Telerau ac Amodau Digwyddiadau a Gweithgareddau
Digwyddiadau a Gweithgareddau yn ein hatyniadau taledig (Castell Caeriw, Castell Henllys)
- Nid yw tocynnau a brynwyd ar gyfer digwyddiadau a gynhelir gyda’r nos neu y tu allan i oriau agor arferol (gweler ein tudalen Cynllunio Eich Ymweliad am yr amseroedd) yn cynnwys mynediad yn ystod y dydd. Bydd angen prynu tocynnau dydd ar wahân.
- Mae tocyn i ddigwyddiad gyda’r nos yn cynnwys mynediad ar amser y digwyddiad, a dim ond ar gyfer y digwyddiad a archebwyd. Byddwch yn ymwybodol y gallai fod mynediad cyfyngedig i’n hatyniadau yn ystod digwyddiadau â thocynnau, ac efallai na fydd yr un mynediad ac amwynderau ar gael i ymwelwyr dydd.
- Wrth brynu tocynnau ar-lein, eich cyfrifoldeb chi fydd gwirio eich archeb a chadarnhad eich archeb trwy gydol y broses brynu; ni ellir cywiro camgymeriadau bob amser.
- Os yw digwyddiad wedi’i restru fel ARCHEBU’N HANFODOL, bydd angen i chi brynu tocyn o’n gwefan cyn y digwyddiad.
- Bydd angen i ymwelwyr anabl cofrestredig brynu tocyn digwyddiad. Os yn berthnasol, bydd un gofalwr sy’n dod yn gwmni yn derbyn mynediad am ddim. Bydd angen i ofalwyr gyflwyno tystiolaeth o’u statws; gweler ein tudalen Cynllunio Eich Ymweliad am restr o ddogfennau a dderbynnir. Cysylltwch â’r atyniad perthnasol os nad yw’r opsiwn tocyn Gofalwr ar gael ar-lein.
- Dylai ymwelwyr wirio amserau a dyddiadau digwyddiadau’n ofalus cyn eu hymweliad. Nid oes gennym unrhyw gyfrifoldeb i roi ad-daliad nac i ddarparu lle mewn sesiynau amgen os bydd ymwelwyr yn cyrraedd ar y dyddiad neu’r amser anghywir.
- Nid yw Tocyn Blwyddyn yn caniatáu mynediad i ddigwyddiadau â thocynnau, teithiau tywys gyda’r nos neu unrhyw ddigwyddiad neu weithgaredd sy’n codi tâl ychwanegol.
- Mae prisiau’r digwyddiad yn ddilys ar gyfer y dyddiad rydych chi wedi’i brynu yn unig; rydym yn cadw’r hawl i newid pris unrhyw ddigwyddiadau dilyniannol.
- Ni chaiff tocyn ei ddefnyddio at ddibenion hyrwyddo heb ganiatâd ffurfiol gan yr atyniad perthnasol.
- Mae’r prisiau i gyd mewn punnoedd sterling £ gan gynnwys y raddfa Treth ar Werth (TAW) gyfredol a godir yn y DU (ble fo’n gymwys).
Gwahanol fathau o fynediad i ddigwyddiadau / gweithgareddau yn ein hatyniadau taledig
- Mae digwyddiadau / gweithgareddau a restrir fel gweithgareddau ychwanegol yn galw am brynu tocyn mynediad atyniad arferol i bob oedolyn a phlentyn. Yna, gellir prynu’r digwyddiadau / gweithgareddau ychwanegol ar wahân os dymunir.
- Mae digwyddiadau / gweithgareddau a restrir fel rhai sydd wedi eu cynnwys am ddim gyda’r tâl mynediad arferol yn galw am brynu tocyn mynediad dydd arferol i bob oedolyn a phlentyn, ond ni chodir tâl ychwanegol am y gweithgaredd hwnnw.
- Ble y nodir bod digwyddiad / gweithgaredd yn weithgaredd rhad ac am ddim. Nid oes angen tocyn mynediad; bydd y gweithgaredd hwn yn digwydd cyn y rhwystr talu. Ni chaniateir mynediad i’r atyniad heb brynu tocyn mynediad.
- Ble y nodir bod digwyddiadau / gweithgareddau yn codi tâl ond nid ydynt yn cynnwys mynediad i’r atyniad; codir tâl am y gweithgaredd hwn a bydd yn digwydd cyn y rhwystr talu. Ni chaniateir mynediad i’r atyniad heb brynu tocyn mynediad ar wahân.
