Yn 2020 roedd llawer ohonom wedi cael amser i arafu a meddwl am yr holl bethau sy’n annwyl i ni, pobl a lleoedd yn ogystal â’r rhyddid i dreulio amser yng nghanol harddwch ein Parciau Cenedlaethol. Cawsom ein hatgoffa’n bendant hefyd fod bywydau pob un ohonom yn gysylltiedig a bod yr hyn rydym yn ei wneud fel unigolion yn gallu cael effaith fawr iawn hefyd ar bobl eraill ac ar natur – er gwell neu er gwaeth.
Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yw un o’r Parciau Cenedlaethol lleiaf yn y DU, ond mae hefyd yn lle sy’n cynnig amrywiaeth o dirweddau trawiadol, olion archeolegol a chartref i nifer o anifeiliaid a phlanhigion sydd wedi diflannu mewn rhannau eraill o’r DU. Er bod gwarchod y nodweddion arbennig hyn yn un o brif rolau Awdurdod y Parc, ni allwn wneud hynny ar ein pen ein hunain.
Rydym yn cydweithio’n agos â pherchnogion tir a phartneriaid i’w helpu i ofalu am y tirweddau rhyfeddol hyn ond, wrth i nifer cynyddol o bobl ddod i weld yr ardal hyfryd hon, mae’r gallu i’w chynnal at y dyfodol yn dibynnu ar gydweithio rhwng pawb ohonom. Mae’r dewisiadau a wnawn yn helpu i gadw’r Parc Cenedlaethol yn ddiogel a deniadol – fel lle i fyw, gweithio ac ymweld.
Sut allwch chi helpu?
Gwnewch Adduned Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro. Mae’r gallu gan bob un ohonom i gyfrannu’n gadarnhaol at ddyfodol yr unig Barc Cenedlaethol ym Mhrydain sy’n perthyn yn gyfan gwbl i’r arfordir. Gadewch i ni wneud i’r eiliad hon gyfri – i genedlaethau’r presennol a’r dyfodol.
Rydym yn apelio at bob un o i wneud eich marc ar Arfordir Penfro yn y ffordd sy’n cyfrif fwyaf – drwy droedio’n ysgafn a gadael dim ond ôl eich traed.
Parchu tirwedd arbennig y Parc a’i bwyd gwyllt
Beth allwch chi ei wneud:
- Rhoi’ch sbwriel yn y bin, neu fynd ag ef adref.
- Cymryd rhan mewn gweithgarwch codi sbwriel am bum munud ar eich hoff draeth, neu chwilio am gyfleoedd i wirfoddoli yn y Parc Cenedlaethol.
- Defnyddio toiledau cyhoeddus penodedig bob amser.
- Lleihau’ch effaith ar ansawdd aer drwy wneud llai o siwrneiau mewn car a theithio ar droed neu ar gefn beic, neu mewn trên neu fws yn lle hynny.
- Parchu bywyd gwyllt a pheidio â tharfu arno.
Rhoi help llaw
Mae Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn annog pobl i gymryd rhan mewn sawl agwedd ar ei waith ac mae gan bobl nifer o wahanol resymau dros ddewis gwirfoddoli.
Bydd rhai’n gwneud hynny er mwyn cadw’n iach a gweithgar, rhai er mwyn dysgu a datblygu sgiliau newydd a rhai er mwyn rhoi rhywbeth yn ôl i’r Parc Cenedlaethol a’u cymunedau lleol.
Mae eraill yn gwirfoddoli i wella eu lles eu hunain, neu fel cyfle i fynd o’r tŷ, cwrdd â phobl newydd a bod yn rhan o dîm.
Pa resymau bynnag sydd gan bobl dros wirfoddoli yn y Parc Cenedlaethol, maen nhw’n gweld ei fod yn hwyl, yn heriol ac yn fuddiol.
I gael rhagor o wybodaeth, anfonwch e-bost at y Swyddog Gwirfoddolwyr Rebecca Evans neu ffoniwch 01646 624847.
Parchu cymunedau lleol a phobl eraill
Beth allwch chi ei wneud:
- Gwersylla mewn safleoedd gwersylla penodedig yn unig.
- Cadw cŵn ar dennyn o gwmpas da byw a gofalu am godi baw ar eu hôl.
- Parcio’n gyfreithlon ac yn gyfrifol. Cadw priffyrdd a mynedfeydd yn glir a gadael digon o le i eraill, yn cynnwys cerbydau’r gwasanaethau brys a thractorau, i fynd heibio’n ddiogel.
- Parchu’r ffaith bod nifer mawr o bobl yn dod i’r Parc Cenedlaethol am lonyddwch a gofalu nad ydych yn tarfu ar eu heddwch.
