr adar: wrth y bont, trowch i’r chwith i fynd at y guddfan adar ar hyd y llwybr cerdded cul ochr yn ochr â’r pwll.
Wrth i chi ddilyn y llwybr, mae yna adrannau serth: hyd at 1:8 am 22 metr; hyd at 1:6 am 22 metr; hyd at 1:9 am 9 metr, ac ychydig cyn yr hen dŷ cychod hyd at 1:8 am 8 metr ac 1:12 am 10 metr.
Mae’r tŷ cychod yn guddfan ar gyfer adar hefyd ac mae yma banelau gwybodaeth; gellir cael mynediad i fyny’r ramp ar y pen pellaf (hyd at 1:6 i lawr).
Heibio i’r tˆ y cychod mae’r llwybr yn codi: gyda graddiant o 1:10 am y 10 metr cyntaf, ac yna mae’n codi’n raddol (hyd at 1:12) am 100 metr.
Mae yna rai graddiannau serth yn yr adran olaf i’r brig: hyd at 1:8 am 7 metr; hyd at 1:6 am 28 metr ac yn olaf hyd at 1:6 am 27 metr.
Trowch i’r chwith arno i’r llwybr tarmac ar y brig a’i ddilyn trwy’r lawnt. (Dyma safle tˆ y mawr Llys Ystagbwll a ddymchwelwyd ym 1963).
Croeswch y lawnt i’r dde i weld yr olygfa dros y pwll lili o’r teras. Ewch yn ôl yr un ffordd.
I Gei Ystagbwll: o’r bont wyth bwa, fe allwch gerdded i Gei Ystagbwll ac yno mae yna le i barcio, ystafelloedd te a thoiledau.
Mae’n 1460 metr ar hyd lôn lydan gydag arwyneb o gerrig cywasgedig. Efallai bod ffens drydan ar draws y llwybr hwn.
Pan fydd ffens drydan yno, byddwch yn ofalus wrth ddadfachu’r weiren gyda’r ddolen sydd wedi’i hinswleiddio, a sicrhewch eich bod yn ei roi yn ôl ar ôl i chi basio trwodd.