POL_W1 Polisi’r Gymraeg: Dyfarnu Grantiau

Cyhoeddwyd : 29/08/2024

Fersiwn: F1
Dyddiad Gweithredol: 24/7/24
Perchennog y Ddogfen: Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd


A yw’r Polisi hwn yn ymwneud â mi: Pob Swyddog sy’n gyfrifol am ddyfarnu cyllid grant.

Cyfeirnod Cyflym – Negeseuon Allweddol y Polisi: 

  • Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn gwbl ymrwymedig i’r egwyddor o ganiatáu i siaradwyr Cymraeg ddefnyddio eu hiaith ym mhob agwedd ar eu bywydau ac mae’n cydnabod ei gyfrifoldeb i hybu a hwyluso’r defnydd ohoni.
  • Y polisi yma felly yw cynorthwyo swyddogion i sicrhau bod ystyriaethau Safonau’r Gymraeg yn elfen integredig o’r broses grantiau ar draws yr Awdurdod.

Mae’r Ddogfen hon hefyd ar gael yn Saesneg. 


Cynnwys
  1. Datganiad Polisi
  2. Nod y Polisi
  3. Cwmpas y Polisi
  4. Diffiniadau
  5. Deddfwriaeth
  6. Y broses dyfarnu grantiau: Sut gellir mewnoli ystyriaethau’r Gymraeg
  7. Gwybodaeth i gefnogi penderfyniad dyfarnu grant
  8. Asesu ceisiadau am grant
  9. Dyfarnu’r grant
  10. Gwneud a gweithredu penderfyniadau grant
  11. Monitro defnydd y grant
  12. Sut gall penderfyniadau grant gael effaith ar y Gymraeg
  13. Amodau safonol y gallech eu gosod ar gyfer derbyn grant
  14. Monitro a Sicrwydd

 

 

 


1. Datganiad Polisi

1.1 Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn gwbl ymrwymedig i’r egwyddor o ganiatáu i siaradwyr Cymraeg ddefnyddio eu hiaith ym mhob agwedd ar eu bywydau ac mae’n cydnabod ei gyfrifoldeb i hybu a hwyluso’r defnydd ohoni. Mae’r polisi hwn yn nodi gofynion yr Awdurdod o ran ariannu unigolion / sefydliadau.

 

 

 


2. Nod y Polisi

2.1 Mae’r Polisi hwn wedi ei ddatblygu er mwyn rhoi cymorth i Swyddogion i gydymffurfio a gofynion Safonau’r Gymraeg wrth gyhoeddi a dyfarnu grantiau ar ran APC. Mae dyfarnu grantiau â’r potensial i gael effeithiau pellgyrhaeddol ar y Gymraeg, boed yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol; mae gan nifer o’r grantiau hyn draweffaith cymdeithasol ac economaidd sydd yn ei dro’n dylanwadu ar y Gymraeg. Mae Safonau’r Gymraeg yn ei gwneud hi’n ofynnol ystyried pa effaith fyddai dyfarnu’r grant yn ei gael ar y:

    • cyfleoedd i bersonau ddefnyddio’r Gymraeg yng nghyd-destun y gweithgaredd
    • peidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg yn y gweithgaredd

2.2 Nod y polisi hwn felly yw cynorthwyo swyddogion i sicrhau bod ystyriaethau Safonau’r Gymraeg yn elfen integredig o’r broses grantiau ar draws yr Awdurdod i ategu ei waith i hyrwyddo’r Gymraeg.

 

 

 


3. Cwmpas y Polisi

3.1 Bydd yr egwyddorion yn berthnasol beth bynnag yw maint y grant. Felly, bydd angen proses er mwyn adnabod pa ofynion ieithyddol fydd eu hangen ar gyfer y gweithgaredd perthnasol, neu er mwyn gosod amodau ar gyfer dyfarnu’r grant. Er enghraifft: gallai grant bach gael ei ddyfarnu ar gyfer trefnu digwyddiad bach cymunedol – mewn achos o’r fath, byddai’n briodol gosod amodau y dylai arwyddion a deunydd cyhoeddusrwydd ar gyfer y digwyddiad fod yn ddwyieithog. Fel yn achos y grantiau mwy, mae’n bwysig egluro i’r rhai hynny sy’n ymgeisio am grantiau beth a ddisgwylir ohonynt fel sefydliadau mewn perthynas â’r defnydd o’r Gymraeg. Ble mae hynny’n briodol, dylid rhoi cymorth i’r rhai sy’n derbyn grantiau er mwyn iddynt allu cydymffurfio â’r egwyddorion a nodir yn y Polisi hwn.