- Mae’n bosibl y bydd ambell ddigwyddiad / gweithgaredd yn gofyn ichi brynu tocynnau ar gyfer y plant yn ogystal â’r oedolion sy’n eu hebrwng. Cofiwch ddarllen yr hysbyseb ar gyfer digwyddiadau unigol yn ofalus.
Cyn mynychu digwyddiad
- Bydd hysbysebion ein digwyddiadau’n eich cynghori am unrhyw ddillad neu offer y byddwch eu hangen. Cofiwch wneud nodyn o hyn. Gallant gynnwys, ond fod heb eu cyfyngu i ddillad cynnes sy’n dal dŵr, tortsh, esgidiau addas ar gyfer y tywydd.
- Nid ydym yn darparu cadeiriau ar gyfer perfformiadau Theatr Awyr Agored. Cofiwch ddod â seddi addas fel carthen neu gadair cefn isel. Nodwch y cynhelir sioeau theatr ar y glaswellt, ac y gallai fod yn wlyb.
- Bydd pob tocyn ar ffurf e-docyn yn unig. Bydd cwsmeriaid yn derbyn cadarnhad trwy e-bost. Ni does angen argraffu copi ar bapur. Cyflwynwch eich enw llawn wrth y giât ar gyfer digwyddiad ac agor y cadarnhad ar e-bost ar eich dyfais rhag ofn i’r staff ofyn i’w weld.
- Ar gyfer ein holl sesiynau gweithgareddau neu deithiau tywys, cofiwch sicrhau eich bod yn cyrraedd o leiaf ddeg munud cyn yr amser dechrau.
- Sylwer – mae’n cymryd tua phump i ddeng munud i gerdded i’r Castell o un o’n meysydd parcio. Mae’n bosibl y cewch eich cyfeirio i barcio yno ar gyfer digwyddiadau mwy o faint neu’n ystod adegau prysur. Cofiwch ganiatáu digon o amser i barcio a chyrraedd y digwyddiad / gweithgaredd.
- Mae rhaid i blant dan 16 mlwydd oed gael eu hebrwng gan oedolyn bob amser (mae rhaid i oedolyn fod dros 18 oed).
- Ni fydd ein staff yn goruchwylio plant yn ystod gweithgareddau / digwyddiadau. Cyfrifoldeb rhiant / gwarcheidwaid fydd hynny.
Ad-daliadau a chanslo
- Ni ellir ad-dalu tocynnau i ddigwyddiadau / gweithgareddau ac ni ellir eu copïo na’u hailwerthu i bartïon eraill.
- Bydd Theatr Awyr Agored a digwyddiadau awyr agored eraill yn cael eu cynnal mewn tywydd gwlyb. Cofiwch baratoi ar gyfer hyn.
- Weithiau, mae’n bosibl y bydd angen i ni ganslo digwyddiadau neu newid yr amser. Os ydych wedi prynu tocyn digwyddiad, fe wnawn bob ymdrech resymol i gysylltu gyda chi ymlaen llaw i’ch hysbysu am y newidiadau hyn, gan ddefnyddio’r manylion cyswllt a ddarparwyd gennych wrth archebu.
- Ni ellir ad-dalu tocynnau. Nid ydym yn cynnig ad-daliadau oherwydd y tywydd, amseroedd aros, newidiadau i’r amserlen ddyddiol o weithgareddau neu gau’r atyniad/safle’n rhannol. Os bydd tywydd garw, efallai y bydd rhannau o’r atyniad/safle yn cael eu cau er diogelwch ein hymwelwyr. Ni roddir ad-daliadau yn yr achos hwn. Os ydych yn bryderus am y tywydd, rydym yn awgrymu edrych ar ein tudalennau Facebook neu ffonio’r atyniad/safle cyn ymweld.
- Os bydd tywydd peryglus yn ein harwain i ganslo digwyddiad sydd â thocynnau (a/neu gau atyniad/safle) yna efallai y byddwn yn cynnig amser neu ddyddiad arall i chi. Os nad yw hynny’n bosibl, yna rhoddir ad-daliad llawn. Os bydd ad-daliad yn ddyledus, byddwn yn cysylltu â chi gan ddefnyddio’r manylion cyswllt a ddarparwyd gennych wrth archebu.