Tref ac Aber Trefdraeth

Llwybr Fynediad Hwylus

Taith fynediad hwylus: 1.6 milltir (2.7 km), 1.5 milltir (2.5 km) os ydych yn dilyn y llwybr tarw.
Cymeriad: tref hynafol brydferth a golygfeydd dros yr aber, y cyfan ar lwybrau gwastad gydag arwyneb. Llethrau i fyny ac i lawr.
Toiledau: yn y maes parcio.

Sut i gyrraedd yno:

Trafnidiaeth gyhoeddus: Cyfeiriwch at wefan Cyngor Sir Benfro

Eich trafnidiaeth eich hun: Gogledd Sir Benfro, dechreuwch y daith o’r maes parcio yng nghanol y dref yn Nhrefdraeth. (Tâl yn ystod y prif dymor). Dewch ar gefnffordd yr A487.

Mae yna arwyneb ar hyd y daith hon, gyda phalmentydd wedi eu gostwng yn y dref, a llwybr llyfn gydag arwyneb o gerrig wedi ei wneud yn arbennig at y diben ar hyd Aber y Nyfer.

Yn Heol Hir (ble mae’r maes parcio) mae yna raddiant o hyd at 1:20, gyda rhai adrannau sy’n 1:12; mae’r daith yn mynd i fyny’r tyle ar yr heol hon.

Mae yna raddiant o 1:20 ar Heol y Parrog hefyd, gydag un adran 1:15 ac adran 1:12; mae’r daith yn dilyn yr heol hon i lawr y tyle.

Os ydych yn dilyn y llwybr tarw fe fyddwch yn osgoi adrannau mwyaf serth y daith. Mae enw’r dref, Trefdraeth yn cyfeirio at y ffaith fod yma draeth a thref, wrth gwrs.

Mae yna ddau draeth yn Nhrefdraeth, wedi eu gwahanu gan yr Afon Nyfer: y Parrog ac, ar draws yr aber, Traeth Trefdraeth.

Dyma le hynod o ddiddorol. Fe’i sylfaenwyd fel Novus Burgus tua 1200 gan Arglwydd Normanaidd Cemaes.

Mae gosodiad y strydoedd wedi glynu’n agos at batrwm grid y dref newydd Normanaidd a’r castell yw prif dirnod y dref o hyd.

Mae gan y dref siambr gladdu Neolithig hefyd, sef Carreg Coetan Arthur, castell o’r 16eg ganrif (y mae pobl yn dal i fyw ynddo heddiw) ac Eglwys hyfryd y Santes Fair.

Gwelwyd rhai o drefi newydd y Normaniaid yn ffynnu, ac eraill yn methu. Roedd Trefdraeth yn llwyddiannus, a daeth yn gymuned masnachu ac adeiladu cychod.

O’r 16eg ganrif hyd nes i’r rheilffyrdd ladd llawer o’r fasnach arfordirol, allforiwyd nwyddau fel gwlân, llechi a phenwaig o stordai yn y Parrog.

Cyfarwyddiadau

Taith Gyfan:

Trowch i’r dde allan o’r maes parcio.  Wrth fynd i fyny’r tyle, mae’r stryd yn mynd yn fwy serth tuag at y groesfan (hyd at 1:12).

Trowch i’r dde wrth y groesfan (graddiant croes sy’n 1:10) a dilynwch y palmant.

Trowch i’r dde eto arno i Heol y Parrog (1:15 i lawr am 64 metr), dilynwch yr heol i lawr (adran 1:12 am 60 metr ymhellach i lawr) ac ar ôl y tai ar y dde, trowch i’r dde arno i Lwybr yr Arfordir wrth y postyn pwyntio.

Llwybr Tarw:

Croeswch y nant ar ddiwedd y maes parcio gan ddefnyddio’r bont ar y chwith.  Trowch i’r chwith a dilynwch y llwybr rhwng y tai.

Wedi cyrraedd ardal agored, trowch i’r chwith ac
yna i’r dde ar y palmant, ac yna ewch yn syth ymlaen rhwng y tai. Wedi cyrraedd yr heol, trowch i’r dde, dilynwch yr heol i lawr (adran 1:12 am 60 metr) ac ar ôl y tai ar y dde trowch i’r dde arno i Lwybr yr Arfordir wrth y postyn pwyntio.

Dilynwch y llwybr ar hyd yr aber yr holl ffordd at yr heol, gan anwybyddu’r llwybrau ar y dde. Mae yna adran 20 metr gyda chambr croes o 1:20.

Ble mae’r llwybr yn croesi pont mae yna addiant o 1:10 i fyny am 13 metr a graddiant o 1:12 i lawr am 15 metr.

Wedi cyrraedd yr heol, ewch yn ôl yr un ffordd, anwybyddwch y llwybr cyntaf ar y chwith gydag arwydd at yr Hostel Ieuenctid (YHA), a throwch i’r chwith arno i lôn a tharmac (dyma Heol Hir).

Dilynwch Heol Hir i fyny’r tyle hyd nes cyrraedd y maes parcio.  Mae’r graddiant hyd at 1:20 yn bennaf, ond mae yna ychydig o adrannau sy’n 1:12.

Dewch o hyd i'r daith hon

Cyfeirnod Grid: SN056392