    • Bydd y polisi hwn yn berthnasol pan fydd yr Awdurdod yn dyfarnu grantiau, lle mae’r Awdurdod ei hun yn gyfrifol am ariannu.
    • Bydd y polisi yma’n berthnasol os yw’r Awdurdod yn dyfarnu grantiau ar ran corff arall, Llywodraeth Cymru neu unrhyw gorff arall sy’n dod o fewn cwmpas Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011); mae’n angenrheidiol bod telerau ac amodau penodol y grant yn cynnwys ystyriaethau sy’n ymwneud â’r Gymraeg.
    • Ni fydd y polisi yn berthnasol os nad yr Awdurdod sy’n gyfrifol am osod y polisi ac nid oes modd newid ei gyfeiriad na’r telerau ac amodau ar gyfer y cronfeydd allanol hynny. Fodd bynnag yn y sefyllfa hon mae’n rhaid cadw at yr holl Safonau Iaith perthnasol eraill, sef cyhoeddi fersiynau Cymraeg o’r canllawiau a’r dogfennau ymgynghori, ffurflenni cais, deunydd cyhoeddusrwydd ac ati.

 

 

 


4. Diffiniadau

4.1 Yn y Cod Ymarfer i Reoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 1) 2015, mae Comisiynydd y Gymraeg yn egluro beth yw ‘grant’:

 “Fel arfer, mae grant yn drosglwyddiad parhaol o arian i berson, nad oes rhaid ei dalu’n ôl neu ei ddychwelyd. Mae’r term yn cynnwys unrhyw gymorth ariannol y mae corff yn ei roi i berson at brosiect neu ddiben penodol. Gan amlaf, dim ond rhan o gyfanswm costau y mae grant yn talu amdano. Caiff grantiau fel arfer eu defnyddio yn unol â thelerau ac amodau penodol. Gall y term gynnwys cymorth ariannol neu fudd-dal ond nid yw’n cynnwys swm o arian sy’n cael ei roi i berson drwy broses gaffael, er enghraifft gwasanaethau sy’n cael eu comisiynu.”

 

 

 


5. Deddfwriaeth

5.1 Ymhlith y ddeddfwriaeth sy’n berthnasol i’r polisi hwn mae’r canlynol:

5.2 Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 

Mae Mesur yn gosod fframwaith cyfreithiol sy’n rhoi dyletswydd ar yr holl awdurdodau lleol ac Awdurdodau Parc Cenedlaethol yng Nghymru, ynghyd â Gweinidogion Cymru, i gydymffurfio â Safonau’r Gymraeg.

5.3  Safon 94 Mesur y Gymraeg (Safonau Llunio Polisi)

Rhaid ichi lunio a chyhoeddi polisi dyfarnu grantiau (neu, pan fo’n briodol, ddiwygio polisi sydd eisoes yn bodoli) sy’n ei gwneud yn ofynnol ichi ystyried y materion a ganlyn pan fyddwch yn gwneud penderfyniadau ynghylch dyfarnu grant:

(a)  pa effeithiau, os o gwbl (a pha un ai yw’r rheini’n bositif neu’n andwyol), y byddai dyfarnu grant yn eu cael ar:

(i)    cyfleoedd i bersonau ddefnyddio’r Gymraeg, a
(ii)    peidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg

(b) sut y gellid gwneud neu weithredu penderfyniad (er enghraifft, drwy osod amodau grant) fel y byddai’n cael effeithiau positif, neu effeithiau mwy positif, ar:

(i)    cyfleoedd i bersonau ddefnyddio’r Gymraeg, a
(ii)   peidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg

(c)   sut y gellid gwneud neu weithredu penderfyniad (er enghraifft, drwy osod amodau grant) fel na fyddai’n cael effeithiau andwyol, neu fel y byddai’n cael effeithiau llai andwyol ar:

(i)    cyfleoedd i bersonau ddefnyddio’r Gymraeg, a
(ii)   peidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg

(ch)  a oes angen ichi ofyn i’r ymgeisydd am grant am unrhyw wybodaeth ychwanegol er mwyn eich cynorthwyo i asesu effaith dyfarnu grant ar:

(i)      cyfleoedd i bersonau ddefnyddio’r Gymraeg, a
(ii)     peidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg.

