Mae'r ynysoedd oddi ar lannau Sir Benfro yn un o'r uchafbwyntiau mewn unrhyw ymweliad i'r Parc Cenedlaethol. Mae gan bob un ei chymeriad a'i thirwedd unigryw ei hun, ble mae bywyd gwyllt yn ffynnu ac amser yn aros yn ei unfan.
Enwyd yr ynysoedd gan y Llychlynwyr a hwyliai ar hyd yr arfordir hwn yn yr 8fed i’r 10fed ganrif, er, mae gan Ynys Bŷr ac Ynys Dewi enwau Cymraeg hynnach sy’n adlewyrchu traddodiad Gristnogol gynnar.
Roedd pobl yn byw ar yr ynysoedd ymhell yn ôl mewn cynhanes, ac roedd y rhan fwyaf yn cael eu ffermio ymhell i mewn i’r 20fed ganrif. Heddiw, mae llawer ohonynt yn warchodfeydd natur ac nid oes neb yn byw ar un ohonynt, heblaw am Ynys Bŷr, ar wahan i wardeiniaid a gwirfoddolwyr.