Gwales

Ar Ynys Gwales, sydd 6 milltir oddi ar arfordir Penfro, mae’r gytref fwyaf trawiadol o fulfrain gwynion yn ne Prydain, a’r trydydd mwyaf yn hemisffer y gogledd.

Ystyr yr enw Saesneg ar yr ynys, ‘Grassholm’, yw’r “ynys werdd” ac mae’n dod o’r iaith Norseg,. Er, mae’r ynys yn edrych yn wyn o bellter, oherwydd yr ysgarthion a’r holl fulfrain gwynion sy’n eistedd ar eu nythod. Mae tua 32,000 o barau yn bridio yma o fis Ebrill i fis Medi, ac felly Gwales yw’r profiad eithaf os am weld, clywed ac arogli adar y môr yn Sir Benfro.

Erbyn mis Gorffennaf, oherwydd y cywion bach a’r adar sydd ddim yn bridio yma ond sy’n defnyddio’r ynys i gymdeithasu ac i glwydo, mae nifer y mulfrain gwynion yn codi i tua 100,000.
Mae yna nifer fach o wylanod y graig, gwylanod coesddu, heligogod, gweilch y penwaig, ac ambell fulfran werdd i’w gweld ar yr ynys hefyd.

O ganol yr haf, gellir gweld dros 100 o forloi llwyd yn gorwedd ar y creigiau pan fydd y llanw’n isel.

Ers 1947, mae Gwales wedi bod yn eiddo i Gymdeithas Frenhinol Gwarchod Adar (yr RSPB), a dyma’r warchodfa gyntaf i’r Gymdeithas ei phrynu. Mae sawl cwmni cychod yn cludo teithwyr ar deithiau o amgylch yr ynys, ond nid ydynt yn glanio ar yr ynys.

Yn yr Oesoedd Canol, defnyddiwyd Gwales i bori defaid yn ystod yr haf. Mae yna gaeadle bach ar yr ynys ac mae’n bosib y cafodd ei ddefnyddio i’w corlannu er mwyn eu cneifio.

Dod o hyd i Ynys Gwales

Ffeil Ffeithiau Ynys Gwales

  • Eiddo i: RSPB. Gwaherddir unrhyw un rhag glanio ar yr ynys.
  • Cyrraedd: teithiau cylch yn yr haf o Martins Haven, Dale a Neyland.
  • Ardal y Parc: Gorllewin
  • Cyfeirnod Grid: SM598092