5.4  Safonau 71, 72, 72A, 74 a 75 Mesur y Gymraeg (Safonau Cyflenwi Gwasanaethau)

71  Rhaid i unrhyw ddogfennau yr ydych yn eu cyhoeddi sy’n ymwneud a cheisiadau am grant gael eu cyhoeddi yn Gymraeg, a rhaid i chi beidio â thrin fersiwn Gymraeg o’r dogfennau hynny yn llai ffafriol na fersiwn Saesneg ohonynt.

72  Pan fyddwch yn gwahodd ceisiadau am grant, rhaid i chi ddatgan yn y gwahoddiad y caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn Gymraeg ac na fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

72A Rhaid ichi beidio â thrin ceisiadau am grant a gyflwynir yn Gymraeg yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn Saesneg (gan gynnwys, ymysg pethau eraill, mewn perthynas â’r dyddiad cau ar gyfer cael ceisiadau, ac mewn perthynas ag amseriad rhoi gwybod i ymgeiswyr am benderfyniadau).

74  Os byddwch yn cael cais am grant yn Gymraeg, a bod angen cyf-weld ag ymgeisydd fel rhan o’ch asesiad o’r cais rhaid ichi – (a) cynnig darparu gwasanaeth cyfieithu o’r Gymraeg i’r Saesneg er mwyn i’r ymgeisydd allu defnyddio’r Gymraeg yn y cyfweliad, a (b) os yw’r ymgeisydd yn dymuno defnyddio’r Gymraeg yn y cyfweliad, darparu gwasanaeth cyfieithu ar y pryd at y diben hwnnw (os nad ydych yn cynnal y cyfweliad yn Gymraeg heb wasanaeth cyfieithu).

75  Pan fyddwch yn rhoi gwybod i ymgeisydd beth yw’ch penderfyniad mewn perthynas â chais am grant, rhaid i chi wneud hynny yn Gymraeg os cyflwynwyd y cais yn Gymraeg.

 

 

 


6. Y broses dyfarnu grantiau: Sut ellir mewnoli ystyriaethau’r Gymraeg

6.1 Rhaid i holl ddeunyddiau gwybodaeth ynghylch y grant fod ar gael yn Gymraeg, a bydd yn cael ei gyhoeddi ar yr un pryd â’r fersiwn Saesneg, gan gynnwys unrhyw ddogfennau canllaw, Fframweithiau asesu a thelerau ac amodau. Bydd y deunydd gwybodaeth yn nodi y bydd yr Awdurdod yn ystyried yr effeithiau ar y Gymraeg wrth ddyfarnu’r grant.

6.2 Dylid gosod yr ymwadiad canlynol wrth hysbysebu’r grant:

Caniateir cyflwyno ffurflen gais yn Gymraeg ac ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

An application form may be submitted in Welsh; any application submitted in Welsh will not be treated less favourably than an application submitted in English.

6.3 Os bydd angen cyhoeddi deunyddiau gwybodaeth yn Saesneg ac yn Gymraeg ar wahân, dylid gosod y frawddeg ganlynol ar dudalen flaen y ddogfen/nau Saesneg:

Mae’r ddogfen hon hefyd ar gael yn Gymraeg.

This document is also available in Welsh.

 

 

 


7. Gwybodaeth i gefnogi penderfyniad i ddyfarnu’r grant

7.1 Mae’r safon yn ei gwneud yn ofynnol i ystyried pa wybodaeth ychwanegol sydd ei hangen er mwyn ystyried yr effeithiau ar y Gymraeg. Gellir gofyn i ymgeiswyr am y wybodaeth hon ar unrhyw bwynt yn y broses o ystyried y penderfyniad. Er enghraifft:

    • gofyn cwestiynau safonol ynghylch yr effeithiau ar y Gymraeg fel rhan o’r ffurflen gais
    • anfon cais am wybodaeth ychwanegol at ymgeiswyr yn dilyn derbyn ceisiadau
    • gofyn cwestiynau am yr effeithiau ar y Gymraeg mewn unrhyw gyfweliadau a gynhelir.