- Siopa’n lleol a chefnogi cynhyrchwyr a busnesau Sir Benfro.
Mentrwch i’r gwyllt… ond peidiwch ag aros yno dros nos
Mae gwersylla yn y gwyllt mewn pebyll neu gerbydau gwersylla yn anghyfreithlon ac nid ydym yn ei groesawu. Arhoswch ar safle gwersylla yn lle hynny.
Yn ogystal â chyfrannu i fusnes lleol a’i helpu i ymadfer ar ôl cyfnod anodd, byddwch hefyd yn gallu gwaredu’ch sbwriel a’ch dŵr gwastraff mewn ffordd briodol. Nid yw biniau sbwriel a thoiledau cyhoeddus yn addas i adael gwastraff gwersyllwyr ac nid yw blodau gwyllt yn hoff o ddŵr golchi llestri.
Hyd yn oed os ydych chi’n wersyllwr glân a chyfrifol, mae eraill yn llai felly a gallent eich efelychu ond gadael llanastr ar eu hôl.
Cofiwch fod angen seibiant ar fywyd gwyllt hefyd! Drwy aros ar safle gwersylla penodedig, byddwch yn sicrhau bod bywyd gwyllt a mannau gwyllt yn cael amser i fwydo, tyfu a gorffwys heb darfu arnynt gan bobl.
Eich cadw’ch hun a phobl eraill yn ddiogel
Beth allwch chi ei wneud:
- Gwisgo ar gyfer yr awyr agored a rhoi esgidiau addas am eich traed.
- Nofio ar draethau lle mae achubwr bywydau yn unig.
- Bod yn ymwybodol o’r llanw a newidiadau yn y tywydd.
- Bod yn gyfrifol wrth gael gwared ar offer barbeciw.
- Dilyn unrhyw ganllawiau ar gadw pellter cymdeithasol.
Gwisgwch eich esgidiau gorau
Mae’r tir a’r tywydd yn Sir Benfro yn gallu amrywio’n fawr. Y flwyddyn ddiwethaf, cafodd y gwasanaethau brys nifer mawr o alwadau gan bobl a oedd wedi llithro neu gael anaf o ganlyniad i wisgo esgidiau anaddas.
Dewiswch esgidiau â gwadnau da (mae drain duon yn bigog ofnadwy a gallant achosi haint annifyr os byddant yn torri’r croen) sy’n ddigon cryf am eich fferau.
Er bod teithiau cerdded sy’n addas i bawb yn y Parc Cenedlaethol, y peth gorau yw meddwl am bob taith fel un yn y mynyddoedd a gwisgo esgidiau sy’n addas ar gyfer hynny.
Sir Benfro ym mhob tymor
Mae pawb yn gwybod bod diwrnod hyfryd o haf yn Sir Benfro yn falm i’r enaid. Ond os nad ydych yn hoff o dorfeydd ac yn awyddus i ddilyn llwybr llai prysur, beth am ymweld yn ystod rhai o’r misoedd sy’n dawelach fel arfer?
Bydd nifer o gyfrinachau gorau’r Parc yn dod i’r amlwg yn y cyfnodau hyn ac mae cymaint o amrywiaeth i’w gael wrth ymweld.
Bob blwyddyn rhwng diwedd Awst a dechrau Tachwedd, bydd mwy na 100 o forloi llwyd yn cael eu geni ar draethau ac mewn baeau bach anghysbell ar hyd Arfordir Sir Benfro. Yn bellach o’r môr, bydd misoedd yr hydref yn dod â lliwiau llachar i lannau dyfrffordd Daugleddau, sydd mor llonydd fel arfer, a heidiau o adar mudol fel y cwtiad aur, y cornicyll, yr asgell goch a’r socan eira.
Mae’r gaeaf yn dod â’i swyn annisgwyl i’r Parc Cenedlaethol – wrth fwynhau harddwch rhyw draeth gwyntog gwag, efallai, neu ddathlu’r Hen Galan (mae’n cael ei ddathlu ar 13 Ionawr) yng ngogledd y sir. Ar nosweithiau clir y gaeaf bydd yr awyr uwchben Sir Benfro yn dod yn fyw gan gynnig cyfle astudio’r Llwybr Llaethog a gwylio’r sêr.
Wrth i’r rhan fwyaf o bobl gynllunio ar gyfer eu gwyliau haf, mae’r gwanwyn yn cynnig ei ryfeddodau unigryw ei hun a’r gwrychoedd, llethrau’r glannau a choetiroedd yn Sir Benfro yn troi’n blethwaith lliwgar o flodau gwyllt, yn cynnwys clustog Fair, clychau’r gog a’r cennin Pedr Cymreig siriol sydd i’w gweld ym mhob man.
Felly mae’n werth ymweld â Pharc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro ym mhob tymor!