Yn 2014 rhwygodd stormydd enfawr y tywod i ffwrdd o draeth y Porth Mawr. Dros nos, dadorchuddiwyd bonion coetir hynafol. Roedd y goedwig honno'n llawn anifeiliaid gwyllt.
Cliciwch ar y delweddau isod i weld adluniadau 3D rhyngweithiol.
Bual mawr
Cyndad gwyllt y fuwch. Darganfuwyd y corn bual mawr hwn ym Mhorth Mawr. Defnyddiodd y bual mawr ei gyrn hir i amddiffyn ei hun.
Mawr iawn a chryf iawn! Gallai tarw dyfu hyd at 1.8m o daldra a phwyso hyd at 1,000kg.
Llysieuwr – yn pori ar weiriau a llwyni, gan wneud llennyrch.
Roedd eu carnau trwm yn sathru ar blanhigion marw, gan helpu i ddychwelyd maetholion i’r pridd. Roedd adar yn defnyddio gwallt bualod mawr i leinio eu nythod.
Roedd chwilod y dom yn bwydo ar faw bualod mawr a’i gymysgu i’r pridd. Daeth i ben ym Mhrydain tua 3,500 o flynyddoedd yn ôl, yn ôl pob tebyg oherwydd hela a ffermio cynnar. Mae’n bosibl bod rhai bualod mawr wedi rhyngfridio â’r gwartheg dof y daeth y ffermwyr cynnar i Brydain o Ewrop mewn cwch.
Arth Brown Ewropeaidd
Gên arth frown Asgwrn cefn arth frown
Mae eirth brown yn tueddu i fyw mewn coetiroedd lle mae amrywiaeth o blanhigion a llwyni yn tyfu o dan y coed.
Mae eirth yn hollysyddion – maen nhw’n bwyta gweiriau, perlysiau, ffrwythau, aeron a gwreiddiau yn bennaf, yn ogystal â morgrug, mêl, cwyr gwenyn, larfa pryfed, cnofilod bach, pysgod a chelanedd. Weithiau gallant hela anifeiliaid mwy am gig.
Mae diet yr arth yn golygu eu bod yn gwasgaru hadau – gyda chymorth hael o dom, gwrtaith naturiol. Gan fod eirth yn byw yn y goedwig hynafol, gallwn ddweud bod yr amgylchedd yn ôl pob tebyg mewn iechyd da, gydag amrywiaeth eang o fwyd eirth ar gael.
Daeth eirth brown i ben ym Mhrydain tua 1,500 o flynyddoedd yn ôl. Cawsant eu hela am eu ffwr a’u cig. Roedd colli cynefinoedd hefyd yn chwarae rhan.
Darganfuwyd dwy ochr asgwrn gên isaf yr arth hwn ym Mhorth Mawr. Mae’r model 3D yn dangos sut oeddent nhw’n ffitio gyda’i gilydd.
Roedd yr arth yn defnyddio ei ddannedd miniog – neu gïol, i ddal a gafael mewn ysglyfaeth. Roedd y dannedd malu gwastad ar gyfer crensian a malu bwyd o blanhigion.
Wrth ymyl asgwrn yr ên roedd atlas yr arth. Yr atlas yw rhan uchaf yr asgwrn cefn, sy’n cysylltu â’r benglog. Mae’r tyllau yn sianelu nerfau, pibellau gwaed a meinwe meddal arall ar hyd yr asgwrn cefn i’r ymennydd.
Carw Coch
Mae’r corn hwn yn fawr iawn. Mae’r maint yn dweud wrthym am y tymheredd ar yr adeg roedd y carw yn fyw.
Mewn hinsawdd oerach, mae anifeiliaid yn tueddu i fod yn fwy. Mae’r cyrn hefyd yn eithaf trwm ac yn pefrio. Mae wedi dechrau mwyneiddio, neu ddod yn ffosil.
Sylwch fod blaen y corn wedi’i ddifrodi. Pam ydych chi’n meddwl y gallai hyn fod?