7.2 Isod mae enghreifftiau o’r cwestiynau y gellir eu gofyn i ymgeiswyr am grantiau.

    • Ydych chi wedi ystyried beth fydd effeithiau’r gweithgaredd ar y Gymraeg? Beth fydd yr effeithiau positif a/neu negyddol?
    • Sut fyddwch chi’n mynd ati i gynyddu effeithiau positif ar y Gymraeg, a lleihau’r effeithiau negyddol?
    • Oes gennych chi ddigon o staff neu wirfoddolwyr i alluogi pobl i ddefnyddio’r Gymraeg?
    • Ydych chi wedi trefnu bod unrhyw ddeunyddiau ar gael yn Gymraeg?
    • Ydych chi wedi cynnwys unrhyw gostau ychwanegol ar gyfer darpariaeth Gymraeg yn eich cyllidebau e.e. costau cyfieithu?
    • Sut fyddwch chi’n sicrhau ansawdd eich darpariaeth Gymraeg?
    • Pa brofiad blaenorol sydd gennych o gyflawni gweithgaredd sy’n cael effeithiau positif, a ddim yn cael effeithiau negyddol, ar y Gymraeg?
    • Oes gennych chi unrhyw ddata sy’n dangos sut mae’ch gweithgareddau blaenorol wedi effeithio ar y Gymraeg?

 

 

 


8. Asesu ceisiadau am grant

8.1 Er mwyn ystyried yr effaith/effeithiau ar y Gymraeg, y cyngor yw defnyddio’r Templed sydd ar gael yn Atodiad 2, neu gellir ychwanegu’r cwestiynau canlynol am y Gymraeg at y ffurflen bresennol ar gyfer asesu ceisiadau am grant:

    • beth fydd effeithiau dyfarnu’r grant ar y Gymraeg, ac a yw’r rheiny’n bositif ynteu’n negyddol?
    • sut y gellir gwneud neu weithredu’r penderfyniad er mwyn cynyddu effeithiau positif a lleihau effeithiau andwyol?
    • a oes angen gwybodaeth ychwanegol gan yr ymgeiswyr er mwyn ystyried yr effeithiau ar y Gymraeg?

 

 

 


9. Dyfarnu’r grant

9.1  Dylid ystyried yr effeithiau ar y Gymraeg wrth wneud y penderfyniad terfynol, e.e. fel un o’r meini prawf ar gyfer y grant, neu faes mewn system sgorio. Rhaid i’r deunyddiau ar gyfer cofnodi’r penderfyniad nodi:

    • pa ystyriaeth a roddwyd i’r Gymraeg?
    • sut mae hyn wedi effeithio ar y penderfyniad?

9.2 Dylai’r Telerau ac amodau ar gyfer y grant nodi’n glir beth yw’r disgwyliadau o ran y Gymraeg – gweler Adran 13: Amodau safonol y gallech eu gosod ar gyfer derbyn grant.

 

 

 


10. Gwneud a gweithredu penderfyniadau grant

10.1 Er mwyn sicrhau bod y penderfyniad yn cynyddu’r effeithiau positif ar y Gymraeg, mae’n bosib cyflawni’r nod mewn 2 ddull (gellir gwneud y ddau – nid yw’n gorfod bod yn un neu’r llall).

    • gwneud y penderfyniad – dyfarnu grantiau i geisiadau sy’n ymddangos yn fwy tebygol o gynyddu’r effeithiau positif ar y Gymraeg, a lleihau’r effeithiau negyddol
    • gweithredu’r penderfyniad – cymryd camau i sicrhau bod derbynwyr grantiau’n gweithredu mewn ffyrdd penodol er mwyn cynyddu’r effeithiau positif a lleihau’r effeithiau negyddol.

10.2 Nid oes disgwyl mai’r effeithiau ar y Gymraeg fydd y prif, neu’r unig, ffactor a ystyrir wrth benderfynu pwy fydd yn derbyn pob grant. Mae’n debygol bod bydd nifer o feini prawf ar gyfer mesur ceisiadau, a’r rheiny’n ymwneud â materion fel i ba raddau mae’r cais yn cyd-fynd ac amcanion y grant, ac i ba raddau mae’r cais yn rhoi sicrwydd y bydd yr arian yn cael ei drin yn briodol.

10.3 Dylid ychwanegu’r effeithiau ar y Gymraeg fel un o’r meini prawf i’w defnyddio wrth benderfynu ar ddyfarnu’r grant. Os defnyddir system sgorio ar gyfer penderfynu pa geisiadau i roi grant iddynt, gellir ychwanegu’r effeithiau ar y Gymraeg fel un rhan o’r system sgorio honno, gan roi sgôr i geisiadau ar sail ystyriaeth o’u heffeithiau ar y Gymraeg. Fodd bynnag, mater i’r Swyddog Dyfarnu fydd penderfynu pa mor drwm i bwysoli’r effeithiau ar y Gymraeg fel rhan o’r system sgorio. Mae’n bwysig cadw cofnod priodol o sut mae ystyried yr effeithiau ar y Gymraeg wedi dylanwadu ar y penderfyniad terfynol o ran dyfarnu’r grant.

10.4 Mae modd dyfarnu’r grant yn amodol ar gymryd camau penodol i sicrhau cynyddu’r effeithiau positif ar y Gymraeg, a lleihau’r effeithiau negyddol. Bydd angen sicrhau bod yr amodau hyn, a chanlyniadau methu â chadw atynt, yn hollol glir i dderbynwyr y grant. Dylid rhestru’r gofynion mewn telerau ac amodau, neu lythyr dyfarnu, ar gyfer y grant. (Gweler Adran 13).

10.5 Noder: Un dull effeithiol o sicrhau bod busnesau neu elusennau yn datblygu eu defnydd o’r Gymraeg yw ei gwneud yn ofynnol iddynt ddatblygu cynllun Cynnig Cymraeg (comisiynyddygymraeg.cymru), sy’n cael ei hwyluso gan Gomisiynydd y Gymraeg. Mae’r system yn creu cynllun o lefel darpariaeth Gymraeg ar sail holiadur, ac yn rhoi cyfle i fusnesau ac elusennau osod targedau, gyda chefnogaeth swyddogion Hybu a Hwyluso Comisiynydd Y Gymraeg, i gynyddu eu darpariaeth Gymraeg.

 

 

 


11. Monitro defnydd y grant

11.1   Os oes gofynion i adrodd nôl ar y defnydd o’r grant, dylid cynnwys cwestiynau ynghylch:

    • pa gamau a gymerodd y derbynnydd grant i gynyddu effeithiau positif a lleihau effeithiau negyddol ar y Gymraeg
    • pa effeithiau positif a negyddol a gafodd y grant ar y Gymraeg

 

 

 


12. Sut gall penderfyniadau grant gael effaith ar y Gymraeg

12.1 Wrth wneud penderfyniad dyfarnu grant, mae’r Safon Iaith yn nodi bod rhaid i’r Awdurdod ystyried effeithiau ar y Gymraeg. Mae’r templed yn Atodiad 2 yn cynnig dull o gofnodi hyn.

12.2 Mae angen adnabod dau fath o effeithiau ar y Gymraeg, sef effeithiau ar ddwy brif amcan y safonau:

    • sicrhau cyfleoedd i bersonau ddefnyddio’r Gymraeg
    • peidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg.

12.3 Yn y Cod Ymarfer i Reoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 1) 2015, mae Comisiynydd y Gymraeg yn egluro ‘peidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg’ fel a ganlyn:

“Mae ystyr ymarferol ‘yn amrywio o sefyllfa i sefyllfa. Ond yn gyffredinol, mae’n golygu peidio â rhoi neb dan anfantais os ydynt yn dymuno defnyddio’r Gymraeg, a sicrhau bod y Gymraeg o leiaf yr un mor amlwg, safonol a hygyrch â’r Saesneg bob amser.”

12.4 Ar ol adnabod yr effeithiau posib, bydd angen adnabod a ydynt yn bositif ynteu’n andwyol:

    • effeithiau positif yw rhai sy’n golygu bod cynnydd yn y defnydd o’r Gymraeg, bod y Gymraeg yn fwy amlwg, neu nad oes unrhyw rwystrau ychwanegol i ddefnyddio’r Gymraeg, gyda deilliannau sydd o leiaf cystal
    • effeithiau negyddol yw rhai sy’n golygu bod llai o gyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg, bod y Gymraeg yn llai amlwg, neu fod pobl sy’n dymuno defnyddio’r Gymraeg yn wynebu mwy o rwystrau neu ddeilliannau llai ffafriol na phobl sy’n defnyddio’r Saesneg.

12.5  Dyma rai cwestiynau y gellir eu gofyn er mwyn adnabod effeithiau posib penderfyniadau dyfarnu grant ar y Gymraeg.

12.6  Effeithiau uniongyrchol:

    • A fydd modd defnyddio’r Gymraeg mewn elfennau cyhoeddus o’r gweithgaredd, ac wrth gyfathrebu â’r trefnwyr?
    • A fydd y Gymraeg yn cael ei defnyddio wrth hybu a hysbysebu’r gweithgaredd?
    • A fydd deunyddiau sy’n cael eu cynhyrchu yn sgil y gweithgaredd ar gael yn Gymraeg?
    • A fydd y Gymraeg o leiaf yr un mor amlwg â’r Saesneg o ran deunyddiau, arwyddion, logos, cyhoeddiadau sain ac ati sy’n gysylltiedig â’r gweithgaredd?
    • A fydd y gweithgaredd yn cael effaith ar ddealltwriaeth ac ymwybyddiaeth pobl o faterion sy’n ymwneud â’r Gymraeg?

12.7  Effeithiau anuniongyrchol:

    • A fydd y gweithgaredd yn cael effaith ar gynaladwyedd cymunedau lle mae’n bwysig gweld twf neu gysondeb o ran nifer siaradwyr a defnydd o’r Gymraeg, er enghraifft yn sgil effaith ar yr economi, cynllunio, addysg neu gyfleoedd cymdeithasol?
    • A fydd y gweithgaredd yn cael effaith ar y nifer o blant sy’n derbyn addysg Gymraeg?
    • A fydd y gweithgaredd yn arwain at greu cyfleoedd gwaith i siaradwyr Cymraeg?
    • A fydd y gweithgaredd yn arwain at alluogi pobl i ddefnyddio’r Gymraeg yn y gwaith?
    • A fydd y gweithgaredd yn arwain at alluogi ac ysgogi pobl i ddefnyddio’r Gymraeg yn gymunedol neu yn y teulu?

 

 

 


13. Amodau safonol y gallech eu gosod ar gyfer derbyn grant

13.1  Nodir isod rai enghreifftiau o amodau y gellid eu gosod ar dderbynwyr grant, yn dibynnu ar sefyllfa’r grant unigol:

    • Cynnig gwasanaethau penodol yn Gymraeg, e.e. croesawu pobl, galluogi defnyddio’r Gymraeg ar y ffôn, cyhoeddiadau sain, gohebu yn Gymraeg, cynnig cwrs yn Gymraeg
    • Cyhoeddi deunyddiau yn Gymraeg, e.e. gwefan, dogfennau, arwyddion, neu gynnyrch creadigol y prosiect
    • Targedu siaradwyr Cymraeg wrth hybu a hysbysebu gweithgaredd
    • Sicrhau bod gweithgaredd yn cael ei gynnal mewn lleoliadau daearyddol sy’n cefnogi defnyddio’r Gymraeg
    • Cynnal gweithgaredd yn Gymraeg / dwyieithog
    • Datblygu a chadw at y cynllun Cynnig Cymraeg [busnesau ac elusennau]. Cynllun sy’n cael ei gynnig drwy Gomisiynydd y Gymraeg.
    • Cydymffurfio â safonau neu gynlluniau iaith Gymraeg [sefydliadau sydd dan ddyletswydd perthnasol]
    • Sicrhau bod capasiti adnoddau dynol neu gyllideb addas ar gael i alluogi darpariaeth Gymraeg
    • Darparu data neu dystiolaeth benodol ynghylch effeithiau’r grant ar y Gymraeg (gweler isod)

 

 

 


14. Monitro a Sicrwydd

14.1 Gellir gofyn i dderbynwyr grant adrodd ar sut y maent wedi defnyddio’r grant neu sut maent wedi cadw at delerau ac amodau’r grant. Er enghraifft, mae’n bosib creu holiadur ar gyfer derbynwyr grant, sy’n ei gwneud yn ofynnol adrodd yn ôl ar y defnydd o’r arian. Gellir gofyn am wybodaeth ynghylch yr effeithiau ar y Gymraeg fel rhan o hyn. Dyma enghreifftiau o ddata neu dystiolaeth y gellid gofyn amdanynt.

    • Nifer y deunyddiau a gynhyrchwyd yn Gymraeg / copïau o’r deunyddiau
    •  Nifer y staff neu wirfoddolwyr a allai gynnig gwasanaeth Cymraeg
    • Nifer y siaradwyr Cymraeg wnaeth gymryd rhan mewn gweithgaredd
    • Effaith economaidd y gweithgaredd mewn ardal benodol
    • Nifer swyddi a grëwyd o ganlyniad i’r grant
    • Ardaloedd lle cynhaliwyd gweithgareddau
    • Adborth gan ddefnyddwyr ynghylch defnyddio’r Gymraeg

14.2  Dylid cadw cofnod o gyfanswm y grantiau a ddosbarthwyd, ynghyd â chofnodi:

    • Nifer a % yr ymgeiswyr sydd wedi cyflwyno eu ceisiadau yn Gymraeg, a faint sydd wedi gwneud cais i gynnal y cyfweliad am grant yn y Gymraeg, fel rhan o’r asesiad o’r cais.
    • Nifer y mudiadau sydd wedi datblygu eu defnydd o’r Gymraeg ymhellach fel rhan o’r amodau i dderbyn grant cymunedol

14.3  Bydd yn ofynnol adrodd ar y data hwn fel rhan o Adroddiad Blynyddol Safonau’r Gymraeg.

 

 

 


Atodiad 1: Rhestr Wirio Dyfarnu Grantiau

Os ydych chi’n rheoli proses rhoi grantiau ar ran Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, bydd cadw at y rhestr wirio hon yn sicrhau eich bod yn cydymffurfio â gofynion Safonau’r Gymraeg. Bydd sicrhau eich bod yn cydymffurfio yn lleihau’r posibilrwydd o unrhyw gŵyn, apeliadau neu ymchwiliadau gan Gomisinydd y Gymraeg a’r amrywiol gostau sy’n gysylltiedig â hynny


Cam Gweithredu: Mae’r holl wybodaeth am y grant ar gael yn Gymraeg a bydd yn cael ei gyhoeddi ar yr un pryd â’r fersiwn Saesneg, gan gynnwys unrhyw ddogfennau canllaw, fframweithiau asesu a thelerau ac amodau.
Ar waith?


Cam Gweithredu: Mae’r dogfennau hysbysebu’r grant sy’n gwahodd ymgeiswyr i geisio am y grant yn cynnwys y cynnig rhagweithiol isod:

Caniateir cyflwyno ffurflen gais yn Gymraeg ac ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
An application form may be submitted in Welsh; any application submitted in Welsh will not be treated less favourably than an application submitted in English.

Ar waith?


Cam Gweithredu: Os bydd angen cyhoeddi deunyddiau gwybodaeth yn Saesneg ac yn Gymraeg ar wahân ee ffurflen gais: dylid gosod y frawddeg ganlynol ar dudalen flaen y ddogfen/nau Saesneg:

Mae’r ddogfen hon hefyd ar gael yn Gymraeg.
This document is also available in Welsh.

Ar waith?


Cam Gweithredu: Where an email address or phone number is used to ask people to get in touch, the following sentence is included in the poster, email or public notice.

Mae croeso i chi gyfathrebu â ni yn y Gymraeg.
You are welcome to communicate with us in Welsh.

Ar waith?


Cam Gweithredu: Mae’r manylion ynghylch gwahoddiad i geisio am y grant yn cynnwys cwestiynau er mwyn caniatáu i’r ymgeisydd ystyried effaith y prosiect ar y Gymraeg. Enghraifft:

Rhowch wybod i ni:

  • pa effeithiau fydd y gweithgaredd yn ei gael ar y Gymraeg, ac a yw’r rheiny’n bositif ynteu’n negyddol?
  •  pa gamau bydd yr ymgeisydd yn eu cymryd i gynyddu’r effeithiau positif a lleihau unrhyw effeithiau negyddol?

Ar waith?


Cam Gweithredu: Wrth asesu ceisiadau am y grant, mae’n ofynnol ystyried:

  • beth fydd effeithiau dyfarnu’r grant ar y Gymraeg, ac a yw’r rheiny’n bositif ynteu’n negyddol?
  • sut y gellir gwneud neu weithredu’r penderfyniad er mwyn cynyddu effeithiau positif a lleihau effeithiau andwyol
    a oes angen gwybodaeth ychwanegol gan yr ymgeiswyr er mwyn ystyried yr effeithiau ar y Gymraeg?

Cynghorir chi i ddefnyddio’r templed asesu effaith sydd i’w weld yn Atodiad 2

Ar waith?


Cam Gweithredu: Os byddwch yn trefnu cyfarfod i ofyn cwestiynau pellach mewn perthynas â’r cais, rydych wedi cynnwys y cynnig rhagweithiol isod. (Yn cynnwys cyfarfodydd hybrid a rhithwir.)

  • Croeso i chi ddefnyddio’r Gymraeg yn y cyfarfod dim ond i chi roi gwybod i ni erbyn xx/xx/xx.
  • You are welcome to use Welsh at the meeting, just let us know by xx/xx/xx should you wish to do so.

Ar waith?


Cam Gweithredu: Pan fyddwch yn rhoi gwybod i ymgeisydd beth yw eich penderfyniad mewn perthynas â chais am grant, rhaid i chi wneud hynny yn Gymraeg os cyflwynwyd y cais yn Gymraeg.

Ar waith?


Cam Gweithredu: Rydych chi wedi gosod amod grant i sicrhau effeithiau mwy cadarnhaol ar y Gymraeg: gweler enghreifftiau yn Adran 4:Amodau safonol y gallech eu
gosod ar gyfer derbyn grant, Polisi Dyfarnu Grantiau Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro.

Ar waith?


Cam Gweithredu: Rhaid parchu dewis iaith yr ymgeisydd yn ystod yr holl broses.

Ar waith?


Cam Gweithredu: Cadw cofnod nifer a chyfanswm y grantiau a ddosbarthwyd, ynghyd â chofnodi:

  • Nifer a % o ymgeiswyr sydd wedi cyflwyno eu ceisiadau yn Gymraeg, ac faint sydd wedi gwneud cais i gynnal y cyfweliad am grant yn y Gymraeg, fel rhan o’ch asesiad chi o’r cais.
  • Nifer y mudiadau sydd wedi datblygu eu defnydd o’r Ggymraeg ymhellach fel rhan o’r amodau i dderbyn grant cymunedol

Ar waith?

 

 

 


Atodiad 2: Templed ar gyfer ystyried effeithiau

Enw’r grant:
Enw’r ymgeisydd:


Rhan 1: Adnabod effeithiau ar y Gymraeg


Beth fyddai effeithiau dyfarnu’r grant ar y cyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg?
Effeithiau positif:
Effeithiau negyddol:


Beth fyddai effeithiau dyfarnu’r grant ar drin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg?
Effeithiau positif:
Effeithiau negyddol:


Rhan 2: Adnabod gwybodaeth ychwanegol


A oes angen gwybodaeth ychwanegol i helpu gyda’r penderfyniad?


Rhan 3: Gwneud a gweithredu’r penderfyniad


Sut gellid addasu’r penderfyniad i gynyddu effeithiau positif ar y Gymraeg?
Gwneud (e.e. rhoi grant ai peidio/ swm i’w roi):
Gweithredu (e.e. gosod amodau):


Sut ellid addasu’r penderfyniad i leihau’r effeithiau negyddol ar y Gymraeg? ?
Gwneud (e.e. rhoi grant ai peidio/ swm i’w roi):
Gweithredu (e.e. gosod amodau):

 

 

 


Rheoli Polisi

Lefel y Newid: Mae Polisi neu Newid Newydd yn gofyn am Gymeradwyaeth yr APC

Ymgynghoriad: Tîm Rheoli 11/6/24, 9/7/24

Asesiadau: Amherthnasol

Cymeradwyaeth: Awdurdod Parc Cenedlaethol, 24/7/24

Hanes y Fersiwn:
Fersiwn – F1
Dyddiad Gweithredol – 24/7/24
Crynodeb o’r Newidiadau – Polisi newydd

Adolygu:
Fersiwn – F1
Dyddiad Gweithredol – 24/7/24
Perchennog y ddogfen – Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd
Sbardun Dyddiad Adolygu – Cylch adolygu 3 blynedd